Ar adeg dechrau'r flwyddyn ysgol newydd mae'n addas tynnu sylw at lyfr a brynnodd y Llyfrgell yn ddiweddar, sy'n rhoi canllaw ymarferol am sut i redeg ysgol Madras neu isathrawol. Cyhoeddwyd Manual of directions for forming and conducting a school, according to the national or Madras system yn 1819 a'r awdur oedd Ficer Crughywel ar y pryd, sef Y Parchg George Jones Bevan. Daeth y math o system addysgol a grybwyllir yn y llyfr yn boblogaidd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gymryd ysbrydoliaeth o ysgolion pentref yn ne'r India lle defnyddiwyd y myfyrwyr hŷn a mwyaf galluog fel cynorthwywyr i'r athro.
Mae'r llyfr yn ganllaw ymarferol i'r system, gan gymhwyso'r syniadau damcaniaethol a gyflwynwyd gan ei harloeswr, Andrew Bell (1753-1832) yn ei lyfr, The Madras School, a gyhoeddwyd ym 1808. Drwy roi cyfrifoldeb i'r myfyrwyr hŷn a mwyaf disglair fod yn gynorthwywyr i'r athro, galluogodd yr ysgol i gynyddu maint cyfartalog ei dosbarthiadau ac felly gwneud addysg yn fwy hygyrch i blant oedran ysgol gynradd.
Yn y llyfr, mae Bevan yn canolbwyntio ar ochr ymarferol y system, gan gynnwys yr offer sydd ei angen ar ysgol i weinyddu'r system. Mae desgiau, llyfrau, llechi ar gyfer ysgrifennu arnynt, cofrestr (gweler y templed a ddarperir) a phensiliau, peniau a sialc ymhlith yr eitemau caiff eu rhestru. Mae'n datgan y dylid dewis swyddogion o blith y disgyblion ac y dylid enwebu'r mwyaf teilwng a dibynadwy fel tywysydd. Yna caiff trefn diwrnod ysgol arferol ei nodi gan gynnwys cyfres o gosbau a gwobrau. Mae penodau o’r llyfr yn rhoi gwybodaeth am sut dylid addysgu pynciau gan gynnwys rhifedd, llythrennedd a nodiant. Rhoddir cyfarwyddiadau manwl ym mhob achos, wedi'u cynllunio'n glir i alluogi'r disgyblion i gofio a dysgu hanfodion pob pwnc.
Nod y system oedd meithrin diwydrwydd, gwaith caled a gonestrwydd yn y disgyblion. Roedd yn rhaid iddynt feistroli camau sylfaenol yn gyntaf (megis geiriau un sillaf ar gyfer darllen) cyn symud ymlaen i gamau mwy cymhleth. Ystyriwyd gweddi ac addysg grefyddol hefyd yn rhan bwysig o drefn addysg y system. Roedd gan yr ysgol hanfodion Cristnogol ym Mhrydain, lle'r oedd pob disgybl yn cael ei drin â pharch a'i werthfawrogi fel unigolyn. Cyflwynwyd gwersi moesol y ffydd fel gostyngeiddrwydd, gras a gofal am eraill, ac roeddent yn rhan bwysig o ethos yr ysgol. Dyma ganllawiau i addysg gyflawn.
