Symud i'r prif gynnwys
Image of Phyllis Kinney

30 Mehefin 2026

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn estyn ei chydymdeimlad dwys i deulu a ffrindiau Phyllis Kinney, un o ffigurau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Trwy ei gwaith fel canwr, ysgolhaig, casglwr a hanesydd, gwnaeth gyfraniad eithriadol at ddiogelu, dehongli a hyrwyddo treftadaeth gerddorol Cymru i genedlaethau o ymchwilwyr, perfformwyr a gwrandawyr. Roedd ei hymroddiad i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn ysbrydoliaeth barhaus.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Roedd Phyllis Kinney yn ysgolhaig o fri rhyngwladol ac yn gyfaill mawr i Gymru. Trwy gydol ei hoes hir a chynhyrchiol, bu’n pontio diwylliannau ac yn sicrhau bod traddodiadau cerddorol Cymru yn cael eu cofnodi, eu deall a’u gwerthfawrogi. Mae ei hetifeddiaeth, ynghyd ag etifeddiaeth Meredydd Evans, yn parhau yng nghasgliadau’r Llyfrgell ac ym mywyd diwylliannol y genedl.”

Bydd ei chyfraniad aruthrol i fywyd diwylliannol Cymru a’i hangerdd dros gerddoriaeth werin yn parhau i ysbrydoli am flynyddoedd lawer i ddod. Mae’r Llyfrgell yn ddiolchgar i’r teulu fod archif Merêd and Phyllis, sy’n cynnwys eu hymchwil fanwl a gwerthfawr i gerddoriaeth draddodiadol, yn cael ei chadw yma er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Nia Mai Daniel, Pennaeth Adran Casgliadau Unigryw ac un a ddaeth i adnabod Phyllis yn dda:

“Braint oedd cael adnabod Phylis a chydweithio gyda hi  i drosglwyddo ei harchif gerddorol i'r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd hi wedi ymdrwytho yn ein diwylliant gwerin, gan gydweithio ochr yn ochr gyda'i gwr Mered ar eu hymchwil trwylwyr i gerddoriaeth draddodiadaol Cymru. Roedd yn arbennig o hael wrth rannu ei gwybodaeth, ac yn frwd wrth ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr a cherddorion.”

Bydd colled fawr ar ei hôl, ond erys ei hetifeddiaeth yn rhan annatod o stori gerddorol Cymru.
 

Categori: Newyddion