Cyhoeddi Data, a Data Cysylltiol ym maes y Dyniaethau
12fed Tachwedd, 2012, 09:30-16:30
Siambr y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ynglŷn â’r Digwyddiad
Bydd ffigurau blaenllaw o gymuned y dyniaethau digidol, llyfrgelloedd ac archifdai yn ymdrin â’r prif heriau wrth drosglwyddo datblygiadau diweddar y We Semantig o labordai ymchwil i fyd go iawn ymchwil y dyniaethau. Mae’r term "data cysylltiol" yn cwmpasu casgliad o egwyddorion a dulliau ar gyfer cyhoeddi, rhannu a chysylltu data dros y We, yn benodol trwy ddefnyddio gwe-dechnolegau semantig. Mae gan ymchwilwyr y dyniaethau fynediad at lawer iawn o ddeunydd digidol, pa un ai trwy gynnyrch ymchwilwyr eraill neu trwy raglenni digido mewn archifdai ac amgueddfeydd. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fo’r adnoddau hyn yn hygyrch ar y We, maent yn aml yn cael eu dal mewn pocedi gwasgaredig ar eu pennau’u hunain ac yn anodd eu cyrraedd mewn modd integredig oherwydd yr amrywiaeth o fformatau, geirfaoedd a safonau a ddefnyddir i’w nodweddu. Byddai adnoddau o’r fath yn llawer mwy defnyddiol i ysgolheigion pe gellid eu cydgysylltu a’u harchwilio fel un dirwedd o ddata cyfoethog.
Bydd y seminar yn ymchwilio i’r modd y gall data cysylltiol wasanaethu’r celfyddydau a’r dyniaethau digidol trwy ddod ag arbenigwyr rhyngwladol y we semantig at ei gilydd i drafod y dulliau presennol ym maes celfyddydau a dyniaethau digidol.
Trefnir y gweithdy hwn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar y cyd â Choleg y Brenin, Llundain a’i gyllido gan JISC.
Ni chodir tâl am fynychu’r gweithdy; serch hynny, rhaid cofrestru trwy anfon e-bost at Angharad Medi Lewis yn LlGC: amj@llgc.org.uk
Rhaglen
09:30 Cyrraedd a Choffi
10:00 Croeso gan Lorna Hughes a Mark Hedges
10:15 Jane Stevenson a Adrian Stevenson, Prifysgol Manceinion
10:45 Dominic Oldman, Yr Amgueddfa Brydeinig
11:15 Christian Emil Ore, Prifysgol Oslo
11.45 Leif Isaksen, Prifysgol Southampton
12:15 Trafodaeth
13:00 Cinio
14:00 Sebastian Rahtz, Prifysgol Rhydychen
14:30 Michael Charno, Prifysgol Efrog
15:00 Gill Hamilton, Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban
15:30 Trafodaeth
16:30 Te