Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn nodi Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 2026 gyda chyfres o
weithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, codi
ymwybyddiaeth o'r hinsawdd ac amlygu'r rôl y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth gefnogi
gweithredu am yr hinsawdd.
Ddydd Mercher 21 Hydref, bydd y Llyfrgell unwaith eto yn croesawu cyfranogwyr Rali EV Cymru, fel
Gwesteiwr Checkpoint ar gyfer rali cerbydau trydan deuddydd GREENFLEET. Gan deithio pellter o
400 milltir o Gaerdydd i Ogledd Cymru, mae'r rali yn dwyn ynghyd fwy na 25 o gerbydau trydan a
dros 45 o yrwyr, wrth i thema eleni ganolbwyntio ar 'Chwalu'r Mythau' ynghylch cerbydau trydan a
gwefru cyhoeddus. Mae’r Llyfrgell yn gartref i safle gwefru cerbydau trydan mwyaf Cymru gyda 40 o
bwyntiau gwefru, a 1,622 o baneli solar yn cynhyrchu trydan.
Ddydd Mawrth 27 Hydref, bydd y Llyfrgell yn cynnal dangosiad am ddim ac yn agored i bawb o’r ffilm
Briff Argyfwng i’r Bobl. Yn dilyn y dangosiad bydd trafodaeth am yr hyn y mae heriau hinsawdd yn ei
olygu i'r gymuned, y Llyfrgell, a pha gamau y gellir eu cymryd ar lefel leol.
Dechreuodd y gweithgareddau ar Ddydd Iau 15 Hydref gyda lansiad y Ganolfan Uwchefrydiau
Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru mewn partneriaeth â’r Llyfrgell, o olygiadau newydd digidol o'r
Tours in Wales gan y naturiaethwr a’r hynafiaethydd enwog Thomas Pennant, sydd ar gael i ddarllen
ar wefan Teithwyr Chwilfrydig. Mae gwaith Pennant yn cynnig mewnwelediadau pwysig i sut oedd
perthynas pobl â byd natur yn newid yn ystod adeg y chwyldro diwydiannol.
Mae Caru Hughes, Rheolwr Prosiect Llyfrgelloedd Cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol, hefyd wedi
bod yn gweithio i gefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru i gymryd rhan yn Wythnos
Llyfrgelloedd Gwyrdd a chyflwyno amrywiaeth o weithgareddau creadigol a chymunedol. Mae'r
uchafbwyntiau yn cynnwys gweithdai llusernau helyg ar thema'r hinsawdd, dan arweiniad Celf Wyllt
Cymru, yn Llyfrgelloedd Gwynedd; gweithdai blodau llyfrau gan ddefnyddio llyfrau wedi'u hailgylchu
a digwyddiad Trwsio sy'n hyrwyddo ailddefnyddio a lleihau gwastraff yn Llyfrgelloedd Abertawe; a
sesiynau stori a chrefft yn Llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae mwy o wybodaeth am
weithgareddau llyfrgelloedd cyhoeddus ar wefan Llyfrgelloedd Cymru.
Mae'r gweithgareddau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Llyfrgell i fod yn sefydliad sy’n
arwain ar gynaliadwyedd amgylcheddol ac i godi ymwybyddiaeth o rôl llyfrgelloedd wrth ymateb i
argyfyngau hinsawdd a natur a mynd i'r afael â cham wybodaeth a thwyll wybodaeth.
Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Rydym yn falch iawn o ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd drwy groesawu Rali EV Cymru i'r
Llyfrgell unwaith eto, yn ogystal â chynnal dangosiad o'r Briff Argyfwng i’r Bobl ymhlith
gweithgareddau eraill. Mae'r wythnos yn gyfle gwych i gydnabod rôl allweddol llyfrgelloedd wrth
sicrhau bod pobl yn cael mynediad at wybodaeth ddibynadwy a chywir am newid yn yr hinsawdd.
Mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud i gyflawni ein huchelgais i
fod yn sefydliad blaenllaw ar gynaliadwyedd amgylcheddol, o'n rhaglen ôl-ffitio uchelgeisiol i sefydlu
rhwydwaith Diwylliant a Hinsawdd Cymru, a'r gwaith gwerthfawr sy'n cael ei gyflawni gan
lyfrgelloedd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.
Fel sefydliad blaenllaw ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol, gyda chefnogaeth ariannol gan
Lywodraeth Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio tuag at y nod o fod yn garbon
niwtral erbyn 2028 a dileu'r defnydd o nwy yn llwyr a lleihau allyriadau carbon.
Yn ddiweddar, mae'r Llyfrgell wedi trawsnewid ei hystâd hanesyddol trwy raglen ôl-ffitio uchelgeisiol
sy'n lleihau ei hôl troed carbon yn sylweddol wrth sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. Roedd y
mesurau yn cynnwys gosod technolegau arloesol fel pympiau gwres aer a daear, 1,622 o baneli solar,
a gweithredu system rheoli adeiladau deallus i wella effeithlonrwydd ynni.
O ddarparu mynediad at wybodaeth ddibynadwy a meithrin sgiliau newydd, i ddod â phobl ynghyd i
drafod heriau a datrysiadau lleol, mae llyfrgelloedd mewn sefyllfa unigryw i gefnogi cymunedau i
ddeall, addasu a gweithredu dros ddyfodol mwy cynaliadwy. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn
annog pawb i gymryd rhan yn y gweithgareddau a darganfod sut y gall camau bach lleol gyfrannu at
newid cadarnhaol ehangach.
