Symud i'r prif gynnwys

Dogfennu Daeargryn Christchurch, Seland Newydd

‘Dogfennu Hanes fel mae’n Digwydd’ yw teitl cyflwyniad arbennig gan ddau ffotograffydd o Seland Newydd, Ross Becker a Moira Fraser, am 7.30pm, nos Lun 23 Ebrill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y ddau ffotograffydd yn trafod a dangos lluniau o ymateb blaengar Llyfrgell Genedlaethol Seland Newydd i’r daeargrynfeydd mawr yn 2011 (a rhai llai) a drawodd Christchurch fel bod effaith y digwyddiadau wedi eu dogfennu i’r genedl.


Bwriodd y daeargryn enwog Christchurch ar 22 Chwefror 2011 ond nid dyna’r unig grynfa yn yr ardal. Yn eu cyfanswm, collwyd 185 person, 7,000 cartref, eicon diwylliannol a 1,200 adeilad masnachol o ganlyniad i 4 daeargryn fawr a mwy na 10,000 man crynfeydd ers mis Medi 2010.
Mae Ross a Moira yn cyfrannu i’r broses yma o ddogfennu’r ddinas gan gymryd a rhannu ffotograffau o Christchurch. Cychwynnwyd y prosiect gan Lyfrgell Genedlaethol Seland Newydd 18 mis yn ôl yn fuan wedi’r daeargryn mawr gyntaf. Cyfrennir y ffotograffau i Archif Treftadaeth Ddigidol y Llyfrgell Genedlaethol i geisio sicrhau y bydd cenedlaethau’r dyfodol â dealltwriaeth well sut newidwyr golwg Christchurch o ganlyniad i’r daeargrynfeydd.
Er nad yw daeargrynfeydd yn gyffredin yng Nghymru, mae’r stori o sut daeth cymuned, fel Christchurch, ymateb i’r daeargrynfeydd (neu, efallai trasiedïau tebyg fel un Aberfan yn 1966) gan weithio gyda’i gilydd, yn thema fyd-eang.
‘Mae ffotograffau Ross a Moira o Christchurch yn archif dirdynnol o effaith y daeargryn.  Maent hefyd yn dysteb i’r ffyrdd mae llyfrgelloedd ac eraill yn dod yn fwy rhagweithiol a dychmygus wrth geisio cofnodi a rhannu cof cenedl. Fel cartref i dros 800,000 o ffotograffau, mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddiddordeb mewn adeiladu a chadw archif ffotograffig ein gwlad a hefyd dysgu sut mae llyfrgelloedd, archifdai ac unigolion eraill yn gallu ymateb yn ystwyth i gofnodi hanes fel mae’n digwydd,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dolenni

CHCH.EQ.Photos ar Facebook

‘Documenting History as it Happens’ Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth

7.30pm nos Lun 23 Ebrill

Gwybodaeth bellach

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk