Stori i'w hadrodd?
Ydych chi wedi darganfod mai eich tŷ chi oedd siop y pentref ers talwm? Neu newydd ddod o hyd i hen fodryb a gafodd fywyd diddorol dros ben? Efallai eich bod wedi cyfrannu hen ffotograffau o bwys lleol ar ôl dod ar eu traws wrth glirio’r atig? Neu efallai fod yr ymchwil a’r arweiniad gawsoch chi gan staff yn eich gwasanaeth archifau wedi helpu gyda’ch astudiaethau?
Beth bynnag yw eich stori chi, mae’r gwasanaethau archifau yng Nghymru yn awyddus i glywed gennych!
Os ydych wedi defnyddio gwasanaeth archifau yng Nghymru a darganfod rhywbeth a newidiodd eich bywyd neu os cawsoch eich ysbrydoli i ddarganfod mwy am eich teulu neu hanes lleol, dyma eich cyfle i ennill £100 trwy adrodd eich stori.
Meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth “Mae gwasanaethau archifau yn chwarae rhan hanfodol o fewn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac maent yn adnawdd gwerthfawr er dibenion diwylliannol ac addysgol. Trwy gasglu eich straeon bydd yr ymgyrch hon yn cydnabod y gwerth anhepgor y gall archifau ei ychwanegu at fywyd cenedlaethol Cymru, gan sicrhau bod y gorffennol ar gael ar gyfer y dyfodol.”
Fe wnaeth Russel Hill dreulio tri mis yn Archifau Morgannwg yng Nghaerdydd ar raglen CLOCH (Diogelu Treftadaeth Cymunedau Lleol). Mae’r rhaglen wedi’i hanelu’n benodol at ddynion ifanc o Dde Cymru sy’n ddi-waith. Dywedodd Russel: “Nid yn unig roedd hi’n teimlo’n grêt yn gwneud rhywbeth roedd gen i ddiddordeb ynddo, ond roedd y profiad dysgu yn ardderchog. Buom yn treulio amser yn ymchwilio i hanes lleol, digideiddio cofnodion, ymgysylltu â’r gymuned ac mae’r holl brofiad wedi rhoi hwb enfawr i’m hyder a’m gallu, yn broffesiynol a phersonol.”
Dywedodd un o ddefnyddwyr archifau Sir Ddinbych : "Roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am droseddwyr yn cael eu halltudio i Awstralia, felly fe es i draw at Archifau Sir Ddinbych yn y gobaith y gallwn ddarganfod mwy. Roedd hi’n gyffrous dod o hyd i wybodaeth am y troseddwr olaf i gael ei alltudio yn 1868. Fe wnes i ymweld ag Awstralia yn 2012 a hyd yn oed cwrdd ag un o ddisgynyddion y troseddwr yn Sydney a rhannu fy ngwaith ymchwil gyda’i deulu. Rwy’n bwriadu dal ati i ymchwilio gan ddefnyddio dogfennau y des i o hyd iddynt yn Awstralia"
Bydd rhai o’r straeon buddugol o bob rhan o Gymru yn cael eu troi’n ffilmiau byrion gan ddangos yr amrywiaeth o gofnodion, ffotograffau a dogfennau y gallwch gael mynediad atynt yn rhad ac am ddim yn eich gwasanaeth archifau lleol.
I gael cyfle i ennill £100, cysylltwch â’ch gwasanaeth archifau lleol neu ewch i archifaucymru.org. Neu mae Archifau Cymru i’w cael ar Facebook a Twitter.
Gwybodaeth pellach
Elin Hâf, 01970 632534 post@llgc.org.uk