Symud i'r prif gynnwys
A close-up of two grey video tape cases, large white labels on their front identifying the contents as 'Turpin Super 8 Transfers'.

Ysgrifennwyd gan Nia Edwards-Behi

27 Hydref 2025

Fel catalogydd delweddau symudol, mae'n fraint cael gweld gwir amrywiaeth o ddeunyddiau, o ffilmiau nodwedd proffesiynol, deunydd darlledu crai, hyd at ffilmiau cartref cwbl amatur.

Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn gweithio ar gasgliad gan y darlledwr Eurwyn Williams, sy'n cynnwys trosglwyddiadau tâp o set arbennig iawn o ffilmiau cartref: rhai Randolph ‘Randy’ Turpin, arwr bocsio Prydeinig gyda chysylltiad cryf iawn â Chymru.

Ganwyd Turpin yn Leamington Spa, yr ieuengaf o bump o blant, i dad Du, Lionel, o Guyana (a elwid bryd hynny yn British Guiana), a mam wen Beatrice. Bu farw Lionel o fewn blwyddyn i enedigaeth Randolph, heb erioed wella o ddifrod i'w ysgyfaint a gafwyd o ymosodiad nwy yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd magwraeth Turpin yn anodd, er bod y teulu'n agos, a byddai'n brwydro'n galed i gyrraedd serendod. Roedd Turpin – a’i frodyr, Dick a Jackie – yn nodedig am fod ymhlith y bocswyr Du cyntaf i ennill teitlau ar ôl i Fwrdd Rheoli Bocsio Prydain godi eu ‘bar lliw’ ym 1947, gan ganiatáu i focswyr Du gystadlu’n broffesiynol o’r diwedd.

Er iddo gyrraedd uchelfannau teitlau byd, rhwng penderfyniadau busnes aflwyddiannus a dadleuon personol (gan gynnwys cyhuddiadau o drais domestig), byddai ei seren yn pylu’n fuan gan arwain at ddiwedd tywyll a dadleuol: bu farw yn 37 oed, yn ôl pob sôn gan ei law ei hun ar ôl ceisio llofruddio ei ferch ei hun.

Fel un sy’n gwybod ychydig iawn am focsio, mae dysgu am Turpin a gweld ei ffilmiau cartref wedi bod yn brofiad pleserus ac ar adegau cyffrous. Mae hefyd wedi bod yn ddifyr tynnu cysylltiadau rhwng amrywiol o’n casgliadau, yn ogystal â thu hwnt.

Mae Eurwyn Williams yn gynhyrchydd toreithiog o ffilm a theledu. Yn ogystal â’r casgliad penodol hwn o dapiau, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn gartref i’w archif sgriptiau yn ogystal â rhai rhaglenni cyflawn, fel rhan o Archif Darlledu Cymru.

Mae hyn yn cynnwys Randolph Turpin a Sugar Ray, a gyflwynwyd gan Orig Williams. Wrth ganolbwyntio ar ornest enwocaf Turpin, yn 1951 lle daeth yn bencampwr pwysau canol y byd yn dilyn ei fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Sugar Ray Robinson, mae'r rhaglen hefyd yn pwysleisio Cymreictod Turpin oherwydd ei hoffter o ogledd Cymru, oherwydd ei amser yn hyfforddi yng Nghastell Gwrych, a'i fywyd yno ar ôl cwrdd a phriodi Gwyneth Price, a fyddai'n dod yn ail wraig iddo.

Er mai dim ond golygfeydd byr o ffilmiau cartref Turpin a welir yn y rhaglen benodol honno, mae'r copïau rydw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw'n cynnwys golygfeydd helaeth o fywyd teuluol. Yn y golygfeydd mae Turpin ei hun yn ymddangos o flaen y camera, mae ei bersonoliaeth hyderus yn disgleirio drwodd.

Mae amryw o aelodau'r teulu yn ymddangos yn y ffilmiau, gan gynnwys gwraig Turpin, Gwyneth, eu plant, ac aelodau eraill o'r teulu. Yn ogystal â gweld y teulu gartref, rydym yn eu gweld allan ar wyliau yn y DU a thramor yn Ewrop. Mae yna hefyd olygfeydd o'r teulu yng nghyfadeilad copa'r Gogarth Fawr, a oedd yn eiddo i Turpin ar y pryd, gan gynnwys delweddau ohono'n bocsio yn y sgwâr awyr agored adeiladodd yno.

Rwy'n dal i weithio ar ddisgrifio a chatalogio'r deunydd hwn (yn ogystal ag eraill yng nghasgliad Eurwyn Williams). Drwy allu cymharu ac ymchwilio i ddeunydd arall sydd ar gael i ni yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel Randolph Turpin a Sugar Ray, byddaf yn gallu darganfod mwy am rai o'r bobl, y lleoedd a'r cyd-destunau a geir yn y ffilmiau cartref.

Mae ymchwilio i Randolph Turpin hefyd wedi arwain at ddeunydd arall, fel ffilm ddogfen Franco Rossi, Sixty-Four Day Hero (1985), sydd ar gael i'w gwylio ar y BFI Player. Mae Rossi efallai'n fwyaf adnabyddus fel cyfarwyddwr y ffilm arloesol Babylon (1980). Yn cyflwyno'r rhaglen ddogfen mae Gordon Williams, ffigwr arwyddocaol mewn newyddiaduraeth chwaraeon, ond sy'n fwy adnabyddus i mi fel awdur The Siege of Trencher’s Farm, a addaswyd gan Sam Peckinpah fel Straw Dogs (1971) - un o fy hoff ffilmiau! Dibwys, efallai, ond mae'n enghraifft daclus o'r llawenydd mewn ymchwil a'r cysylltiadau eang y gellir eu canfod trwy ddeunydd archif.

Does dim dwywaith bod llawer o agweddau ar fywyd Turpin a oedd yn ddadleuol ac yn drafferthus, ond does dim dwywaith chwaith ei fod yn ffigwr arwyddocaol yn hanes chwaraeon Prydain, ac yn hanes pobl Ddu Prydain. Roedd ei gysylltiad â Chymru yn amlwg yn cael ei gofleidio a'i barchu'n fawr: fel mae Orig Williams ei hun yn ei alw: “Cymro anrhydeddus”.

Categori: Erthygl