Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf gan Wasg Gregynog ganrif yn ôl ym 1923, ond yr eitem gyntaf i ddod o’r wasg oedd cerdyn ar gyfer Nadolig 1922. Mae’r cerdyn yn cynnwys pennill yn Gymraeg a Saesneg am bwysigrwydd darllen – addas ar gyfer gwasg argraffu newydd – ac ysgythriad pren o Neuadd Gregynog ger Y Drenewydd, cartref y wasg.
Cefais y pleser o gyflwyno rhai eitemau o gasgliad y Llyfrgell o gyhoeddiadau gweisg preifat yn nigwyddiad hybrid ‘Spineless Wonders’ a gynhaliwyd yn y Drwm ac ar lein yn ddiweddar. Mae’r term “gweisg preifat” yn cyfeirio at weisg cyfoes sy’n defnyddio dulliau traddodiadol o argraffu a llaw i greu cyhoeddiadau cain mewn argraffiadau cyfyngedig. Oherwydd thema’r gynhadledd canolbwyntiais ar gyhoeddiadau mwy ephemeral, megis y neges o heddwch oddi wrth blant Tywysogaeth Cymru at blant y byd a argraffwyd ym Mai 1923; cyhoeddwyd negeseuon tebyg bob blwyddyn o 1930 hyd 1939.
Ymysg gweisg preifat eraill yng Nghymru mae’r Old Stile Press yn Llandogo, Sir Fynwy, a Gwasg Gwydir yng Nghastell Gwydir, Llanrwst. Un o’r rhai llai adnabyddus yw gwasg Huw Ceiriog Jones, cyn aelod o staff y Llyfrgell Genedlaethol, sydd wedi mynd o dan sawl enw gan gynnwys Gwasg Llety Gwyn, Gwasg yr Arad Goch a Gwasg Y Wern. Dangosais nifer o eitemau wedi’u hargraffu gan Huw, megis cardiau Nadolig a detholiad o farddoniaeth cyn Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau’r Llyfrgell, Dr. Daniel Huws, a argraffwyd mewn tri chopi yn unig.
Mae gweithiau awduron Cymreig wedi ysbrydoli gweisg preifat tu allan i Gymru, a dangoswyd weithiau gan R.S. Thomas wedi’u hargraffu gan y Celandine Press yn Warwickshire a’r Babel Press yn Denklingen yn yr Almaen, argraffiad o Fern Hill gan Dylan Thomas wedi’i gyhoeddi gan y Waseley Hills Press yn Sir Caerwrangon, ac argraffiad o Llywarch Hen gan y Tern Press yn Sir Amwythig. Tua 1920 argraffwyd Gweddi’r Orsedd a cherddi Cymraeg gan W.J. Gruffydd ac Eifion Wyn gan y Cuala Press yn Nulyn.
Roedd y gynulleidfa wrth eu boddau yn cael gweld yr eitemau hyn sy’n fach o ran maint ond eto yn dangos sgiliau arbennig eu gwneuthurwyr. Mae’r Llyfrgell yn parhau i gasglu cyhoeddiadau gweisg preifat sydd o ddiddordeb Cymreig, gan gynnwys rhai newydd a rhai hynach nad oes copïau ohonynt yn y casgliadau yn barod.
Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin
Categori: Erthygl