Digwyddiad Panel JISC
Bydd grŵp o swyddogion rhaglen o’r Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC) yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Mai 22ain, a byddant yn cynnal sesiwn agored yn Siambr y Cyngor yn LlGC o 11:00 hyd 12:30. Os hoffech fynychu’r sesiwn, rhowch wybod drwy gyfrwng e-bost (lorna.hughes@llgc.org.uk).
Mai 22ain 2012, 11:00-12:30
Siambr y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Digwyddiad Panel JISC: staff o JISC, yn cynnwys, Andrew Mcgregor, Liam Earney, Neil Jacobs, Sarah Fahmy, Matthew Dovey, Neil Grindley, a Rachel Bruce (y cyfranogwyr terfynol i’w cadarnhau).
JISC (y Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth) yw arbenigwyr y DU ar dechnolegau gwybodaeth a digidol ar gyfer addysg ac ymchwil. Bydd grŵp o uwch aelodau staff o ystod raglenni JISC yn cynnal seminar a sesiwn drafod ar gyfer y sector Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd themâu strategol gan gynnwys y testunau canlynol yn cael eu trafod:
- Seilwaith Seiliedig ar Ddata – ailddefnyddio gwybodaeth ar draws gwasanaethau a systemau i gynnal seilwaith gwasanaeth mwy hyblyg ac ystwyth – gall enghreifftiau gynnwys Sylfaen Wybodaeth +, cofrestrfeydd cadwraeth, gwasanaethau darganfod ayyb;
- Seilwaith a rennir – mae meysydd seilwaith a rennir yn canolbwyntio ar ddata ymchwil, seilwaith gwybodaeth a llyfrgell, rheolaeth ymchwil / ystorfeydd.
- Bydd pynciau penodol a drafodir yn cynnwys: darganfod; digideiddio, OER, mynediad agored; systemau rheoli llyfrgell; archifo ar y we; cyfrifiaduro symudol.