Symud i'r prif gynnwys
A VR image of a bedroom.

15 Gorffennaf 2026

Ôl yw’r gwaith realiti rhithwir Cymraeg cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer cystadleuaeth yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis, gan nodi carreg filltir bwysig ar gyfer adrodd straeon ymdrochol yn y Gymraeg.

Bydd y gydnabyddiaeth hon yn golygu cyflwyno treftadaeth glyweledol Cymru i gynulleidfa ryngwladol drwy ddeunydd o Archif Ddarlledu Cymru.

Mae Ôl, a gafodd ei ddewis ar gyfer y Categori Ymdrochol yn 83ain Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis, yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith hiraethus yn ôl i 2006. Bydd y gwaith yn cael ei gyflwyno ar Ynys Ymdrochol Fenis o 2 tan 12 Medi, sef ei ddangosiad rhyngwladol cyntaf. Mae’n un o ddim ond 68 o brofiadau ymdrochol o bob cwr o’r byd sydd wedi’u dewis ar gyfer y rhaglen eleni.

Cyn teithio i Fenis, bydd Ôl hefyd ar gael i'w brofi drwy gydol yr wythnos ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni,  a fydd yn cael ei chynnal yn ardal yng Ngogledd Sir Benfro rhwng 1 ac 8 Awst.

Mae’r profiad dwyieithog yn bosib drwy Archif Ddarlledu Cymru, prosiect gan y Llyfrgell Genedlaethol, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru ac mae’n gyd-gynhyrchiad rhwng Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Pilot a Dreaming Methods a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â’r Llyfrgell Genedlaethol.

Steffan Donnelly sy’n lleisio’r fersiwn Gymraeg a’r feriswn Saesneg gan Callum Scott-Howells, mae Ôl | Haunts yn cludo cynulleidfaoedd yn ôl i 2006, gan archwilio cof, lle a hunaniaeth drwy gyfuniad o realiti rhithwir, deunydd archif a cherddoriaeth gan artistiaid Cymreig, gan gynnwys Super Furry Animals, John Cale a High Contrast. Mae cynnwys archifol yn rhan allweddol o'r profiad, gan ddod â golygfeydd, synau a diwylliant cyfnod pwysig yn hanes modern Cymru yn fyw.  

Mae’r teitl a’r cysyniad yn tynnu ar yr hiraeth roedd y cyd-gyfarwyddwyr, Lucy Hammond a Tom Chetwode-Barton, eisiau ei ddeffro mewn cynulleidfaoedd gan gyfeirio at brofiad sy’n taro tant gyda’n llencyndod a’r llefydd, y bobl a’r gerddoriaeth sy’n aros gyda ni ymhell i mewn i’n bywydau fel oedolion.

Wrth siarad am gael ei dewis ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis, meddai’r cyd-gyfarwyddwr Lucy Hammond: “Mae’n hynod gyffrous gweld Ôl yn cael ei gydnabod ar lefel ryngwladol.

“Mae gweld gwaith ymdrochol yn cael ei ddathlu yng ngŵyl ffilmiau hyna’r byd yn dangos pa mor bwerus y gall fod fel dull o adrodd straeon; rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ennyn yr un teimladau o hiraeth mewn cynulleidfaoedd byd-eang ag y mae wedi’i wneud i gynulleidfaoedd adre.”  

Dywedodd Dafydd Tudur, Pennaeth Ymgysylltu, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Rydym yn hynod falch o weld Ôl | Haunts yn cael ei arddangos ar un o lwyfannau diwylliannol mwyaf y byd. Mae'r prosiect yn dangos sut y gall y casgliadau a gedwir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ysbrydoli ffyrdd newydd o greu ac adrodd straeon, gan alluogi cynulleidfaoedd i ymgysylltu â hanes a diwylliant Cymru mewn ffyrdd arloesol ac ystyrlon.

"Sefydlwyd Archif Ddarlledu Cymru i ddiogelu, rhannu ac annog defnyddiau newydd o'n treftadaeth glyweledol. Mae gweld deunydd archifol yn cael ei drawsnewid yn brofiad ymgolli a fydd bellach yn cyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol yn enghraifft bwerus o'r weledigaeth honno ar waith. Diolch yn fawr i'n holl bartneriaid ar y prosiect."

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:

"Rydym wrth ein bodd bod Ôl | Haunts wedi cael ei ddewis ar gyfer Gŵyl Ffilm Ryngwladol Fenis, gan nodi eiliad arwyddocaol i adrodd straeon yn y Gymraeg. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Archif Ddarlledu Cymru wedi helpu i agor ein treftadaeth glyweledol gyfoethog mewn ffyrdd newydd ac arloesol, gan ysbrydoli prosiectau creadigol sy'n cysylltu pobl â'n straeon, ein lleoedd a'n diwylliant. Dymunwn bob llwyddiant i'r tîm yn Fenis ac edrychwn ymlaen at weld pobl o bob cwr o'r byd yn profi'r gwaith unigryw hwn."

Mae Archif Ddarlledu Cymru yn dod â chynnwys o archifau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales a S4C ynghyd, gan ddarparu mynediad at fwy na chanrif o hanes radio a theledu yng Nghymru. Diolch i bartneriaeth â'r darlledwyr a chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae tua 650,000 awr o gynnwys ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn Corneli Clip ledled Cymru ac ar-lein.

Y stiwdio realiti rhithwir, Dreaming Methods (Judi Alston ac Andy Campbell) arweiniodd ar y gwaith o ddatblygu’r cysyniad a’r gwaith creadigol ymdrochol.  Mae Ôl | Haunts yn amlygu potensial creadigol y casgliadau hyn, gan ddangos sut y gellir ail-ddychmygu treftadaeth ddarlledu Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd newydd drwy dechnegau adrodd straeon digidol blaengar.

 

PROFWCH ÔL | HAUNTS

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru — 1–8 Awst

Gŵyl Ffilm Ryngwladol Fenis, Venice Immersive Island — 2–12 Medi

Gŵyl Llais, Canolfan Mileniwm Cymru — 7–11 Hydref 

Categori: Newyddion