Lansiad Siaradwyr i Ysgolion ledled Cymru
Lawnsir yr elusen Siaradwyr i Ysgolion / Speakers for Schools yng Nghymru (wythnos 26 – 30 Tachwedd) gyda chyfres o anerchiadau mewn ysgolion uwchradd y wladwriaeth ar draws y wlad. Eisoes, bu i arweinwyr mewn busnesau Cymreig, cyfryngol, diwylliannol, academia a gwleidyddiaeth roi addewid bendant i roi anerchiad i fyfyrwyr mewn ysgolion Uwchardd y wladwriaeth unwaith y flwyddyn er mwyn codi gobeithion ag ymestyn gorwelion.
Syniad Golygydd Busnes y BBC, Robert Peston, sydd eisiau i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau mewn ardaloedd difreintiedig i dderbyn yr un cyfleoedd i glywed gan siaradwyr ysbrydoledig ac a geir gan y rhai sy’n mynychu’r ysgolion annibynol gorau. Y syniad yw lefelu’r maes chwarae ag iddi ddod yn arferiad i arweinwyr yn eu meysydd i annerch mewn ysgolion a cholegau’r wladwriaeth. Lawnsiwyd Speakers for Schools yn Lloegr yn Hydref 2011 a gweinyddir ef gan elusen fechan - Education and Employers Taskforce .
Cynnwys y siaradwyr o feysydd busnes, diwylliant ac academia sydd yn cefnogi’r lawnsiad Cymreig:
Lord Burns (Cadeirydd Santander UK plc & Theledu Channel 4 ), Cambridge Jones (ffotograffydd portread), Alan Edmunds (Golygydd papur newyddion y Western Mail), Huw Edwards (cyflwynydd newyddion & gohebydd y BBC), Henry Engelhardt (Prif Weithredwr Grŵp Admiral), Dame Amelia Fawcett (Cyfarwyddwr Bwrdd, Grŵp Guardian Media), Andrew Green (Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru), Efa Gruffudd-Jones (Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru), Yr Athro Stephen Hagen (Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Casnewydd), Julia Hobsbawm (Cadeirydd a Phrif Weithredwr Julia Hobsbawm Consulting), Prof John Hughes (Is-Ganghellor PrifysgolBangor), Ian Jones (Prif weithredwr S4C), Prof April McMahon (Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth), Geoff Mulgan (Prif Weithredwr NESTA), Robert Peston (Golygydd Busnes y BBC), Ed Richards (Prif Weithredwr Ofcom) a Simon Thirsk (Awdur & Chadeirydd, Bloodaxe Books).
Mae gan Siaradwyr i Ysgolion gefnogaeth ar draws y partion. Yn cymryd rhan o fyd Gwleidyddiaeth Gymreig mae:
Leighton Andrews (Gweinidog Addysg a Sgiliau), Cynog Dafis (Cyn AS & A.C. Plaid Cymru), Andrew RT Davies (Arweinydd y Gwrthwynebwyr – Llywodraeth Cymru), Yr Arglwydd Davies (Tŷ’r Arglwyddi & Chyngor Bro Morgannwg), Carwyn Jones (Prif Weinidog, Llywodraeth Cymru), Baroness Kingsmill (Tŷ’r Arglwyddi), Rhodri Morgan (cyn Brif Weinidog Cymru) a Kirsty Williams (Arweinydd Y Rhyddfrydwyr Cymreig).
Dewisiwyd yr wythnos er mwyn cydfynd â Chynhadledd ASCL Cymru sydd yn cael ei chynnal ar 29 a 30 Tachwedd 2012. Bu i dros 800 o bobl ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban gytuno i gymryd rhan gan gynnwys Prif Swyddogion Addysg arweiniol, gwleidyddion, pobl gyfryngol a chelfyddydol, gwyddonwyr, entrepreneriaid ac academwyr. Anerchir ar faterion cyfoes o bwys: technolegeol, gwyddonol, gwleidyddol, economaidd, hanesyddol, diwylliannol, celfyddydol, moesol ag ecolegol.
Dywed Robert Peston, Golygydd busnes BBC a ffurfiwr Siaradwyr i Ysgolion:
'Dibynna’n dyfodol ffyniannol i raddau ar godi dyheadau ar gyfer pobl ifanc, a gynorthwywir drwy sicrhau mynediad iddynt at feddyliau symbylol a disglair. Caf wefr fod cymaint o siaradwyr da’n cymryd rhan yn lawnsiad Cymreig Siaradwyr i Ysgolion.'
Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
'Mae cynllun 'Speakers for Schools' yn fenter newydd, unigryw i ehangu gorwelion a chodi uchelgeisiau ymysg myfyrwyr ysgolion trwy Gymru - ac yn ffordd wych i ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ledaenu'r neges am y gyrfaoedd cyffrous sydd ar gael yn y sectorau diwylliant a gwybodaeth.'
Gwybodaeth pellach
Elin Haf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 632534 post@llgc.org.uk
Twitter: @Speakrs4Schools #S4SWales
Bydd Andrew Green yn siarad yn Ysgol Tasker Milward, Hwlffordd 28.11.12 am 2.15p.mNodiadau:Menter yw Siaradwyr i Ysgolion i gael siaradwyr symbylus yn eu meysydd i annerch am ddim mewn ysgolion a cholegau’r wladwriaeth, gan flaenoriaethu’r rhai mwyaf difreintiedig. Ymwela siaradwyr o’r fat hag ysgolion annibynnol yn aml ond nid oes gan ysgolion a cholegau’r wladwriaeth y rhwydwaith i fynd atynt. Syniad Robert Peston, Golygydd Busnes y BBC yw Siaradwyr i Ysgolion sy’n cael ei weinyddu gan yr elusen the ‘Education and Employers Taskforce’. Bydd y siaradwyr yn cyfeirio at y testunau mawr: technolegeol, gwyddonol, gwleidyddol, economaidd, hanesyddol, diwylliannol, celfyddydol, moesol ag ecolegol. Bu i 800 o siaradwyr dderbyn gwahoddiad yn barod i gymryd rhan. Y bwriad yw lledaenu gorwelion a chodi gobeithion pobl ifanc.