Y Llyfrgell Gen yn y Steddfod Gen!
Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eto … ond bydd un neu ddau ddatblygiad newydd ym Mro Morgannwg eleni.
Yn wahanol i’r arfer ni fydd arddangosfa’r stondin yn cynnwys lluniau a chasgliadau wedi eu fframio. Yn hytrach bydd popeth wedi eu rhoi ar ddwy sgrin fawr ar ffurf ffrwd lluniau!
Prif thema’r stondin eleni fydd newyddion mawr y flwyddyn fod holl archif Gymreig cwmni teledu ITV yn dod i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n rhan o’r Llyfrgell. Felly, yn ogystal â gweld casgliadau’r Llyfrgell ar y sgrin gall eisteddfodwyr hefyd fwynhau gwylio rhifynnau o Teulu’r Mans a Torri Gwynt.
I gyd fynd gyda thema Archif ITV ceir sgyrsiau dyddiol rhwng staff y Llyfrgell a rhai sêr darlledu Cymru ar y stondin. Ymysg y sêr ceir: Dai Jones, Llanilar; Jenny Ogwen; Hywel Gwynfryn; Dewi Pws a Elinor Jones.
Bydd hefyd cerddoriaeth fyw am ddim ar y stondin o ddydd Llun i Gwener: Greta Isaac; Brigyn, Ynyr Llwyd, Al Lewis a Heather Jones.
Bydd croeso arbennig i breswylwyr y Maes Carafanau. Mewn cydweithrediad gyda’n chwaer sefydliad, yr Amgueddfa Genedlaethol, byddwn yn cyhoeddi taflen A5 a ddosberthir i bob carafán. Cynigir ostyngiad o 10% oddi ar nwyddau siop y Llyfrgell ar y Maes gyda phawb sy’n cyflwyno un o’r taflenni yma i ni gyda’i pryniant.
Cliciwch yma i weld ac argraffu eich taflen o ddigwyddiadau’r wythnos ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol. Welwn ni chi yno!
Dolenni
Gwefan Eisteddfod Genedlaethol
Manylion pellach
Siôn Jobbins, Swyddfa'r Wasg LLGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk