Wrth ochr y nifer fawr o riliau ffilm a gasglwyd gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae enghreifftiau o dechnoleg ffilm – y camerâu a’r taflunwyr oedd yn cael eu defnyddio’n wreiddiol i saethu a dangos y ffilmiau.
Gwell gwerthfawrogir arwyddocâd y casgliadau yma rŵan bod y trawsnewid bron unifersal i’r ddelwedd ddigidol wedi’u gwneud nhw a ffilm fel deunydd yn llai cyfarwydd. Mae’r llyfr diweddar a gyhoeddwyd gan y Ffederasiwn Rhyngwladol Archifau Ffilm (FIAF), Tales from the Vaults, yn enghraifft dda o’r tuedd i daflu golau ar y casgliadau yma.
Mae’r dyfeisiau yma’n weddillion corfforol o’r profiad o wneud ac edrych ar gyfrwng analog dros y ganrif ddiwethaf a mwy. Er bod cynrychiolaeth y profiad hwnnw’n anghyflawn ac nid oes modd byth ei adfer yn gyfan gwbl, drwy archwilio’r peiriannau yma mae modd ei ddychmygu’n haws. Mae’r casgliad ffilm rŵan yn cael ei brofi drwy fideo ar-lein yn unig, ond mae’r peiriannau yma’n sefydlu cyd-destun ar gyfer y daliadau ffilm sy’n ein hatgoffa ni o’r ymarferion gwreiddiol o gynhyrchu a dosbarthu.
Un ddyfais o’r math yma sydd i’w gael yn yr Archif Sgrin a Sain yw mecanwaith taflunio Wrench Model C ar gyfer ffilm 35mm, a wnaeth yn Llundain tua 1907 gan John Wrench & Co.

Tybiwyd fod y peiriant yma’n un a ddefnyddiwyd gan William Haggar, arddangoswr teithiol ac arloeswr ffilmiau oedd wedi’i leoli yng Nghymru. Gallai fod wedi bod yn rhan o sioe ffair Bioscop y teulu, a wnaeth deithio de Cymru gydag injan tracsiwn. Fel arall, gallai fod wedi ei osod yn un o sinemâu gyntaf wnaeth Haggar a’i blant reoli o 1910. Gwnaed taflunydd gyntaf Haggar, a brynodd yn ail-law yn 1898 am £80, gan Wrench hefyd, ond aeth ymlaen i ddefnyddio amryw o beiriannau wedi’u gwneud neu’u marchnata gan Maguire and Baucus, Charles Urban, Pathé a Gaumont.
Fel sy’n gyffredin gyda’r dyfeisiau yma, dim ond y mecanwaith taflunio sy’n goroesi. Ar goll yw ei breichiau sbŵl, lampdy, caead a hyd yn oed ei lens. Mae delwedd o gatalog Wrench 1907 yn helpu dangos sut y byddai wedi edrych ar y pryd. Fy niolch i Dr. Nicholas Hiley am rannu’r ddelwedd o lyfr yn ei gasgliad personol.

Un rhan nodedig sydd yma o hyd yw’r caead diogelwch, sy’n syrthio i’w le pan nad oes digon o gyflymder crancio. Mae hyn yn diogelu’r ffilm nitrad hynod fflamadwy rhag gwres y ffynhonnell goleuni am unrhyw hirach nag ennyd – nodwedd diogelwch allweddol ym mlynyddoedd cynnar arddangos ffilm pan oedd tanau nitrad yn hawlio nifer o fywydau.
Roedd yr antur Haggar yn cynnwys nifer o ffilmiau saethwyd gan William Haggar ac yn serennu aelodau o’i deulu yn ogystal â nifer o ffilmiau gan arloeswyr ffilm gynnar eraill. Roedd eu sioeau Biosgop yn cynnwys rhaglenni o gymysgedd o’r ffilmiau yma ac roedd y rhan drytaf o’r weithred o bell ffordd, gan gostio tua £1000 i’w prynu. Yn anffodus, perygl a bygythiad tanau ffilm nitrad yw’r rheswm fod gyn lleied yn goroesi o’r casgliad helaeth a fyddai heddiw’n cael ei hystyried yn drysor diwylliannol amhrisiadwy. Mae Peter Yorke yn cofio sgwrs gyda Roy Haggar lle ddywedodd bod y ffilmiau wedi cael eu storio mewn garej tu ôl i sinema yn Fordingbridge. Serch hynny, pan ail-adeiladwyd y sinema, wnaeth archwiliwr condemnio’r casgliad fel perygl tân, a dinistriwyd y ffilmiau.
Yn lwcus, mae o leiaf rhai o ffilmiau Cymreig arloesol William Haggar yn goroesi ac mae’r nitrad gwreiddiol o’r rhain yn cael eu cadw’n ddiogel mewn cromgell arbennig yn Archifdy Cenedlaethol Ffilm y BFI. Er bod rhai o’r ffilmiau prin Haggar yma ar gael i’w wylio’n ddigidol, os ydych chi’n ymweld â’r BFI Player i wylio rywfaint o’i waith – ffilm fel The Sheep Stealer (1908), efallai – mae’n addysgiadol i feddwl am William neu un o’i wyth o blant yn defnyddio peiriant fel y Wrench Model C, yn llythrennol yn crancio bob ffrâm â llaw drwy’r mecanwaith ysbeidiol. Byddai’r trên gêr yn chwyrlïo i fywyd a delweddau'n llifo heibio'r golau sy'n dod o'r lampdy - y bwa carbon yn hisian ac yn ysmygu wrth iddo losgi - ac wedyn delwedd sy’n fflachio’n fywiog yn ymddangos ar gynfas fawr. Hyn i gyd yn lle clic o'r llygoden!
Nodiadau
Mae FIAF, Ffederasiwn Rhyngwladol Archifau Ffilm, yn dwyn ynghyd sefydliadau sy'n ymroddedig i achub a chadw ffilmiau fel gelfyddyd ac fel dogfennau hanesyddol.
Llyfryddiaeth
The Haggar Memoirs, collected by Peter Yorke, 2008
William Haggar Fairground Film maker, Accent Press 2007
Wales and Cinema: The First Hundred Years, David Berry, University of Wales Press, 1994
Categori: Erthygl