Symud i'r prif gynnwys
Llyfrau am anabledd i'r baner

Ysgrifennwyd gan Eluned Gramich

2 Rhagfyr 2025

O 20 Tachwedd i 20 Rhagfyr, rydym yn dathlu Mis Hanes Anabledd y DU yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydag arddangosfa lyfrau newydd yn yr Ystafell Ddarllen. Mae'r mis yn gyfle pwysig i fyfyrio ar fywydau a phrofiadau pobl anabl drwy'r canrifoedd a dathlu eu cyfraniadau at ein cymdeithas a'n diwylliant. Mae'r llyfrau a ddewiswyd yn cynnig amrywiaeth o safbwyntiau a dulliau – o ffuglen i hanesion, barddoniaeth i draethodau beirniadol, yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Ffuglen

Mae'r dewisiadau ffuglen yn cynnwys dwy nofel i oedolion ifanc yn y Gymraeg, sy'n archwilio profiadau a heriau tyfu i fyny gydag anabledd. Yn Tami gan Mared Roberts, un o'r gyfres Y Pump a gyhoeddwyd y llynedd, rydym yn cwrdd â merch 16 oed sy'n ymdopi gyda cyfeillgarwch newidiol ynghyd â bod yr unig fyfyrwraig yn yr ysgol mewn cadair olwyn oherwydd Syndrom Ehlers-Danlos. Enillodd #helynt gan Rebecca Roberts Lyfr y Flwyddyn a Gwobr Tir na n-Og yn 2021 a chafodd ei ganmol gan y beirniaid fel 'clasur' o lenyddiaeth YA. Yn y nofel, mae Rachel, sy'n ei harddegau, yn colli'r bws i'r ysgol un diwrnod – peth bach sydd yn newid ei bywyd am byth. O ran ffuglen Saesneg, gallwch ddod o hyd i A Kind of Spark gan Elle McNicoll, a enillodd Wobr Llyfr Plant Waterstones yn yr un flwyddyn â #helynt: mae'r stori'n dilyn merch 11 oed awtistig sy'n ceisio coffáu'r menywod a gafodd eu rhoi ar brawf fel gwrachod yn ei phentref yn yr Alban. Cafodd ei droi’n gyfres BBC yn 2023.

Yn olaf, mae'r detholiad yn cynnwys nofel i oedolion: y llyfr gwerthwr gorau yn 2014 All the light we cannot see gan Anthony Doerr, sydd wedi'i ysgrifennu'n rhannol o safbwynt merch ddall o Ffrainc o'r enw Marie-Laure LeBlanc yn ystod yr Ail Ryfel Byd wrth iddi geisio lloches yn nhŷ ei hewythr yn Saint Malo, Llydaw.

Barddoniaeth a Drama

Ultimatum Orangutan yw'r ail gasgliad gan y bardd a'r artist o Indonesia, Khairani Barokka. Mae'n archwilio gwladychiaeth, amgylcheddaeth a'r argyfwng hinsawdd trwy brism salwch cronig ac anabledd. Mae'n cynnig cerddi lle mae 'y corff—yn enwedig y corff anabl—wedi'i ganoli fel ecosystem yn ei rinwedd ei hun' (Nine Arches Press). Ochr yn ochr â'r penillion radical a herfeiddiol hyn mae dehongliad theatrig o'r epig gyfoes glodwiw Deaf Republic gan Ilya Kaminsky (awdur yn wreiddiol o Odessa yn yr hen Undeb Sofietaidd). Yng ngherdd hir Kaminsky ar ryfel a gwrthsafiad, mae bachgen byddar yn cael ei ladd am anufuddhau i orchmynion na allai eu clywed. Y diwrnod wedyn, mae'r dref gyfan yn deffro'n fyddar. Adroddir yr addasiad llwyfan trwy gymysgedd o Saesneg llafar, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), capsiynau creadigol a thawelwch.

Ffeithiol a Ffotograffiaeth

I nodi hanes anabledd, mae llawer o'r teitlau a ddewiswyd yn cynnig dulliau ffeithiol a beirniadol o ymdrin â'r pwnc, gan gynnwys hanesion, naratifau personol, a chasgliadau o draethodau.

