Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyhoeddi stori fuddugol
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi y stori fuddugol a gafodd ei dewis fel rhan o ymgyrch ddiweddar ‘Adroddwch Eich Stori’.
Gofynnwyd i ddefnyddwyr Archifau Cymru anfon stori am eu profiadau a’u darganfyddiadau ar ôl defnyddio’r gwasanaeth. Daeth cyfanswm o 77 o geisiadau i law o bob rhan o Gymru a dewiswyd 22 o straeon buddugol a fydd yn ennill £100 yr un.
Un o’r enillwyr oedd Tasmin Leighton sy’n fyfyrwraig Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth:
‘Wrth ymchwilio trwy ohebion papurau newydd fy mro genedigol ar gyfer fy nhraethawd estynedig fe ddois ar draws Papurau Newydd Cymru Ar-lein ac yn bennaf papur y North Wales Chronicle. Mae’r adnodd yma wedi bod yn hynod werthfawr i mi a hoffwn ddiolch yn fawr i’r Llyfrgell Genedlaethol am yr holl ffynhonellau sydd yn rhad ac am ddim’
Meddai Beryl Evans, Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Rydw i yn falch iawn bod enillydd wedi'i ddewis o'r Llyfrgell, yn enwedig gan
iddi ddefnyddio un o'n adnoddau mwyaf diweddar sef Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Llongyfarchiadau mawr iddi’
Dywedodd Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, John Griffiths:
‘Mae’r straeon yn dangos y gwerth y gall gwasanaethau archif ei gyfrannu i gymunedau lleol ac maent yn dangos ystyr ac effaith y cofnodion sydd yno ar unigolion a theuluoedd. Mae poblogrwydd archifau fel adnawdd diwylliannol ac addysgol yn uwch nag erioed.’
Ychwanegodd Nicola Williams, Swyddog Prosiect Marchnata ac un o’r beirniaid:
‘Roeddem yn falch dros ben o dderbyn straeon oddi wrth amryw o wahanol ddefnyddwyr ym mhob cwr o Gymru. Maen nhw’n amrywio o wybodaeth bersonol am deuluoedd a hanes lleol at straeon gan ddarlithwyr, athrawon, myfyrwyr, disgyblion a gwirfoddolwyr. Mae rhai o’r straeon yn wefreiddiol iawn ac eraill yn dangos sut mae’r gwasanaeth wedi bod o gymorth i ddysgu sgiliau newydd ac ysgogi diddordebau newydd. Hoffwn ddiolch i bawb am rannu eu hanesion.’
Bydd rhai o’r straeon buddugol o bob rhan o Gymru yn cael eu troi’n ffilmiau byrion gan ddangos yr amrywiaeth o gofnodion, ffotograffau a dogfennau sydd i’w cael yn rhad ac am ddim yn eich gwasanaeth archif lleol.
Gwybodaeth Bellach
Elin Hâf, Swyyddfa'r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk