Symud i'r prif gynnwys
Kahkewāquonāby Peter Jones cenhadwr i'r Chippeway Indians, Gogledd Canada, Gogledd America

27 Hydref 2023

Diolch i gyllideb drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol, mae’r Bywgraffiadur Cymreig (YBC) yn ymgymryd â phrosiect newydd i gynyddu ansawdd ac ystod ei gynnwys. Dros y flwyddyn hon a’r un nesaf, bydd y Prosiect Amrywedd yn canolbwyntio’n benodol ar ethnigrwydd a chydraddoldeb rhyw drwy gomisiynu erthyglau newydd i wella’r gynrychiolaeth o hanes amrywiol Cymru.

Enwau newydd i’w hychwanegu

Byddwn yn diweddaru, cywiro ac yn ail-ysgrifennu erthyglau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi. Fe fyddwn hefyd yn comisiynu erthyglau newydd am bobl sydd ar goll. Mae YBC eisoes wedi cyhoeddi rhestr enwau sydd angen eu hychwanegu. Ers dechrau’r prosiect, yr ydym wedi adnabod sawl person hanesyddol o bob cefndir.

Rufus Elster Fennell (1887–1974)

Ymysg yr enwau newydd sydd wedi’u cynnwys yn y rhestr yw Rufus Elster Fennell (1887-1974). Yn enedigol o UDA, cafodd ei arestio gan yr heddlu fel tyst i’r Terfysgoedd Hil yng Nghaerdydd yn 1919. Yn dilyn ei rhyddhad, bu’n feirniadol o ragfarn hiliol a chreulondeb heddlu de Cymru wrth ddelio â’r terfysgoedd. Degawd yn ddiweddarach, fel actor mewn ffilmiau ac ar y llwyfan, ymddangosodd gyferbyn â Paul Robeson yn Jericho. Yn y pen draw, dychwelodd Fennel i’r Unol Daleithiau ble fu farw mewn cartref gofal yn 1874.

Peter Jones, Kahkewāquonāby (1802-1856)

Wrth chwilio drwy Gasgliad Portreadau’r Llyfrgell ar Wikimedia Commons, daethom o hyd i lun o Kahkewāquonāby (1802-1856) a gymrodd yr enw Peter Jones. Yr oedd o linach Gymreig ac Americanaidd Brodorol cymysg a gafodd ei fagu gan ei fam yn niwylliant, crefydd ac iaith y Mississauga Ojibwa.

Fel bachgen yn ei arddegau, ymunodd a’i dad estronedig ac, ymhen amser, daeth yn genhadwr Methodistaidd. Yn hwyrach, byddai Jones, fel arweinydd ymddiriedig o fewn y gymuned, yn cynrychioli diddordebau gwleidyddol y Mississaugas o flaen y llywodraeth Ganadaidd. Ymwelodd â Phrydain ar dri achlysur gwahanol i godi arian ar gyfer ei waith. Er na ymwelodd â Chymru, adroddodd y papurau newydd Cymreig am ei ddarlithiau cyhoeddus â brwdfrydedd.

Ble mae’r menywod?

Mae’n fwy anodd dilyn bywgraffiadau menywod hanesyddol oherwydd bod eu bywydau a’u cyflawniadau yn aml yn cael eu hesgeuluso a heb eu cofnodi. Fodd bynnag, yr ydym wedi adnabod sawl menyw yr hoffem eu coffau drwy erthyglau’r Bywgraffiadur. Ymysg y rhain yw Justina Jeffreys (1787-1869), a ganed yn Jamaica ac yn hwyrach o Gastell Glandyfi, y fyfyrwraig o Aberystwyth Irish de Freytas (1896-1989) a oedd y fenyw gyntaf i ymarfer y gyfraith yn y Caribî, neu Mahala Davis, y person Du cyntaf i ganu yn Gymraeg ar y teledu yn yr 1960au.

Cefnogi ein gwaith

Mae’r detholiad yma ond yn crafu’r wyneb ac yr ydym yn dibynnu’n fawr ar wybodaeth a brwdfrydedd y cyhoedd i’n cynorthwyo i sicrhau bod YBC yn tyfu, ehangu ac adlewyrchu’n deg amrywedd Cymru. Mae ein rhestr o enwau bellach ar gael ar wefan YBC. Os ydych yn ymwybodol o enw dylid ei gynnwys neu os oes diddordeb gennych i ysgrifennu erthygl am y bobl sydd eisoes wedi’i hadnabod, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Categori: Erthygl