Neges o Ben Llŷn
Ar y 17eg o Dachwedd 2013 dadorchuddir darn o waith arbennig yn Mhlas Glyn-y-weddw ger Llanbedrog i ddathlu cwblhau ail brosiect Cynllun Eluned Gymraes Davies, cynllun sy’n cael ei reoli gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Noddwyd y rhaglen drwy gymynrodd a dderbyniodd y Llyfrgell Genedlaethol oddi wrth ystâd Eluned Gymraes Davies (1910-2004) i’w choffáu.
Dyma’r ail mewn cyfres o brosiectau ar draws Cymru ble mae crefftwyr yn gweithio gyda phobl leol i ddatblygu eu sgiliau crefft. Ym Mhen Llŷn gweithiodd y Llyfrgell Genedlaethol gyda chrefftwyr o Iard Glynllifon i weithredu prosiect oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau gwaith metel.
Ym mis Mehefin 2013 daeth y crefftwyr adnabyddus Ann Catrin Evans ac Angela Evans i’r Llyfrgell i chwilio am ysbrydoliaeth, ac aethant ati i greu darn o waith gyda myfyrwyr o Ben Llŷn mewn cyfres o 12 gweithdy.
Yn ystod y gweithdai bu’r myfyrwyr yn creu teclynnau metel â llaw er mwyn creu siap neu gofnod ar bapur, a’u rhwymo mewn llyfrau bach. Mae’r gwaith a grëwyd o ganlyniad i’r ymweliadau yma wedi rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer sgiliau newydd sy’n cynnwys: soldro; boglynnu; lliwio metel; gofannu haearn; creu papur a rhwymo llyfrau.
Meddai Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae cymynrodd Eluned Gymraes Davies wedi galluogi'r Llyfrgell Genedlaethol i weld ac archwilio ein casgliad mewn ffyrdd newydd. Mae'r syniad o grefftwyr yn dysgu sgiliau newydd i bobl ar draws Cymru, a defnyddio eitemau o gasgliad y Llyfrgell fel ysbrydoliaeth yn un cyffrous iawn.”
Dywedodd un o’r myfyrwyr, Nerys Jones:
“Cefais ymdrin â chopr ac arian,deunyddiau na fyddwn fel arfer yn cael cyfle i ddelio â nhw, a hynny dan arweiniad tiwtoriaid galluog iawn. Rwyf yn byw ym Mhen Llŷn, ac felly roedd dysgu am fy milltir sgwâr drwy gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn brofiad hynod werthfawr.”
Meddai un o’r tiwtoriaid, Angela Evans:
“Roedd yn wŷch cael y cyfle i gyflwyno gweithdai safonol yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr brwdfrydig. Braint oedd cael efelychu gwaith Eluned Gymraes Davies, a chwarae rhan yn ei gwaddol drwy annog pobl i ddysgu am, a defnyddio crefftau traddodiadol.”
Mae’r holl ddarnau unigol bellach wedi cael eu gosod ar banel sydd wedi ei fframio i greu un cofnod enfawr o brofiadau a mynegeiant creadigol y myfyrwyr, a bydd yn cael ei arddangos ym Mhlas Glynyweddw ger Llanbedrog rhwng Tachwedd 17eg a Rhagfyr 24ain cyn cael ei drosglwyddo i Aberystwyth i’w arddangos yn Ystafell Eluned Gymraes Davies yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Gwefan Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ymysg y prosiectau eraill mae
Prosiect Wrecsam (nyddu gwlân) Tachwedd 2013-Mehefin 2014