Yr hydref hwn, rydym yn gyffroes i cyflwyno arddangosfa ryngwladol bwysig sy'n adrodd stori Cymru ar gyfnod tyngedfennol yn ei hanes. Trwy lawysgrifau eithriadol o'r unfed ganrif ar ddeg a thrysorau canoloesol o'i chasgliadau ei hun, bydd Normaniaid: Safbwynt y Cymry yn cynnig golwg newydd ar gyfnod sydd fel arfer yn cael ei adrodd drwy lygaid y concwerwyr.
Am y tro cyntaf ers bron i fil o flynyddoedd, bydd tair llawysgrif eithriadol a grëwyd yn scriptoriwm enwog Llanbadarn Fawr yn dychwelyd i gael eu harddangos ochr yn ochr â llawysgrifau a thrysorau canoloesol o'n casgliadau. Gyda'i gilydd, maent yn adrodd hanes canolfan ddysgeidiaeth o bwysigrwydd rhyngwladol a oedd yn cysylltu Cymru â rhwydweithiau deallusol Ewrop ganoloesol.
Mae'r arddangosfa yn rhan o bartneriaeth ryngwladol nodedig rhwng sefydliadau yng Nghymru, Iwerddon, Lloegr a Ffrainc, gan gyfrannu at raglen ehangach o weithgareddau Ewropeaidd sy'n nodi mileniwm geni Gwilym Goncwerwr yn 2027. O Lanbadarn i Ddulyn, o Gaergrawnt i Lundain ac ymlaen i Normandi, mae'r prosiect yn dangos fel y mae Cymru yn rhan o rwydwaith deallusol a diwylliannol a oedd yn ymestyn ar draws Ewrop ganoloesol.
Dyweddodd Rhodri Llwyd Morgn, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Dyma un o'r arddangosfeydd canoloesol mwyaf arwyddocaol a gyflwynwyd erioed gan y Llyfrgell. Mae'n dod â thrysorau rhyngwladol yn ôl i Gymru ac yn ein galluogi i adrodd hanes y Goncwest Normanaidd o safbwynt sydd wedi'i anwybyddu'n rhy aml. Mae'n gyfle i weld nad stori o orchfygiad yn unig yw hon, ond stori o wydnwch, creadigrwydd a dysg. Yn arwyddocaol mae'r llawysgrifau hyn, a grewyd mewn cyfnod o wrthdaro a newid gwleidyddol mawr, yn cael eu hailuno heddiw drwy gydweithio rhwng llyfrgelloedd a sefydliadau diwylliannol, gan ddangos grym partneriaeth wrth ddiogelu a rhannu ein treftadaeth gyffredin.”
Mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar waith Sulien, ei feibion a'r ysgolheigion a weithiodd yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth gan ddatgelu canolfan ddysgeidiaeth o bwysigrwydd rhyngwladol ar adeg o newid gwleidyddol a chymdeithasol sylweddol. Bydd ymwelwyr yn darganfod sut y parhaodd diwylliant, llenyddiaeth a dysg Cymru i ffynnu yn oes y Goncwest Normanaidd, a sut yr ymatebodd y Cymry i'r heriau a ddaeth yn sgil y cyfnod hwnnw.
Bydd yr arddangosfa'n cynnwys aduniad hanesyddol o:
- Sallwyr Rhigyfarch (Ricemarch Psalter), Coleg y Drindod, Dulyn.
- De Trinitate Awstin, Coleg Corpus Christi, Caergrawnt.
- Commentarii in Somnium Scipionis Macrobius, y Llyfrgell Brydeinig, Llundain.
Bydd y rhain yn cael eu harddangos ochr yn ochr , â Vitae Sanctorum Wallensium, sy'n cynnwys Buchedd Dewi gan Rhygyfarch ap Sulien, sydd hefyd yn dod o’r Llyfrgell Brydeinig ar gyfer yr arddangosfa. Yn ychwanegol at hyn fydd rhai o drysorau canoloesol pwysicaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael eu arddangos gan gynnwys Llyfr Talieisin.
Dywedodd Lucie Hobson, Curadur Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru -
“Mae ‘Llawysgrifau Llanbadarn’ yn cynnig cipolwg digynsail ar ddiwylliant llenyddol Cymru adeg y Goncwest Normanaidd. Mae’n fraint dod â’r llawysgrifau hyn ynghyd am y tro cyntaf ers bron i fil o flynyddoedd, a chael y cyfle prin i weld un o’r unig gasgliadau sydd wedi goroesi o weithiau o ‘glas’ Cymreig canoloesol. Ynghyd â thrysorau llenyddol eraill o’n casgliadau, maent yn adrodd hanes y Normaniaid trwy lygaid y Cymry”.
Wedi'i leoli ar arfordir Canolbarth Cymru, bydd yr arddangosfa yn Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i weld llawysgrifau sydd wedi'u gwasgaru ar draws gwledydd a chasgliadau ers canrifoedd. Am gyfnod byr, bydd y gweithiau hyn yn cael eu hailuno yn agos at y man y'u crëwyd gyntaf, gan daflu goleuni newydd ar gyfraniad Cymru i hanes deallusol Ewrop.
Bydd Normaniaid: Safbwynt y Cymry ymlaen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 21 Tachwedd 2026 a 20 Mawrth 2027.
Yn dilyn hyn, bydd ail bennod y stori, Arthur: O Gymru i'r Byd, yn agor yn Ebrill 2027, gan archwilio sut y teithiodd chwedl Arthur o'i gwreiddiau Cymreig i lenyddiaeth a diwylliant ar draws Ewrop gyfan. Wrth ddilyn ôl troed mynachod, awduron a phererinion, bydd yr arddangosfa'n dangos sut y trodd stori a anwyd yng Nghymru yn un o fythau mwyaf adnabyddus y byd
Categori: Newyddion
