Mae'r Llyfrgell wedi uwchraddio ei thanysgrifiad Newsbank yn ddiweddar i gynnwys hyd yn oed rhagor o ddeunydd ar gyfer ein defnyddwyr. Wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer llyfrgelloedd yn y DG ac Iwerddon, mae Access UK & Ireland News: 2025 Edition yn galluogi ymchwilwyr i chwilio a phori'n hawdd dros 1,250 o deitlau cenedlaethol. Hefyd gellir chwilio yn rhanbarthol a lleol o ddinasoedd allweddol fel Birmingham, Bryste, Caerdydd, Caeredin, Glasgow, Dulyn, Leeds, Llundain, Lerpwl, Manceinion, a mwy. Mae'r casgliad unigryw hwn yn cynnwys newyddion golygyddol o ffynonellau newyddion dyddiol ac wythnosol, gydag erthyglau'n ymestyn o'r 1980au cynnar hyd heddiw. Bydd yr ychwanegiad defnyddiol hwn yn galluogi ein defnyddwyr i archwilio'r gorffennol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Mae byd y newyddion yn datblygu o hyd. Tra yn y gorffennol roedd newyddion yn cael ei gyflwyno'n bennaf mewn print, heddiw fe'i cyhoeddir mewn amrywiaeth eang o fformatau. Mae’r diweddariad yma yn cyfuno pob fformat - erthyglau testun llawn, cynnwys gwe yn unig, argraffiadau delwedd PDF (yn dechrau yn 2019) - mewn un rhyngwyneb, gan roi mynediad di-dor i ymchwilwyr at sylw lleol dwfn a chynhwysfawr.
• Daily Post• The Yorkshire Post
• The Sun/The Sun on Sunday • Birmingham Mail
• The Daily Record/Sunday Mail • Manchester Evening News
• The Irish Times • Bournemouth Daily Echo
• South Wales Echo/Wales on Sunday • The Western Mail
Wedi'i ddiweddaru'n ddyddiol, mae Access UK & Ireland News: 2025 Edition yn diwallu anghenion gwybodaeth trwy ddarparu mynediad ar y we i filiynau o erthyglau papur newydd cyfredol ac wedi'u harchifo. Mae'n galluogi ymchwilwyr i nodi ffynonellau, cymharu safbwyntiau, ac olrhain pynciau a digwyddiadau yn hanesyddol ac yn ddaearyddol.
Mae holl adnoddau NewsBank ar gael o bell i ddefnyddwyr y Llyfrgell 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ar unrhyw ddyfais. Ewch i'n tudalen adnoddau electronig i gael mynediad i'r adnodd gwych hwn, a gweld beth allwch chi ddod o hyd iddo.
Categori: Erthygl