Symud i'r prif gynnwys

Ymweliad Kay Swinburne ASE

Bydd Dr Kay Swinburne yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol heddiw.

Mae’r Llyfrgell yn awyddus iawn i ddatblygu ei pherthynas ag Ewrop ac fel un o Aelodau Seneddol Ewropeaidd y mae Dr Swinburne mewn sefyllfa ddelfrydol i’n helpu ni i wneud hynny. Y mae dau o’i chyd aelodau eisoes wedi ymweld â ni, sef Jill Evans ASE a Derek Vaughan ASE. Mae’r Llyfrgell yn ddyledus iawn i’r tri am eu cefnogaeth a’u diddordeb yng ngwaith y Llyfrgell.

Daw Dr Swinburne yn wreiddiol o Aberystwyth ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llandysul cyn mynd ymlaen i astudio Biocemeg a Microbioleg yng Ngholeg y Brenin, Llundain, cyn cael PhD mewn ymchwil feddygol a MBA o Brifysgol Surrey. Etholwyd Kay yn ASE Ceidwadol dros Gymru ym Mehefin 2009.

Dywedodd Dr Aled Gruffydd Jones Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd ymchwil mawr Ewrop a chanolfan gwybodaeth ymhlith y bwysicaf. Byddwn yn lansio’n Strategaeth newydd, Gwybodaeth i Bawb, yn fuan a byddai medru manteisio ymhellach ar ffrynny’n fwy”.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk