Ffurfiwyd undeb amaethyddol newydd yng Nghymru ddechrau mis Rhagfyr 1955. Ffarweliodd grŵp bychan o ffermwyr o orllewin Cymru ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr er mwyn sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru, ac er i lawer broffwydo nad oedd dyfodol iddo, tyfodd yr Undeb newydd yn ddylanwad grymus yn amaethyddiaeth Cymru.
Wrth iddynt ddathlu deng mlynedd a thrigain, dyma adrodd hanes dechrau’r Undeb drwy saith eitem sydd yng nghasgliadau amrywiol y Llyfrgell Genedlaethol.
Un o orchwylion cyntaf yr Undeb newydd oedd cyhoeddi taflen yn nodi wyth rheswm dros ffurfio Undeb Amaethwyr Cymru (UAC). Fe’i drafftiwyd gan J. B. Evans, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb gyda chymorth Ivor T. Davies, Brynmafon, Llanfihangel-ar-arth a D. T. Lewis, Llwynwermwd, Myddfai, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd yr Undeb, yn nhŷ J. B. Evans, Parc Glanyrannell, Crug-y-bar, Llanwrda ar ôl cinio dydd Sul ar y penwythnos yn dilyn sefydlu’r Undeb yn Rhagfyr 1955. Fe’i cyhoeddwyd gan David Jones, Pencader – yr unig argraffydd a oedd yn barod i wneud y gwaith ar gredyd.
Cyflwynodd yr Undeb bolisi drafft hirdymor ar gyfer y ffermwr bychan yng nghynhadledd gyntaf eu haelodau yn Aberystwyth ar 25 Mai 1956. Paratowyd y datganiad polisi cyntaf hwn gan D. J. Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Polisi gyda chymorth J. B. Evans a John Morris (yr Arglwydd Morris o Aberafan yn ddiweddarach). Dosbarthwyd copïau o’r ddogfen chwe thudalen ymysg awdurdodau amaethyddol, cyfnodolion, cymdeithasau ac at bob aelod Seneddol. Cafodd dau o’r prif argymhellion eu cynnwys yn y Mesur Amaethyddol a oedd gerbron Tŷ’r Cyffredin y flwyddyn ganlynol – sef yr un ar y weithdrefn Adolygu Prisiau a’r cynigion ar gyfer rhoi grantiau tuag at wella adeiladau ac offer sefydlog.
Ymddangosodd y daflen newyddion gyntaf, a ddisgrifiwyd fel Monthly News Bulletin, ym mis Gorffennaf 1956, ar ffurf pedair tudalen o newyddion teipiedig a olygwyd gan John Morris, yr Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol a fu’n gyfrifol am gychwyn a golygu’r rhifynnau cynnar. Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol ac Ymgynghorydd Cyfreithiol i’r Undeb ym Medi 1956. Roedd yr ail rifyn, a gyhoeddwyd o dan y teitl Y Tir (The Land) yn Ionawr 1957, yn cynnwys dwy dudalen wedi eu hargraffu gan y Cambrian News. Er bod y teitl wedi amrywio dros y blynyddoedd, mae Y Tir yn parhau i gael ei gyhoeddi hyd heddiw.
Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf Undeb Amaethwyr Cymru yn Neuadd y Brenin, Aberystwyth ar 3 Mehefin 1957, deunaw mis i’r diwrnod y ffurfiwyd yr Undeb yng Nghaerfyrddin. Adroddwyd bod trefniadaeth wedi’i sefydlu ym mhob sir yng Nghymru, ac eithrio siroedd Fflint a Mynwy, a bod yr Undeb wedi gallu dangos elw o dros £3,000. Roedd y pymtheg cynnig a drafodwyd yn amrywio o gondemnio’r Adolygiad Prisiau i alwad am wahardd profi arfau niwclear.
Yng Ngorffennaf 1957 cynhaliodd yr Undeb Gynhadledd Genedlaethol yn Neuadd y Plwyf, Aberystwyth “er mwyn ystyried dulliau a moddion i ddiogelu cyflenwad digonol o ddwfr ar gyfer poblogaeth Cymru; amaethyddiaeth a diwydiannau eraill; a datblygiadau yn y dyfodol.” Gwnaed hyn oherwydd bod Cyngor yr Undeb yn bryderus iawn bod cynigion Corfforaeth Lerpwl i foddi Cwm Tryweryn yn cael eu pasio mor hawdd drwy Dŷ’r Arglwyddi. Mynychwyd y gynhadledd gan gynrychiolwyr yr awdurdodau lleol yng Nghymru a chafwyd anerchiadau gan dri aelod Seneddol.
Cyhoeddwyd ‘A Statement of Policy for the Farmers of Wales’ ym mis Medi 1958, sef polisi Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer y diwydiant amaethyddol yng Nghymru, gan ailadrodd y rhesymau dros ffurfio undeb annibynnol ar gyfer ffermwyr Cymru. Dadleuai y dylai unrhyw bolisi hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru nid yn unig sicrhau bywoliaeth ffermwyr llawn amser, ond y dylai hefyd ddiogelu’r hyn oedd yn weddill o’r gyfundrefn fân-ddaliadau. Ymysg yr argymhellion eraill, roedd galw ar i addysg amaethyddol ddechrau yn yr ysgolion cynradd ac ailadroddwyd hefyd alwad UAC am goleg amaethyddol i Gymru ac am sefydlu coleg milfeddygol o fewn Prifysgol Cymru.
Mae'r ffotograff ar frig y dudalen hon yn dangos sylfaenwyr Undeb Amaethwyr Cymru, a dynnwyd ym mis Mawrth 1959.
Yn eistedd (o’r chwith i’r dde): J. B. Evans (Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf), Ivor T. Davies (Cadeirydd a’r Llywydd cyntaf), D. T. Lewis (Llywydd, 1958-1961).
Yn sefyll: J. W. O. Davies, Llanymddyfri; Dewi I. Thomas, Caerfyrddin; J. H. Davies, Llanybri; Llewelyn B. Bebb, Goginan; Aelwyn Hughes, Llanymddyfri; Tom Price, Llanymddyfri.
Roedd tri sylfaenydd arall yn absennol pan dynnwyd y llun: D. J. Davies, Aberaeron; Llewellyn Jones, Rhandir-mwyn a D. J. Jones, Llanymddyfri.
Categori: Erthygl
