Mae'n bleser gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyhoeddi penodiad Jo Williams i'w Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Mae Williams yn wreiddiol o Swydd Tyrone, gan symud i Gymru yn y 1970au. Mae hi'n Gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (FCCA) ac enillodd MBA gydag Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored ym 1998. Mae ganddi brofiad helaeth fel uwch weithiwr proffesiynol cyllid a busnes yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae ganddi ddeuddeg mlynedd o brofiad ers 2013 fel aelod lleyg o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio mewn dau gyngor unedol yn Ne Cymru. Mae Jo wedi dysgu Cyfrifeg a Chyllid ar lefelau gradd gyntaf a meistr ar gyfer Ysgol Fusnes Caerdydd yn rhan-amser ers nifer o flynyddoedd.
Mae ganddi ddiddordeb yn niwylliant a threftadaeth y cenhedloedd Celtaidd a dysgodd y Gymraeg fel rhiant ac arweinydd meithrin yn y ector Addysg Cyfrwng Cymraeg yn y 1980au. Ar hyn o bryd mae hi'n ail-ddysgu'r iaith Wyddeleg (An ghaeilge) trwy adnoddau dysgu ar-lein a mynychu cyrsiau preswyl yng Ngaeltacht Swydd Donegal.
Categori: Newyddion
