Ar Fai 17 bydd ein symposiwm mapiau blynyddol Carto-Cymru yn cael ei gynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar-lein. Thema eleni yw ‘Mapiau a’u Crewyr’ a byddwn yn trafod cartograffwyr – y bobl sy’n gwneud y mapiau.
Mae yna lawer o straeon diddorol i'w hadrodd am grewyr mapiau, fel un sy'n ymwneud â chamgymeriad anffodus ag enw'r cartograffydd.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1803 cyhoeddodd y crëwr mapiau o Lundain, John Cary, arolwg newydd a manwl o sir Aberteifi ar raddfa o un fodfedd i bob milltir. Roedd hyn rhyw ddeng mlynedd ar hugain neu fwy cyn i’r Arolwg Ordnans gyhoeddi mapiau o’r sir ar yr un raddfa.
Mae'r map wedi'i weithredu'n wych ac yn cynnwys llawer mwy o fanylder nag unrhyw fapiau blaenorol o'r sir. Mae'r copi ffotostat du a gwyn hwn o'r map a wnaed ar ddiwedd y 1960au yn rhoi rhyw syniad o lefel y manylder a'r gofal a gymerwyd wrth ei greu.

Dyma'r unig enghraifft hysbys o'r map yn y cyflwr hwn, gyda'r ffotostat hwn wedi'i gymryd o gopi sydd mewn dwylo preifat.
Fodd bynnag, mae problem gyda’r map hwn. Yr enw John Singer sydd wedi’i nodi fel awdur y map, ond Joseph Singer oedd yr awdur mewn gwirionedd. Nid teipo syml oedd hyn, ond achos o gam-adnabod fwriadol, fel sydd i’w weld yn yr hysbyseb hon o The Cambrian o 27 Hydref 1804, lle mae ei enw eto yn anghywir.

Ar 1 Tachwedd 1803 cafodd ail argraffiad o’r map ei gyhoeddi gan Cary, gydag enw Singer wedi’i gywiro, fel sydd i’w weld yn y llun isod.

Mae'n ymddangos bod y dryswch ynghylch yr enw wedi parhau y tu hwnt i ailgyhoeddiad mis Tachwedd, fel sy’n cael ei ddangos gan yr hysbyseb.
Felly, pwy oedd Joseph Singer, a pham wnaeth o greu map o Sir Aberteifi?
Yn anffodus, ychydig iawn a wyddom amdano ar wahân i’r ffaith ei fod yn syrfëwr yng Ngorllewin Lloegr. Mae’n bosib iddo gael ei eni tua 1760 a'i fod yn byw yn Littletown, Dyfnaint. Ychydig iawn o fapiau eraill ganddo rydym yn gwybod amdanynt.
Ond rydym yn gwybodbod Singer wedi’i gyflogi fel syrfëwr gan John Cary, a gall hyn esbonio pam y mapiodd Singer Sir Aberteifi ar ei gyfer.
Os ydych chi am ddysgu mwy am gartograffwyr ddoe a heddiw, ymunwch â ni ar 17 Mai, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae tocynnau mewn person yn costio £25 a £15 ar-lein (£5 i fyfyrwyr).
Prynu tocynnau mewn person Carto Cymru
Prynu tocynnau arlein Carto Cymru
#CaruMapiau #CartoCymru2024
Categori: Erthygl