Fydd ‘Cymru’n Deffro’ i Gelf Christopher Williams?
Gwaith a bywyd yr artist o Faesteg, Christopher Williams (1873 – 1934) fydd arddangosfa fawr yr haf eleni yn y Llyfrgell Genedlaethol. Agorir yr arddangosfa gan y cyn Aelod Seneddol dros Bontypridd, Kim Howells, a fu’n cyflwyno cyfres Framing Wales ar BBC Wales lle bu’n trafod gwaith yr artist oedd yn enwog iawn yn ei ddydd am ei bortreadau o fawrion yr oes ac o luniau ar themâu gwladgarol a Christnogol.
Ganed Christopher Williams ym Maesteg a bedyddiwyd ef ar arch ei fam a fu farw bythefnos wedi ei eni. Yn ôl Lloyd George, dyma oedd ‘artist mwyaf Cymru’ ond bellach prin yw’r bobl sy’n ei gofio. Gan dynnu ar archifau anghofiedig, casgliadau preifat a chyhoeddus, bydd yr arddangosfa hon yn rhoi bri ar gyfanwaith sylweddol yr artist.
Curadur arbennig yr arddangosfa ôl-syllol hon gan yr Athro Robert Meyrick o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.
Cred yr Athro Meyrick yw, er gwaetha poblogrwydd Williams ar ddechrau ei yrfa, fe aeth allan o ffasiwn erbyn yr 1930. Doedd ei themâu Cristnogol a gwladgarol ddim yn apelio fel y buont. Roedd hefyd y ffaith fod rhai o’i luniau mor anferthol - hyd at 3m o uchder - yn golygu mai prin oedd y bobl neu’r sefydliadau gallai eu harddangos. Yn rhannol oherwydd hyn ac oherwydd ei ddaliadau sosialaidd fe gyflwynodd Christopher Williams nifer o’i luniau i’w dref enedigol, Maesteg. Oddi yno a’r ganolfan sirol ym Mhen-y-bont ar Ogwr daeth 16 o luniau i’r arddangosfa yn Aberystwyth. Dyma fydd y tro cyntaf i nifer ohonynt gael eu gweld gan y cyhoedd pan ddangosir hwy yn oriel urddasol (a mawr) Gregynog yn y Llyfrgell.
Un o luniau enwocaf Christopher Williams yw ‘Cymru’n Deffro’ a grëwyd ar adeg o hyder newydd mewn Cymreictod sef yr un cyfnod ag y sefydlwyd y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol. Darluniodd Williams hefyd waith wedi eu seilio ar y Mabinogi a themâu crefyddol.
‘Mae Christopher Williams yn artist o bwys a anwybyddwyd am yn hir,’ meddai’r Athro Meyrick, sydd ei hun yn wreiddiol o Gwm Ogwr, y cwm drws nesa i Faesteg. ‘Y Llyfrgell Genedlaethol yw un o’r ychydig leoliadau yng Nghymru sy’n ddigon mawr i allu arddangos nifer o waith Christopher Williams. Efallai bydd rhai o’r lluniau, megis Cymru’n Deffro a Blodeuwedd yn adnabyddus i rai ond fy hoff luniau i yw ei rai o’i wraig a’i deulu wrth y traeth yn Llangrannog neu’r Bermo,’ meddai’r Athro Meyrick, fydd yn traddodi darlith ar yr artist amser cinio ddydd Mercher 25 Gorffennaf yn y Llyfrgell.
Agorir yr arddangosfa’n swyddogol gan gyn Aelod Seneddol Pontypridd, Kim Howells, ar ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf. Astudiodd Kim yn Ysgol Celf Hornsey a derbyniodd PhD o Brifysgol Warwick am ei bapur ar A view from below : tradition, experience and nationalism in the South Wales coalfield, 1937-1957. Cyflwynodd raglen ar Christopher Williams ar BBC Wales.
‘Mae ei lun o gyrch y Cymry ar Goed Mametz ym Mrwydr y Somme yng Ngorffennaf 1916 yn sefyll fel un o’r câd- ddarluniau mwyaf dramatig a gwyrdoredig. Yn anterth ei allu, llwyddodd Christopher Williams i ddarlunio erchyllter brwydro wyneb-i-wyneb, ac eto, drwy gydol ei fywyd disgleiriodd ei gariad at gyd-ddyn ac achosion dyngarol yn glir. Roedd yn un o hoff arlunwyr David Lloyd George, ac roedd galw cyson amdano gan bwysigion yr oes, ag eto mae ei dirluniau yn adrodd hanes artist oedd yn craffu ar yr arbrofion a datblygiadau creadigol ei gyfoedion. Mae’r arddangosfa hon yn dweud llawer, nid yn unig am Christopher Williams, yr arlunydd a’r dyngarwr o Faesteg, ond hefyd y byd celfyddydol Brydeinig ac Ewropeaidd yr oedd yn rhan ohono,’ meddai Kim.
Nododd yr Athro Robert Meyrick;
‘Can mlynedd yn ôl fe ddarogodd y gwleidydd a’r hanesydd, O.M. Edwards, y byddai Cymru rhyw ddydd yn “deffro i adnabod … mawredd” Christopher Williams ac y bydd ei waith yn cael eu gweld fel “trysorau amhrisiadwy”. Ceisia’r arddangosfa esbonio pwy oedd Christopher Williams, beth oedd ei “fawredd” a pham nad ydym fel cenedl eto wedi “deffro i’w waith?’
Christopher Williams – Ôl-syllol
7 Gorffennaf – 22 Medi 2012
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Mynediad am ddim; 9.30am – 4.30pm Dydd Llun i ddydd Sadwrn
Cyflwyniad Awr Ginio:
‘From Maesteg to Morocco: the delayed homecoming of Christopher Williams’
Yr Athro Robert Meyrick
Dydd Mercher 25 Gorffennaf, 1.15pm, Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Mynediad am ddim drwy docyn
Gwybodaeth Bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa'r Wasg 01970 632902 post@llgc.org.uk