Dilyn y Fflam
Bydd y fflam Olympaidd yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar fore Llun 28 Mai rhwng 8.45 a.m. a 9.00 a.m.
I ddathlu’r achlysur hanesyddol yma bydd y Llyfrgell yn croesawu’r fflam gyda derbyniad o 6 torch o gemau Olympaidd y gorffennol.Mae’r ffaglau yn cynnwys rhai München 1972, Seoul 1988, Athen 1996, - ffagl wnaethpwyd gan gwlad Groeg i goffau camlwyddiant y gemau modern ac i fynegi eu siom o beidio a chael eu gwobrwyo â’r gemau hyn (dechreuodd y gemau modern yn Athens yn 1896) Atlanta 1996, Athen 2004 a Llundain 1948 (y tro diwetha i’r gemau ymweld â Llundain)
Bydd dau o drigolion ardal Aberystwyth – Gareth Farrow a Abishika Kasipillai yn cael y fraint o gario dwy o’r ffaglau, ynghyd â Jayne Day a Stephen Jones sy’n aelodau o staff y Llyfrgell, ac Andy Marshall a Hannah Tyson myfyrwyr Coleg Ceredigion.
Gwobrwy-yd y Coleg â Marc Ysbrydoli’r Olympiad Diwylliannol am ei ffilm fer, Precious Life. Cynhyrchwyd y ffilm gan y myfyrwyr gan ddefnyddio ffilmiau yn Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru sy’n rhan o’r Llyfrgell.
Y sawl sy’n cario’r ffaglau:
Abishika Kasipillai: Myfyrwraig 24 mlwydd oed sy’n astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.Gareth Farrow: Er mai dim ond 19 mlwydd oed yw Gareth o Goginan, mae o wedi bod yn hyfforddwr yn ei glwb canwio lleol ers 10 mlynedd ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth mawr i eraill yn sgil ei berfformiad a’i frwdfrydedd wrth gynrychioli y DU a Chymru.
Andy Marshall: Nid yw Andy yn ddieithryn i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae wedi ymddangos ddwywaith yn y Drwm yn ystod dangosiad cyhoeddus Precious Life – prosiect ar y cyd rhwng Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a Coleg Ceredigion.
Hannah Tyson: Mae Hannah yn astudio ar gyfer Diploma mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol. Mae hi’n gynhyrchydd ffilmiau brwd iawn ac mae ei gallu a’i photensial wedi cael eu cydnabod gan un o golegau mawr Llundain.
Jayne Day: Cydlynydd Gwasanaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn fam i ddau fab bychan, Siôn a Tomos. Mae’n byw ym mhentre Abermagwr y tu allan i Aberystwyth.
Stephen Jones:Cydlynydd Ail-leoli Prosiect Archif ITV Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyn chwaraewr pêl-droed a thad i ddau o blant. Mae’n byw ym Mhenrhyn-coch.
Ffeithiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Mae cymesuredd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyfateb i’r Parthenon yn Athen. Bu i gynllun gwreiddiol y Llyfrgell gyda’i leoliad mawreddog o garreg wen Portland uwchben tref Aberystwyth gael ei ysbrydoli gan yr Acropolis yn Athen.
Mae 6 miliwn o lyfrau yng nghasgliad y Llyfrgell. Dyma’r tro cyntaf (ac olaf!) i gasgliad y Llyfrgell fod mor agos i fflam. Mae’r casgliad yn amrywio o lyfrau Cymraeg cynharaf sydd dros 1,400 mlwydd oed i raglenni gemau pêl droed a chwaraeon yn gyffredinol.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu i nifer o beintiadau a chasgliadau gan gynnwys y Magna Carta a gwaith gan da Vinci gael eu hail leoli o Lundain i ddiogelwch Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Mae 118 milltir o silffoedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru – digon o silffoedd i fynd hanner ffordd tuag at y Stadiwm Olympaidd newydd sydd 246 o filltiroedd i ffwrdd – neu’r llawer pellach na phellter fydd y fflam yn teithio ar ddiwrnod 9 y daith. (84 milltir i Fangor).
Yn ystod y dydd bydd Cafe Pen Dinas y Llyfrgell ar agor ar gyfer brecwast o 8.00am ymlaen. Bydd hefyd dwy sgwrs oriel o arddangosfa, Dilyn y Fflam, gan guradur yr arddangosfa, Phil Cope am 10.00am a 2.00pm.
‘Hoffem rannu’r ymweliad hanesyddol a llon y Fflam Olympaidd â’r Llyfrgell Genedlaethol gyda phobl ardal Aberystwyth. Bydd dal ffagl sydd wedi bod mewn gemau Olympaidd y gorffennol yn ddolen hyfryd rhwng y Llyfrgell, Aberystwyth a hanes,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.
Gwybodaeth Bellach:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 post@llgc.org.uk