Mae'r Llyfrgell yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'n stondin yn Eisteddfod y Garreg Las gyda rhaglen lawn o weithgareddau drwy gydol yr wythnos.
O berfformiadau a phrofiadau rhyngweithiol i sgyrsiau a chyfleoedd i ddysgu rhywbeth newydd, bydd digon o weithgareddau i bob oedran
Ar y Stondin
DYDD SADWRN 1 AWST
11:30 Cwrdd â’r Curadur - Ein Hanes, Ein Iaith, yn yr oes AI gyda Jason Evans a Dot Davies
Cyfle i gwrdd â’n Rheolwr Data Agored ac arbenigwr mewn Deallusrwydd Artiffisial, Jason Evans, wrth iddi sgwrsio gyda Dot Davies am ddatblygu cynnwys digidol Cymraeg newydd yn y Llyfrgell ac archwilio AI ar gyfer cyfoethogi data, meddwl am ffyrdd newydd o weithio a ffyrdd newydd o roi mynediad at wybodaeth am ddiwylliant Cymru.
15:00 Huw Stephens yn trafod popeth Super Furry Animals
Dewch draw am sgwrs arbennig iawn yng nghwmni’r darlledwr Huw Stephens am y Super Furry Animals. Wrth edrych yn ôl ar eu gyrfa arbennig bydd Huw yn defnyddio eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell i olrhain hanes eu gyrfa. Cyfle unigryw i ddathlu’r Super Furry Animals drwy sgwrs, cerddoriaeth a thrysorau o’r archif.
DYDD SUL 2 AWST
11:30 Cwrdd â’r Curadur – Mapiau, Pŵer a Lle gydag Ellie King
Dewch i ddysgu am bŵer mapiau gyda’n Curadur Cynorthwyol Mapiau, Ellie King. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni wedi arfer â defnyddio map i ffeindio’n ffordd, ond gall fod mwy i fap na hynny. Ymunwch ag Ellie am gyflwyniad i rai o fapiau mwyaf arwyddocaol ac anaferol ein casgliadau a darganfod mwy am fapiau, pŵer a lle.
DYDD LLUN 3 AWST
11:30 Cwrdd â’r Curadur – Crefft y Cadwriaethwr: Cyn y Dirywiad, Ar ôl y Driniaeth gyda Julian Evans
Camwch fewn i fyd hudol cadwraeth gyda’n Swyddog Cadwraeth, Julian Evans. Dewch draw i ddysgu am y grefft o rwymo llyfrau, y gwaith cain o drwsio casgliadau a thechnegau arbenigol sy’n cael eu defnyddio i ddiogelu’r casgliadau cenedlaethol.
16:00 Ar y sgrin - Seremoni’r Goron
DYDD MAWRTH 4 AWST
11:30 Cwrdd â’r Curadur – Trwy Lygaid Llawysgrifau gyda Lucie Hobson gyda Twm Ebbsworth
Ymunwch â'r curadur Lucie Hobson i gael cyflwyniad i'n casgliad llawysgrifau yng nghwmni Twm Ebbsworth. Dysgwch fwy am draddodiad yr Eisteddfod yng Nghymru drwy eitemau o'n casgliadau a hanes Eisteddfod gyntaf Aberteifi fel sydd wedi’i gofnodi mewn croniclau canoloesol.
14:30 Lansiad: Cartref i Sbarc y Ddraig
Dewch draw ar gyfer lansiad o addasiad Manon Steffan Ros o’r llyfr Cartref i Sbarc y Ddraig gan Michael Sheen a Jess Webb, wedi’i gyhoeddi ar y cyd gyda’r elusen Shelter Cymru.
