Gweithredu Diwydiannol - Ymateb y Llyfrgell
Mae Undebau Llafur Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithredu’n ‘fyr o streic’ heddiw.
Meddai Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:
“Bydd y Llyfrgell yn rhoi hyd at 14% o godiad cyflog o Ebrill 2015 i dros 60 o weithwyr sydd ar fandiau isel a hynny er mwyn cyrraedd targedau Cyflog Byw Llywodraeth Cymru. Felly, mae gweithredu fel hyn yn gwbl annheg ac afresymol”.
“O ran gweddill y staff, mae’r Llyfrgell hefyd wedi ymrwymo i ystyried gwneud rhan o’r codiad cyflog o 3% a’r £500 sydd wedi’i gynnig yn barod, yn godiad cyfunol. Ond y mae’n rhaid i ni sicrhau fod yr adnoddau gennym nawr ac yn y dyfodol i allu cynnal codiad cyflog fel hyn”, meddai.
Mae’r gweithredu hwn yn digwydd ar adeg anodd iawn yn ariannol i’r Llyfrgell. Fel sy’n hysbys, Grant Cymorth Llywodraeth Cymru sy’n talu am gyflogau staff ac y mae’r grant hwn yn mynd i leihau o 2% flwyddyn nesaf, ac wedi gostwng tua 25% dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Mae’r Llyfrgell yn ymddiheuro i aelodau’r cyhoedd am unrhyw anghyfleustra a ddaw i’w rhan o ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol hwn.
Am wybodaeth pellach gysyllter â swyddfa’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd
Ffôn: 01970 632805
ebost: rhian.evans@llgc.org.uk