‘Out of the Shadows’ – bywyd a gwaith Ifor a Joy Thomas
Dewch i Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 23 a 24 Tachwedd 2012 i ddathlu cyfraniad enfawr y Cymro o Cross Hands, Ifor Thomas, a’i wraig Joy, i ffotograffiaeth Brydeinig.
Bu i’w cyrsiau yn Ysgol Ffotograffiaeth Guildford yn ystod canol yr ugeinfed ganrif dorri tir newydd. Fe weddnewidiwyd dysgu ffotograffiaeth ym Mhrydain gan roi sail i yrfa cenedlaethau o ffotograffwyr a chyfarwyddwyr ffilm.
Gŵyl ffotograffiaeth ddogfennol Gymreig yw Lens. Fe’i cynhelir yn flynyddol yn y Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o ddathliad y Llyfrgell o’i chasgliad o dros 800,000 o ffotograffau dogfennol.
‘Pan wnes i wirfoddoli i ymchwilio i fywyd a gwaith Ifor a Joy Thomas a’u Ysgol Ffotograffiaeth wnes i ddim ystyried y gwaith oedd ynghlwm â hyn’ meddai Rita Tait Cynullydd a Siaradwr yng Ngŵyl Lens 2012.
Mae Rita Tait, yn ymchwilydd ac awdur. Bu iddi gychwyn Cymdeithas Arthur Machen i’r awdur Eingl-Gymreig. Am bron i dair blynedd bu’n gweithio’n ddygn i roi trefn ar hen ffotograffau, lluniau a thestun Ifor a Joy Thomas gan wneud yr wŷl hon yn bosib.
Mae gŵr Rita, Jack Tait yn gyn fyfyriwr i Ifor a Joy Thomas yn Ysgol Ffotograffiaeth Guildford 1955- 1958. Yn 1982, derbyniodd holl effemera a memorabilia Ifor a Joy Thomas gan eu cyfrannu’n hael i archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ef oedd sylfaenydd Ysgol Ffotograffiaeth Coleg Celf Derby a Polytechnic Manceinion.
Ymysg y siaradwyr eraill mae; Yr Athro Suga o Brifysgol Tsuda yn Siapan, sydd wedi cyhoeddi a darlithio’n helaeth ar agweddau o gynllunio Prydeinig yn ei rôl fel Ysgrifennydd Gweithdy Hanes Dylunio, Japan a William Troughton, Curadur Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd hefyd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar hanes ffotograffiaeth a hanes cymdeithasol.
Bydd cyn-fyfyrwyr Ifor Thomas hefyd yn siarad yng ngŵyl Lens 2012. Maent yn cynnwys: Tessa Traeger sydd yn un o ffotograffwyr bywyd llonydd mwyaf blaengar ei chenhedlaeth; Julia Hedgecoe sydd wedi arddangos ei gwaith yn y National Portrait Gallery Llundain a Adam Woolfitt sydd yn ysgrifennu am ffotograffiaeth ddigidol yn rheolaidd ar gyfer y British Journal of Photography, Cylchgrawn Image a Photo District News yn Efrog Newydd. Mae ei ffotograffau hefyd wedi ymddangos yn y National Geographic.
‘Mae penwythnos Lens wastad yn ddigwyddiad difyr a phleserus i bawb sy’n ymddiddori mewn ffotograffiaeth. Rydym yn llwyddo i ddenu ffotograffwyr proffesiynol ac amatur a rheini sydd â diddordeb mewn hanes cymdeithasol. Mae’n siaradwyr blaenorol wedi cynnwys ffotograffwyr byd-enwog fel Phillip Jones-Griffiths a David Hurn.’ meddai William Troughton William Troughton, Curadur Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gwybodaeth bellach
Elin – Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 632534 neu post@llgc.org.uk