Symud i'r prif gynnwys

Nodiadau- maes

Iwan Bala a Menna Elfyn
8 Mehefin – 31 Awst 2013

Bydd yr arlunydd Iwan Bala a’r bardd Menna Elfyn yn cyfuno geiriau a delweddau mewn deialog greadigol ynglŷn â’u diddordeb mewn iaith, hunaniaeth a lle mewn arddangosfa arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth rhwng 8 Mehefin a 31 Awst 2013.

Arddangosfa ar y cyd yw Nodiadau-maes gan yr artist Iwan Bala a’r bardd Menna Elfyn. Ers blwyddyn a mwy, mae pytiau o gerddi Menna, rhestrau o enwau llefydd Cymraeg, enwau teuluol, traethodau beirniadol a chyfeiriadau gwasgarog eraill wedi ysbrydoli a chynnal lluniadau Iwan. O’u cyflwyno ar ffurf astudiaeth sydd ar y gweill, mae’r geiriau hyn, sydd wedi’u darnio, eu rhwygo, eu crafu allan a’u trwytho mewn inc, yn mynegi gerwinder herfeiddiol – yn drosiad am freuder ieithoedd yr ymylon – dim ots faint y cânt eu rhwbio allan, eu sychu i ffwrdd, eu gadael i wywo, maen nhw’n dal i oroesi.

Meddai Jaimie Thomas, Swyddog Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

‘Rydym yn falch iawn i allu cynnal arddangosfa sy’n cythruddo’r meddwl gan ddau o artistiaid mwyaf dylanwadol Cymru, Menna Elfyn ac Iwan Bala. Mae’r arddangosfa hon yn berthnasol iawn i’r Llyfrgell, a hynny yn bennaf oherwydd y cysylltiad cryf gyda diwylliant treftadaeth Cymru ar bwriad o rannu gwybodaeth o fewn cymunedau

Mae Iwan Bala’n darlunio geiriau ac ymadroddion Menna Elfyn â siarcol pŵl, sialc brau a phinnau inc bambŵ, gan greu llinellau o lythrennau sy’n awgrymu diferiad graddol. Cyfeirir at ein cysylltiad â’r llefydd sydd o’n cwmpas, yn ogystal â’n hymwahanu diarbed oddi wrthynt yn y gymdeithas gynyddol fyd-eang hon. Trwy gydol yr arddangosfa, gwelir geiriau’n diflannu ac yn ailymddangos rhwng staeniau inc a llwch sialc mewn proses debyg i’r modd y bydd bardd yn gweithio cerdd. Mae eu brwydr i gael eu gweld a’u darllen yn gyffelyb i broses y bardd o feddwl, gwneud nodiadau, ysgrifennu ac ailysgrifennu, yr ymdrech i ganfod y geiriau gorau i’w defnyddio.

Ariennir y arddangosfa deithiol hon a guradwyd gan Oriel Myrddin Gallery gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Interreg 4a er mwyn datblygu sgiliau lefel uwch ymysg ymarferwyr creadigol yn Ne Orllewin Cymru a De Ddwyrain Iwerddon.

Meddai Meg Anthony, Oriel Myrddin Gallery:

‘Bu’n bleser gweithio gydag Iwan Bala a Menna Elfyn. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iddynt am eu blaengarwch a’u sensitifrwydd yn meithrin y syniad am Nodiadau-maes ac yna’n gwireddu’r syniad hwnnw'

Gwybodaeth bellach

Elin- Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk