O oes aur bocsio Merthyr a hanes glofaol Abertawe i bêl-droed Wrecsam a straeon cudd Conwy, bydd casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dod yn fyw mewn pedair cymuned y mis hwn.
Bydd taith Dy Lyfrgell Di yn ymweld â Merthyr Tudful, Abertawe, Wrecsam a Chonwy rhwng 21 a 25 Medi, gyda diwrnod o weithgareddau ym mhob lleoliad yn seiliedig ar bobol leol, hanes lleol a threftadaeth leol. Trwy archifau, gweithgarwch creadigol a phartneriaethau lleol, bydd y daith yn cysylltu cymunedau â'r straeon, yr atgofion a'r casgliadau sydd ar gof a chadw gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ysbrydoli pobol i ddarganfod gwybodaeth a phersbectif newydd am hanes Cymru a Chymru heddiw.
Bocsio a Merthyr Tudful
Bydd y daith yn dechrau ym Merthyr Tudful ar 21 Medi, lle rhoddir y sylw pennaf i dreftadaeth bocsio hynod y dref.
Bydd Oes Aur Bocsio ym Merthyr yn dod â deunydd archif, straeon personol ac arddangosfa o focswyr lleol ynghyd, gyda Geraint Thomas – mab yr eicon bocsio Eddie Thomas – a Wynford Jones yn trafod y cyfnod a roddodd Merthyr ar lwyfan bocsio’r byd.
Bydd sesiwn arall yn edrych ar Chwedl neu wirionedd?, sef sgwrs gyda Rob Phillips o’r Lyfrgell Genedlaethol yn archwilio hanes Merthyr Tudful trwy arteffactau hanesyddol, lluniau a deunydd archif, a bydd adloniant gan gôr cymunedol Merthyr Aloud.
Bonnie Tyler a pherfformiad theatrig yn Abertawe
Ddeuddydd yn ddiweddarach, bydd y darlledwr a'r cerddor Mal Pope yn ymuno â Roger Bell i archwilio sut helpodd Abertawe i siapio gyrfa'r seren fyd-enwog, Bonnie Tyler, gan ddefnyddio archif sgrin a sain i olrhain blynyddoedd cynnar ei gyrfa hynod.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiadau wedi'u hysbrydoli gan dreftadaeth ddiwydiannol a glofaol Abertawe, a grëwyd gan bobl ifanc ac oedolion lleol ar ôl iddyn nhw fynd ati i archwilio'r hanes drwy ddeunydd o Archif Ddarlledu Cymru a Llyfrgell Glowyr De Cymru.
Pêl-droed a'r drychineb lofaol yn Wrecsam
Pêl-droed a thrychineb glofa Gresffordd fydd yn cael y sylw yn Wrecsam ar 24 Medi.
Bydd sylwebydd CPD Wrecsam Mark Griffiths yn cynnal sgwrs gan ddefnyddio deunydd archif i edrych ar stori’r ddinas wrth galon hanes pêl-droed Cymru. Ac i gofio 92 mlynedd ers trychineb Gresffordd, caiff ffilm ddogfen The Terrible Price ei dangos, ynghyd â darlleniadau barddoniaeth lleol.
Maxine Hughes a hanes Conwy
Bydd y daith yn dod i ben yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy ar 25 Medi, lle bydd hanes lleol, creadigrwydd a thechnoleg ddigidol yn dod ynghyd i ddathlu treftadaeth y dref.
Bydd y newyddiadurwr Maxine Hughes yn ymuno â Dafydd Tudur, Pennaeth Ymgysylltu Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i archwilio rhai o'r bobl, lleoedd ac atgofion sy'n ymddangos yn y casgliad. Bydd tîm Casgliad y Werin yn arddangos dros 1,500 o eitemau'n gysylltiedig â Chonwy, i ddangos sut y gall gwybodaeth leol, casgliadau personol ac archifau cyhoeddus ddod ynghyd i adrodd stori cymuned.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiad gan Gôr Meibion Maelgwn a chyfraniadau gan bartneriaid creadigol, gan gynnwys TAPE Community Music and Film, a fydd yn dangos Below the Waves - ffilm animeiddio a ysbrydolwyd gan gasgliadau archif a straeon lleol.
Bydd pob un o ddigwyddiadau Dy Lyfrgell Di yn rhedeg rhwng 1pm a 7pm a byddant yn dod ag ysgolion, grwpiau cymunedol, partneriaid lleol a pherfformwyr ynghyd. Bydd gweithgareddau galw heibio, rhad ac am ddim, yn digwydd gydol y dydd, gan gynnwys cyfleoedd i archwilio Gwylio a Gwrando, Archif Darlledu Cymru, cwrdd â thîm Casgliad y Werin, chwilio Deiseb Heddwch Menywod Cymru a phrofi Ôl | Haunts. Bydd staff a phartneriaid y Llyfrgell Genedlaethol wrth law drwy gydol y dydd i sgwrsio ag ymwelwyr, ateb cwestiynau a helpu pobl i ddarganfod y casgliadau, yr adnoddau digidol a'r gwasanaethau sydd ar gael drwy'r Llyfrgell.
Mae'r daith yn rhan o ymrwymiad Strategaeth Ymgysylltu'r Llyfrgell i ymgysylltu â phob tref yng Nghymru. Mae hefyd yn rhan o raglen ehangach sy'n annog pobl i archwilio casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol trwy Gorneli Clip, Archif Ddarlledu Cymru ac adnoddau digidol y Llyfrgell, gan roi cyfleoedd i gymunedau ddarganfod, rhannu a dathlu eu hanes eu hunain yn lleol ac ar-lein.
Dyddiadau'r daith:
- Llyfrgell Merthyr Tudful – 21 Medi
- Llyfrgell Glowyr De Cymru, Abertawe – 23 Medi
- Llyfrgell Wrecsam – 24 Medi
- Canolfan Ddiwylliant Conwy – 25 Medi
Cynhelir pob digwyddiad rhwng 1pm a 7pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.
Categori: Newyddion