Wedi'i olygu gan Sioned Erin Hughes, mae Byw yn fy nghroen yn gasgliad o draethodau personol gan ddeuddeg cyfrannwr ifanc sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor, meddyliol a chorfforol. Derbynnydd arall o Wobr Tir na n-Og (2020), mae oedrannau'r awduron yn amrywio'n fawr - o ddeg i bedair ar hugain - ac felly hefyd eu profiadau, a ddisgrifir yn onest ac yn bwerus.

Mae Ramping up rights: an unfinished history of British disability activism gan y newyddiadurwraig Rachel Charlton-Dailey a Queer Disability Through History gan Daisy Holder yn cynnig straeon mawr eu hangen am ymgyrchwyr anabledd yn newid y dirwedd gymdeithasol a gwleidyddol dros y canrifoedd. Mae'r olaf yn archwilio'r hanes a rennir rhwng grwpiau cwiar ac anabl - gan dynnu o enghreifftiau enwog fel Frida Kahlo a Michelangelo - ac yn cydnabod yr angen i fudiadau LGBTQ+ sicrhau mannau croesawgar a hygyrch i aelodau anabl yn gyson. Mae Charlton-Dailey yn ymchwilio i hanes anwybyddu hawliau anabl ac yn cynnwys cyfweliadau ag ymgyrchwyr a phobl anabl: mae'n 'stori am frwydr y gymuned dros oroesi mewn system ddad-ddynoleiddiol' (Bethany Handley).

Mae mwy o destunau academaidd yn cynnwys dulliau amlochrog o ymdrin ag anabledd, cymdeithas, diwylliant a gwleidyddiaeth. Mae Disability and Political Representation, Colonizing Disability, ac A very capitalist condition yn gweld agweddau, profiadau a safbwyntiau tuag at anabledd wedi'u llunio gan rymoedd a symudiadau ehangach. Yn A very capitalist condition: a history and politics of disability (2016), mae'r awdur sosialaidd Roddy Slorach yn dadlau bod cyfalafiaeth wedi creu anabledd trwy droi ein cyrff yn nwyddau ar y farchnad, a thrwy labelu cyrff nad ydynt yn 'ffitio' neu nad ydynt yn hyfyw yn ariannol fel problemau. Mae The Oxford University Press Disability and Political Representation (Evans a Reher, 2024) yn archwilio'r rhwystrau go iawn ac weithiau anorchfygol y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, yn ogystal â'r angen am gynrychiolaeth wleidyddol gynyddol fel y gellir clywed lleisiau pobl anabl ar lefel wleidyddol uchel, er mwyn effeithio ar newid. Yn Colonising Disability, mae Esme Cleall yn tynnu ar amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol o gyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig i archwilio sut y daeth anabledd yn gysylltiedig fwyfwy â 'gwahaniaeth', gan ddadlau ei fod wedi gwneud hynny trwy groestorri â chategorïau eraill o wahanolrwydd fel hil.

Yn olaf, mae The Reckoning gan Christopher John Ball yn cynnig cipolwg ar hanes actifiaeth dros anabledd, gyda chyfres o ffotograffau monocrom dros gyfnod o ddeng mlynedd. Cofnododd y ffotograffydd John Ball y grŵp lobïo Disabled People Against Cuts (DPAC) wrth iddynt drefnu protestiadau a digwyddiadau mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o effaith ddifrifol cyni o dan lywodraeth Ceidwadol anghydymdeimladol.

Wrth gwrs, dim ond rhan fach iawn o’r casgliad yw hwn: mae'r llyfrgell yn gartref i dros chwe miliwn a hanner o lyfrau ac mae hefyd yn cynnig mynediad at lyfrau adnau cyfreithiol electronig yn yr Ystafell Ddarllen lle gallwch gael mynediad at y teitlau diweddaraf ar anabledd, gan gynnwys Disability Visibility gan Alice Wong a The War on Disabled People gan Ellen Clifford, i enwi dim ond dau.

Mae'r llyfrau yno ar ddangos i unrhyw un pori trwy. Gobeithiwn eich gweld yn yr Ystafell!

Categori: Erthygl