‘Cardi i’r Carn, ond byth ’di bod i’r Llyfrgell’
‘Cardi i’r Carn, ond byth ’di bod i’r Llyfrgell’ yw slogan Diwrnod Agored Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gynhelir ar ddydd Sadwrn 28 Ionawr 2012.
Cilciwch yma am amserlen a manylion llawn y dydd. Defnyddir y slogan gyda llun o un o gymeriadau amlwg tref Aberystwyth, Brian John - perchennog Clive Continental Menswear ar Ffordd y Môr.Er gwaetha’r ffaith iddo gael ei eni a’i fagu ym Mhenparcau yn Aberystwyth, mae’r gŵr 72 oed ifanc yr olwg sy’n chwarae rhan flaenllaw ym mywyd y dref, erioed wedi bod i’r Llyfrgell Genedlaethol. ‘Bu teimlad yn y gorffennol efallai nad oedd y Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer rhai pobl ond mae’r sefydliad wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n hynod bwysig i ni fod pobl tref Aberystwyth yn gwybod beth sydd yma a bod croeso iddynt ddod drwy ddrysau’r Llyfrgell. Holl thema Diwrnod Agored eleni yw Aberystwyth - a dyna’r rheswm i ni ofyn Brian a fyddai’n barod i fod yn ‘wyneb’ y Llyfrgell ar ein deunydd hyrwyddo,’ meddai Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol.Dechreuodd Brian weithio yn 15 oed gan ddechrau yn siop ddillad dynion Burton’s ac yna gyda siop ddillad Clive Northam a oedd yn Heol-y-Wig ar y pryd. Cymerodd Brian berchnogaeth o’r siop dri deg mlynedd yn ôl ac mae’n dal i weithio yno gyda’i nai, Mark Clifton. Er nad yw erioed wedi mynychu’r Llyfrgell, mae Brian yn falch iawn o Aberystwyth ac yn credu fod y Llyfrgell yn rhan bwysig o apêl y dre. ‘Mae’r Llyfrgell Genedlaethol, fel y castell, y brifysgol a Consti, yn un o lefydd eiconaidd Aberystwyth. Rydym ni’n lwcus iawn ei bod wedi ei lleoli yma - mae’n rhoi Aber ar y map,’ meddai Brian a gytunodd i’w lun gael ei ddefnyddio ar ddeunydd hyrwyddo’r Diwrnod Agored ac sydd bellach wedi mwynhau taith tywys o’r adeilad.Mae’r Llyfrgell yn sefydliad ar gyfer Cymru gyfan, ond mae Arwel Jones yn awyddus iawn fod pobl leol Aberystwyth yn teimlo fod ganddynt berchnogaeth o’r lle.‘Mae’n hynod bwysig fod pobl Aberystwyth yn gwybod fod y Llyfrgell yn perthyn iddynt hwy. Wedi’r cyfan, mae ganddo rywbeth i gynnig i bawb gan gynnwys cafe a siop, orielau, ffilmiau, sgyrsiau ac ystafelloedd darllen. Mae digwyddiadau’r Diwrnod Agored wedi eu targedi felly at bobl y dre a’r cylch. Bydd yn cynnwys teithiau tywys, digwyddiadau i blant, sgyrsiau am hen ffotograffau a ffilm o’r dre a’r siaradwr gwadd, y darlledwr, Huw Edwards. Bydd hefyd gwasanaeth bws am ddim bob awr o’r dre i’r Llyfrgell,’ ychwanegodd Arwel.Diwrnod Agored Llyfrgell Genedlaethol Cymru10.00 a.m. – 5.00 p.m.Dydd Sadwrn 28 Ionawr 2012
Am wybodaeth bellach: Sian Henson: 01970 632545 sian.henson@llgc.org.uk