DYDD MERCHER 5 AWST
11:30 Cwrdd â’r Curadur – O Dan y Cloriau – Casgliad G J Williams gydag Eluned Gramich a Twm Ebbsworth
Dewch i ddysgu am ein casgliad print yng nghwmni’r Llyfrgellydd Cynorthwyol ac awdur, Eluned Gramich wrth iddi sgwrsio gyda Twm Ebbsworth am un casgliad arbennig o lyfrau yng nghanol yr wyth miliwn sydd ar silffoedd y Llyfrgell. Yn dyddio o'r 1590au ymlaen, dewch i glywed hanes casgliad G J Williams sy’n cynnwys cannoedd o lyfrau Cymreig a Chymraeg a’r cyfrinachau tu hwnt i'r print.
15:00 Gorsedd Cymru
Mae y Cynllun gwirfoddoli y Llyfrgell Genedlaethol wedi creu gronfa ddata o unigolion a gafodd eu hurddo i Orsedd Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cafodd y prosiect ei greu mewn ymateb i ymholiadau rheolaidd gan deuluoedd ac ymchwilwyr sy’n ceisio darganfod pryd a ble y derbyniwyd unigolion i’r Orsedd.
Cafodd y data ei gasglu o raglenni’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Rhestri o Swyddogion ac Aelodau’r Orsedd yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel rhan o Raglen Wirfoddoli’r Llyfrgell, bu gwirfoddolwyr yn pori’r ffynonellau hyn i greu set ddata gynhwysfawr sy’n cofnodi manylion yr urddiadau, sydd Bellach ar gael ar wefan Gorsedd Cymru.
Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am enwau barddol, lleoliadau, mathau o aelodaeth a chyfraniadau unigolion i ddiwylliant Cymru.
Dewch i gwrdd ag un o’r gwirfoddolwyr hynny, Owen Watkin i glywed mwy am y gwaith, a rhai o’r straeon difyr a ddaeth i’r amlwg ar hyd y ffordd, mewn sesiwn wedi’i chadeirio gan Mari Grug, Llywydd yr Eisteddfod eleni.
Trwy’r dydd Rhannu Cyfrinachau Archifol
Cyfle arbennig am un diwrnod yn unig i chi rannu’ch cyfrinachau archifol gyda Dr Maredudd ap Huw. Mae gan nifer ohonon ni hen bapurau teuluol, llyfrau neu ffotograffau gartref a ddim yn siŵr beth i'w wneud â nhw. Efallai bod gan rai ohonynt bwysigrwydd hanesyddol neu ddiwylliannol y tu hwnt i'ch teulu. Dewch i ymweld â'n stondin i rannu eich trysorau archifol â Dr Maredudd ap Huw, i ddysgu mwy am yr hyn rydych wedi'i ddarganfod ac i gael cyngor arbenigol os ydyn nhw’n addas i'w rhoi i gasgliadau'r Llyfrgell.
DYDD IAU 6 AWST
11:30 Cwrdd â’r Curadur – Mwy na thaflen – Cofnodi Hanes Etholiadau gyda Rob Phillips a Dot Davies
Dewch draw i gwrdd â Rob Phillips o'r Archif Wleidyddol Gymreig wrth iddo sgwrsio â Dot Davies am Gasgliad Effemera Gwleidyddol y Llyfrgell. Pwy fydda'n meddwl bod y taflenni bach sy'n dod trwy'r drws ar adeg etholiad o gymaint o bwys? Ond dewch i glywed am sut mae'r Llyfrgell yn eu casglu a pham; a sut mae'r taflenni lliwgar yma yn gallu dweud stori etholiad yn y dyfodol.
15:00 Sesiwn cerddorol yng nghwmni Mari Mathias
Dewch i gael hoe a mwynhau sesiwn cerddorol yng nghwmni Mari Mathias
DYDD GWENER 7 AWST
11:30 Cwrdd â’r Curadur – Taith y Llyfrgell i greu Dyfodol Cynaliadwy gyda Judith Musker Turner ac Elin Rhys
Ymunwch â Judith Musker Turner, Arweinydd Rhaglen Argyfwng Hinsawdd y Llyfrgell wrth iddi drafod efo Elin Rhys sut mae’r Llyfrgell, a’r sector diwylliant yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Dewch i glywed am yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ein gwaith i ddatgarboneiddio a sut mae hyn wedi sbarduno’r uchelgais i arwain a chefnogi’r gwaith yma yn y sector diwylliant
16:00 Ar y Sgrin – Seremoni’r Cadeirio
16:30 DJ Don Leisure
Ar ôl wythnos prysur o fwynhau ar faes yr Eisteddfod dewch i ymlacio ar ein stondin mewn sesiwn yng nghwmni DJ Don Leisure.
