Gwlad Gwlad
Ydych chi wedi meddwl mor braf fyddai gallu canu’r linell alto, tenor neu fas i ‘Hen Wlad fy Nhadau’? Neu efallai eich bod wedi ceisio dysgu plentyn neu berson di-Gymraeg i ynganu ac yna canu geiriau’r anthem? Mae App newydd sbon gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a chwmni Eto Music Practice Applications nawr ar gael i’ch helpu i’w chanu mewn harmoni ac hefyd ddysgu mwy am ei hanes.
Mae gan yr App dwyieithog Gwlad Gwlad ryngwyneb dyfeisgar ac unigryw sy’n dysgu’r defnyddwyr i ynganu’r geiriau’n gywir, ac yna dysgu’r alaw neu un o’r lleisiau eraill yn araf yn gyntaf cyn symud ymlaen i’w canu ar y cyflymder arferol.
Mae’r App hefyd yn cynnwys hanes cyfansoddwyr yr anthem – Evan James (Ieuan ab Iago) a’i fab James James (Iago ab Ieuan) - a sut y cyfansoddwyd yr alaw a’r geiriau, ynghŷd â delweddau o lawysgrifau cynharaf yr anthem sy’n rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd disgwyl i’r App gael defnydd eang gan unigolion, addysgwyr a grwpiau fel ei gilydd.
“Dyma’r tro cyntaf i’r Llyfrgell ddatblygu App ar cyd â phartner masnachol,” meddai Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. “Mae’r prosect yn un cyffrous iawn am ei fod yn cyfuno technoleg flaengar ac eitemau o gasgliad y Llyfrgell. Mae Gwlad Gwlad yn enghraifft wych o’r modd y gall y Llyfrgell gydweithio â chwmniau a chyrff eraill i hyrwyddo ein diwylliant a’n hunaniaeth ymhlith cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt.”
“Mae’r App wedi ei seilio ar demplad unigryw a ddyfeisiwyd gan Eto Music Practice Apps, sy’n caniatau’r defnyddiwr i reoli curiad y dôn er mwyn ymarfer y gerddoriaeth a’r geiriau,” yn ôl llafarydd ar ran y cwmni. “Bydd yr App yn galluogi miloedd ar filoedd o bobl yng Nghymru ac ar hyd a lled y byd i ganu Hen Wlad Fy Nhadau. Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio efo Llyfrgell Genedlaethol ar y prosiect hwn.”
Mae cynhyrchwyr Gwlad Gwlad yn pwysleisio nad oes angen medru darllen cerddoriaeth i ddefnyddio’r App a bydd gan y defnyddiwr gwell dealltwriaeth o nodiant cerddoriaeth ar ôl defnyddio’r App i ddysgu’r anthem.
Mae Gwlad Gwlad ar gael drwy:
Am fanylion pellach cysyller â
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
post@llgc.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Nodweddion yr App
- Dysgwch sut i ynganu geiriau Cymraeg Hen Wlad fy Nhadau.
- Gallwch ymarfer/ddynwared y geiriau ar gyflymder araf priodol neu ar y cyflymder mae’n cael ei chanu fel arfer.
- Gallwch ymarfer cymalau neu frawddegau. Gallwch ddewis mannau cychwyn a stopio yn rhwydd a gallwch ailadrodd yr adrannau hyn ar wahanol gyflymderau tan i chi eu meistroli.
- Gallwch ddysgu sut i ganu’r alaw yn gywir a gallwch ddewis rhwng Alaw Menyw neu Alaw Dyn.
- Gallwch ddewis a dysgu’r lleisiau mewn harmoni: alto, tenor neu fas.
- Fel wrth ddysgu’r geiriau, gallwch ymarfer yr alaw a phob llais mewn adrannau.
- Wrth ddysgu eich rhan unigol bydd gennych gyfeiliant offerynnol, eich rhan eich hun wedi ei ganu drosoch, ac yn y pen draw y tri llais arall er mwyn rhoi i chi’r profiad o ganu mewn harmoni ag eraill.
- Dilynwch y nodiant cerddorol a’r geiriau ar gyfer pob llais ar y sgrin gyda Mesurydd Curiad uwchlaw’r gerddoriaeth. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cadw’r curiad fel y buasai arweinydd yn ei wneud. Mae’r geiriau hefyd wedi eu hamlygu yn y man priodol.
- Nid oes rhaid i chi allu darllen cerddoriaeth i ddysgu ond bydd gennych well dealltwriaeth o nodiant cerddorol wedi i chi ganu gyda’r App.
- Mae’r App hefyd yn rhoi hanes y gerddoriaeth, y geiriau a’i chyfansoddwyr, wedi’i ddarlunio gyda delweddau o’r llawysgrifau cynharaf o’r Anthem sydd ar gadw nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Eto Music Practice Apps yn creu a chyhoeddi adnoddau ymarfer cerddoriaeth ar-lein ac ar ffurf Apps i ysgolion ac ar gyfer dysgu yn y cartref. Mae eu Apps Eto Music Practice ar werth mewn 32 o wledydd ar hyd a lled y byd. Maent hefyd yn datblygu cynnyrch addysg cerddoraieth newydd a chynnyrch arall ar gyfer Google Glass. Mae’r cwmni wedi’i leoli ym Mhontsian, Ceredigion.
Cyswllt Robert Winter 01559 363 449
robertwinter@applaudmarketing.co.uk
@applaudmktg