Crynodeb gan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru
Caiff y rhan o’r Llyfrgell a effeithiwyd gan y tân ei adnabod fel Swyddfeydd Trydydd Adeilad y Llyfrgell ar ochr Dde’r safle. To gwastad sydd i Swyddfeydd Trydydd Adeilad y Llyfrgell, gyda sylfaen concrid a gorchudd to bitwmen, wedi’i drwytho gyda graean. Roedd cryn dipyn o waith yn cael ei wneud ar do’r Llyfrgell yn gyffredinol.
Cyn y tân, roedd dau weithiwr wedi bod wrthi’n stripio’r gorchudd to oddi ar do gwastad Swyddfeydd Trydydd Adeilad y Llyfrgell, gan ddefnyddio peiriant sgalpio. Nid oedd modd i’r peiriant i dynnu’r gorchudd to cyfan oddi ar ymylon y to, felly defnyddiodd y gweithwyr lamp losgi propan i gynhesu’r gorchudd to, ac yna fe wnaethant ei sgrafellu gan ddefnyddio offer llaw.
Ychydig wedi 14.30, roedd un gweithiwr yn defnyddio lamp losgi i gynhesu’r gorchudd to ar ymyl to Swyddfeydd Trydydd Adeilad y Llyfrgell. Achosodd y lamp losgi i’r pren tu ôl i’r cladin allanol i fynd ar dân. Ceisiodd dau weithiwr i ddiffodd y tân, fodd bynnag, nid oedd modd iddynt gael mynediad at y cladin allanol o ymyl y to ac ni chafodd tywallt dŵr unrhyw effaith ar ddatblygiad y tân.
Lledodd y tân tu ôl i’r cladin allanol yn gyflym iawn, oherwydd natur sych y defnydd, credwyd mai bwrdd ffeibr wedi’i drwytho â bitwmen ydoedd, a llwch wedi’i drwytho â bitwmen a gynhyrchwyd gan y peiriant sgalpio.
Fe wnaeth un o’r gweithwyr actifadu larwm tân y Llyfrgell a galw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am 14.38. Ceisiodd staff y Llyfrgell i ddiffodd y tân gan ddefnyddio nifer o ddiffoddiaduron, fodd bynnag, ni chawsant unrhyw effaith ar ddatblygiad y tân, oherwydd bod y cladin allanol yn diogelu tarddle’r tân. Mynychodd cyfanswm o 8 o beiriannau pwmpio, Platfform Ysgol Awyrol, Uned Rheoli Digwyddiad a pheiriant Pwmpio Cyfaint Uchel o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru y digwyddiad i ddiffodd y tân, gan ddefnyddio Platfform Ysgol Awyrol fel twr dŵr, ac amryw o brif jetiau a jetiau rîl pibell. Mae’r achos mwyaf tebygol wedi cael ei gofnodi fel pren a aeth ar dân trwy ddamwain, wedi’i leoli tu ôl i’r cladin allanol ar ymyl y to. Lamp losgi propan wnaeth achosi i’r pren i fynd ar dân.
Gwybodaeth bellach
Elin Hâf, Swyddfa'r Wasg 01970 632534 post@llgc.org.uk