Ar y Maes
DYDD SADWRN 1 AWST
13:00 Archif: Drwy lygaid lleol (SINEMAES)
Dewch i fwynhau casgliad o glipiau lleol o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ymateb pobl wrth eu gwylio am y tro cyntaf
DYDD LLUN 3 AWST
12:00 Saith Degawd o 'Steddfod: 1926-1996 (SINEMAES)
Dewch i fwynhau detholiad o glipiau o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n rhoi blas o’r ŵyl dros y blynyddoedd, o’r paratoi a'r cystadlu, i’r mawrion a’r werin bobl. Y maes, y miri a'r misdimanars, mewn gwibdaith difyr drwy'r gwallgofi blynyddol sy'n digwydd mewn cae!
15:00 Archif: Drwy lygaid lleol (SINEMAES)
Casgliad o glipiau lleol o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ymateb pobl wrth eu gwylio am y tro cyntaf
DYDD MERCHER 5 AWST
11:30 Gwaddol Gwenallt, ganrif ers ei gadair gyntaf (CYMDEITHASAU 2)
Ganrif ers ei gadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926, bydd Gruffydd Rhys Davies, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn trafod ei ymchwil ar gof diwylliannol y Cymry am un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif, a chyfraniad casgliadau archifol Llyfrgell Genedlaethol Cymru at siapio’r cof hwnnw. Yn ail ran y sesiwn, bydd trafodaeth banel gyda Dr Bleddyn Huws a’r Athro Mererid Hopwood, dan gadeiryddiaeth Dr Maredudd ap Huw.
12:00 Archif: Drwy lygaid lleol (SINEMAES)
Dewch i fwynhau casgliad o glipiau lleol o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ymateb pobl wrth eu gwylio am y tro cyntaf
DYDD IAU 6 AWST
12:00 Bywyd a Gwaith Mary Lloyd Jones (Y LLE CELF)
Wrth i ni ddathlu bywyd o greadigrwydd lliwgar gyda’n harddangosfa Mary Lloyd Jones: Haenau (Oriel Gregynog), ymunwch â Churadur Celf y Llyfrgell, Morfudd Bevan, wrth iddi archwilio bywyd a gwaith yr artist unigryw yma.
13:30 O’r Archif gyda Mari Mathias (TŶ GWERIN)
Dewch i fwynhau ‘Caneuon y ffordd Aur’ gyda Mari Mathias. Yn seiliedig ar waith ymchwil yn archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae’r casgliad o alawon gwerin a baledi hen a newydd yma wedi’u hysbrydoli gan hanes y diwydiant gwlân, chwedlau ysbrydol y Preseli, taith yr afon Teifi a cherrig gleision sy’n siarad a symud.
15:30 Sesiwn Rhwydweithio: Diwylliant a Hinsawdd Cymru: Sut mae diwylliant yn ysbrydoli cymunedau i weithredu dros yr hinsawdd a natur? (LLYWODRAETH Cymru)
DYDD GWENER 7 AWST
15:00 Archif: Drwy lygaid lleol (SINEMAES)
Dewch i fwynhau casgliad o glipiau lleol o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ymateb pobl wrth eu gwylio am y tro cyntaf.
DYDD SADWRN 8 AWST
15:00 Archif: Drwy lygaid lleol (SINEMAES)
Dewch i fwynhau casgliad o glipiau lleol o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ymateb pobl wrth eu gwylio am y tro cyntaf.
Gyda llai nag wythnos i fynd, rydyn ni'n edrych ymlaen at dathlu'r Eisteddfod a chroesawu chi draw i'n stondin
