Mae'r Nadolig ar y gorwel a pha ffordd well i fynd i hwyl yr ŵyl na dod i Ffair Nadolig Llyfrgell Genedlaethol Cymru?
Nos yfory (nos Iau, 4 Rhagfyr am 5pm), dewch gyda’r teulu oll i fwynhau noson o siopa, bwyd Nadoligaidd ac adloniant byw.
Os ydych chi’n chwilio am yr anrheg Nadolig perffaith, bydd nifer o fusnesau lleol yn gwerthu eu nwyddau unigryw a bydd digonedd o anrhegion hyfryd ar werth yn siop y Llyfrgell.
Dewch i gwrdd â’n gwestai arbennig – Siôn Corn – yn ei Groto o 5:00pm ymlaen, a bydd cyfle i blant fwynhau hwyl greadigol wrth greu crefftau Nadolig.
Ymlaciwch dros fwyd Nadoligaidd o roliau twrci poeth, mins peis a gwin cynnes yng Nghaffi Pen Dinas cyn mwynhau carolau gan Feibion y Mynydd.
Bydd y Llyfrgell yn llawn bwrlwm y Nadolig ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu’r Ŵyl gyda chi.
Categori: Newyddion
