Symud i'r prif gynnwys
Ysgythriad o dref Llandudno

11 Medi 2023

Awdur mewn proffil: Hymen Kaner

Wrth ymchwilio at waith diweddar ar ddata etifeddiaeth yng nghasgliad ffuglen y Llyfrgell Genedlaethol,  darganfuwyd nifer o gyhoeddiadau gan yr awdur Hymen Kaner, a aned yn Rwmania. Tynnwyd sylw at y llyfrau hyn gan iddynt gael eu cyhoeddi yn Llandudno. Gydag ychydig iawn o gofnodion catalog llawn ar gael ar gyfer cyhoeddiadau Kaner, bu rhaid i un o’n llyfrgellwyr yma sicrhau fod y cyfrolau’n cael eu catalogio’n llawn, a’u cynnwys fel rhan o Lyfryddiaeth Cenedlaethol Cymru.

Trwy’r broses hon sylwais ar stori ddiddorol, o deulu o fewnfudwyr o Rwmania yn cyrraedd Prydain Fawr, yn gyntaf i Lundain, yna i Landudno. Ar ryw adeg sefydlodd Kaner wasg gyhoeddi yn Llandudno, yn bennaf i gyhoeddi ei waith ei hun. Er hyn, cyhoeddwyd gweithiau gan awduron eraill hefyd. Nid yw’n glir pa mor llwyddiannus oedd y fenter, ond mae’r ffaith fod sawl casgliad o straeon byrion, gan gynnwys ‘Ordeal by moonlight’, ‘Hot Swag!’, and ‘Fire watchers night’, wedi’u cyhoeddi’n fasnachol ac sydd bellach o fewn casgliad y Llyfrgell yn brawf fod Kaner wedi cael rhywfaint o lwyddiant.

Gweler rhagor am hanes yr awdur ar wefan Ash Rare Books. Ysgrifenwyd y darn gan Laurence Worms o Ash Rare Books.

Llyfryddiaeth gynhwysfawr o waith Hymen Kaner.

Ian Evans

Rheolwr Cynllun Catalogio ar y Cyd

Categori: Erthygl