Symud i'r prif gynnwys
Scott Quinnell with a painting of Barry John

1 Hydref 2025

Mae ymchwilio i hanes unrhyw deulu yn gallu datgelu llawer o gyfrinachau a pha le gwell i wneud hynny nag yn y Llyfrgell. Mae ein casgliadau ac adnoddau yn llawn dop o wybodaeth a chyfrinachau ac yn barod i ollwng y cynnwys i'r rhai sy'n barod i dwrio. Mae’n fraint bob amser i gael eich gofyn i ymchwilio i hanes unrhyw seren o Gymru, a’r tro hwn Scott Quinnell oedd y seren. 

Fel sy’n arfer gydag unrhyw ymchwil hanes teulu, chi byth yn gwybod ble chi mynd na be fyddwch yn darganfod. Roedd Scott yn ymwybodol o rywfaint o hanes ei deulu, ochr y Quinnells yn hannu o swydd Sussex ac ochr ei fam o ardal Drimsaran.

Fel arfer canolbwyntio ar ymchwilio  o fewn Cymru yw’r nôd, ond cofiwch bod adnoddau o fewn y Llyfrgell yn ein galluogi i ymchwilio tu hwnt i glawdd Offa. Yn achos teulu’r Quinnells roedd rhaid mynd i swydd Sussex i chwilio, lle bu mynediad am ddim i Findmypast yn ddefnyddiol iawn.

Roedd ‘Grandpa Stan’ yn dipyn o arwr i Scott ac roedd yn emosiynol iawn wrth i mi ddangos hanes priodas Stan Quinnell â Beryl Nurse (ei dadcu a mamgu) ym mhapur newydd Llanelli Star ar 28 Gorffennaf 1945, lle nodwyd enwau aelodau’r teulu.
 

Drwy ddefnyddio adnoddau arlein, sydd ar gael am ddim o fewn y Llyfrgell, roedd modd dilyn teulu Stan Quinnell yn ôl i Robert Quinnell ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwnaed hyn trwy chwilio Cofrestr 1939, cyfrifiad 1921 yn ôl i 1841, cofrestri plwyf a phapurau newydd.

Mae papurau newydd yn ffrith o wybodaeth nad oes modd ei weld o bosib yn unman arall – cofnodwyd bod ‘Grandpa Stan’ wedi cael dirwy am fynd ar beic heb olau; hanesion priodas a marwolaethau yn enwi pawb oedd yno a’u perthynas. Gallwch gael mynediad at bapurau newydd yn y arlein, copïau gwreiddiol ac ar meicroffilm o fewn y Llyfrgell. 

Beth am roi cynnig ar chwilio am hanes eich cyndeidiau i weld bethw wnewch chi ddarganfod? Lle da i ddechrau fyddai https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/.

Gallwch wylio rhaglen Cyfrinachau’r Llyfrgell ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Beryl Evans
Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil ac Ymgysylltu

Categori: Erthygl