60: Lluniau gan Marian Delyth
Ar y 12fed o Ebrill 2014, bydd arddangosfa arbennig o waith y ffotograffydd Marian Delyth yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Bydd 60: Lluniau gan Marian Delyth yn dathlu oes o ymroddiad i ffotograffiaeth ac yn nodi carreg filltir arbennig ym mywyd y ffotograffydd wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 60 mlwydd oed.
Meddai Marian Delyth:
‘Eleni, rwy'n dathlu ac yn diolch bod y ddau lygad yma a gefais i wedi cael y fraint o syllu ar y byd o’m cwmpas am drigain mlynedd.
Bu'r camera yn gydymaith i mi ar y daith am ddeugain mlynedd ddi-dor. Yn fyfyrwraig yn y coleg yng Nghasnewydd , cefais fy nghyffroi gan gyfrwng ffotograffiaeth ac fe gydiais yn dynn ynddo drwy gydol fy mywyd.’
Nid arddangosfa ôl-syllol gynhwysfawr yw hon ond dewis personol Marian Delyth o 60 o luniau sy'n tystio i ddefnydd amrywiol o gyfrwng y lens.
Meddai Jaimie Thomas, Swyddog Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Mae’r Llyfrgell yn falch iawn o arddangos gwaith Marian wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 60 mlwydd oed. Bydd cyfle i ymwelwyr weld datblygiad Marian fel ffotograffydd yn yr arddangosfa gofiannol hon; o’r llun cyntaf iddi dynnu yn ferch fach i rai o ddarnau creadigol heddiw. Mae'r rhain yn cynrychioli cofnod pwysig o ddiwylliant Cymru ac yn rhywbeth i’w drysori ar gyfer cenedlaethau i ddod’
Lluniau o Gymru sydd yn yr arddangosfa yn bennaf ond mae yna hefyd luniau o daith Marian Delyth i Dde Affrig nôl yn 2003, ac mae’r arddangosfa yn grynhoad o waith oes.
Gwybodaeth bellach
Elin-Hâf, 01970 632534 neu post@llgc.org.uk
12 Ebrill – 14 Mehefin 2014
60: Lluniau gan Marian Delyth