Symud i'r prif gynnwys

Cymru yn y Rhyfel

Mae’n bleser gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyhoeddi lansiad Cymru yn y  Rhyfel (W@W) yng Nghaerdydd heddiw, prosiect i ddatblygu dysgu cynhwysol a gweithgareddau treftadaeth fel rhan o raglen coffau’r Rhyfel Mawr yng Nghymru.

Ariennir Cymru yn y Rhyfel o gronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, Cronfa Treftadaeth y Loteri ac Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru.  Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn arwain y prosiect, mewn partneriaeth â’r Llynges Frenhinol ac ysgolion yng Nghymru. Mae’r prosiect hefyd yn gweithio’n agos ag ystod o bartneriaid, gan gynnwys  y Lluoedd Arfog, CACC, CADW, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru,  Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad a’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel. 

Bydd Cymru yn y Rhyfel yn creu adnodd digidol o bwys drwy greu platfform penodol / App. Bydd yr ap yn cynnwys: llinell amser y Rhyfel Mawr fydd â naws Gymreig arbennig iddo; adran Theatrau Rhyfel, yn dangos lle bu aelodau’r Lluoedd Arfog o Gymru yn ymladd, gan ddefnyddio deunyddiau astudio craidd i ddangos eu hamodau byw a’u profiadau; ac adran ar gofebion fydd yn cynnwys manylion am gofgolofnau rhyfel ar hyd a lled Cymru a fydd yn annog pobol ifanc i gynnal ymchwil hanesyddol drwy lunio bywgraffiadau am y sawl a fu syrthio yn y Rhyfel yn ôl y rhestrau enwau ar y cofgolofnau rhyfel cymunedol. Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth o’r cofebion a’u cyseiniant, gan dynnu sylw at yr angen i’w cynnal a’u cadw, a bydd yn creu gwaddol ystyrlon o’r Rhyfel Mawr i Gymru a’n talu teyrnged i’r sawl a fu syrthio.

Yn ôl yr Athro Lorna Hughes, Cadair Casgliadau Digidol Prifysgol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Chyfarwyddwr y Prosiect, “Mae Cymru yn y Rhyfel yn adnodd dysgu a darganfod dwyieithog cynhwysol fydd yn helpu pobol ifanc yng Nghymru i ddatblygu dealltwriaeth well o hanes. Bydd y prosiect yn annog myfyrdod ar effaith trawsnewidiol y Rhyfel Mawr ar fywyd a chymunedau yng Nghymru” 

Dywedodd Tom Herman, Rheolwr yn y Llynges Frenhinol, “Drwy ganolbwyntio ar weithgareddau sydd wedi eu seilio ar gofebau lleol, bydd Cymru yn y Rhyfel yn amlygu aberth aelodau’r Lluoedd Arfog o Gymru, a dangos effaith y Rhyfel ar unigolion a chymunedau. Bydd y prosiect yn cyflwyno cenedlaethau newydd i achos, effaith a chanlyniadau’r Rhyfel Mawr, ar fywyd ac ar gymunedau yng Nghymru gyfan, tra hefyd yn talu teyrnged ac ein hatgoffa o waith caled ac aberth y Cymry ”

Yn ôl yr hanesydd a’r awdur Dr Jonathan Hicks, Prifathro Ysgol St Cyres, “Drwy gydol y prosiect bydd disgyblion ac athrawon yn derbyn arweiniad ar sut i ddatblygu sgiliau newydd ym meysydd ymchwil hanesyddol a thechnoleg newydd, er mwyn cofnodi a chipio  delweddau o gofgolofnau rhyfel lleol, i greu bywgraffiadau o’r rhai a fu syrthio, ac i adrodd ar eu canfyddiadau, ac i rannu eu profiadau dysgu drwy gyfrwng gweithgareddau creadigol, digidol neu ar record, yn unol ag oedran a gallu’r disgybl. Bydd yn brosiect yn caniatáu  dealltwriaeth fwy cynrychioladol i’r disgybl o natur byd eang y Rhyfel Mawr, a bydd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’r Rhyfel tu hwnt i’r delweddau ystrydebol o ffosydd y Ffrynt Gorllewinol”  

Cred Kate Marshall, Ymgysylltydd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, y bydd Cymru yn y Rhyfel yn “annog myfyrwyr i ymchwilio i’w gorffennol ac, yn y pendraw, i ymgysylltu â hanes eu hardal. Bydd y prosiect yn caniatáu myfyrwyr, ac athrawon fel eu gilydd, i goffau'r dynion a’r merched hynny a fu farw yn y Rhyfel Mawr. Drwy ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd gall myfyrwyr feithrin a rhannu eu hymchwil, ymweld â chofebion a mynwentydd   rhyfel a chreu darlun o effaith y rhyfel ar Gymru gyfan gobeithio” 

Mae Cymru yn y Rhyfel yn adnodd estyn allan cymunedol pwysig fydd yn meithrin gwell ymgysylltiad rhwng ysgolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau milwrol, yn ogystal â datblygu bywgraffiad ar y cyd ar thema Gymru mewn rhyfel. Bydd y prosiect yn deyrnged addas ac ystyrlon ‘I feibion Cymru a roddodd eu bywydau yn Rhyfel Mawr 1914-18 (Ysgrifen o’r Gofeb Rhyfel Cenedlaethol Cymru, Caerdydd)

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk