Gan fod mis Mawrth yn Fis Hanes Merched a Dydd Iau 8fed Mawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched mae’n gyfle i dynnu sylw at rai o archifau’r merched yng Nghymru sydd wedi serennu fel cyfansoddwyr, cerddorion a pherfformwyr.
Eleni byddwn yn dathlu canmlwyddiant geni’r gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards (1918 – 2012) yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda darlith gan Geraint Lewis ar “Dathlu Dilys: Brenhines Ein Cân” ar 11 Gorffennaf. Mae archif Dilys yn y Llyfrgell ac rydym wedi cyhoeddi rhai o’i chyfansoddiadau enwocaf yn ddigidol ar wefan T? Cerdd ‘Darganfod Cerddoriaeth Cymru’. Ar y wefan honno hefyd ceir gweithiau gan Morfydd Owen (1891-1918) a byddwn yn nodi canmlwyddiant marwolaeth annhymig Morfydd Llwyn Owen yn nes ymlaen eleni mewn cydweithrediad a Gŵyl Gregynog.
Hefyd yn y Llyfrgell Genedlaethol mae archif Grace Wiliams (1906-77) un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif i ennill bri cenedlaethol arwyddocaol. Roedd yn un o ddisgyblion Vaughan Williams ac yn gyfaill i Benjamin Britten, ac mae ei harchif yn cynnwys casgliad helaeth o’i chyfansoddiadau. Ymhlith y cyfansoddwyr mwyaf diweddar rydym yn casglu yn y maes clasurol mae Hilary Tann sydd o Gymru ond bellach yn byw yn America.
Yn y byd gwerin mae nifer o ferched wedi gwneud eu marc, gan gynnwys Phyllis Kinney sydd yn awdurdod pennaf ar ein cerddoriaeth gwerin. Un o’r cyfeiriadau cynnar yw gan Walter Davies at ‘Enwau Ceingciau adnabyddus i Gwen verch Wiliam, Cantores o Drev Rhiwaedog, o gylch 1550′. Maria Jane Williams (c.1795 – 1873) a gyhoeddodd ‘The Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’ yn 1844. Y fezzo-soprano Mary Davies (1855-1930) oedd cyd-sylfaenydd a Llywydd cyntaf Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Roedd gwragedd yn weithgar yn Gymdeithas, a cheir yn archif J Lloyd Williams nifer o lawysgrifau a gasglwyd gan Mary Richards Darowen, Jane Catherine Lloyd, Ruth Lewis a Jennie Williams. Roedd Ruth Herbert Lewis yn arloeswraig – y person cyntaf i gasglu’r caneuon gyda pheiriant ffonograff Edison yng Nghymru, ac roedd Dora Herbert Jones a Grace Gwyneddon Davies hefyd yn weithgar gyda’r Gymdeithas. Yn ddiweddarach yr oedd Eunice Bryn Williams (m. 1991) yn gysylltiedig â gwaith Cymdeithas Alawon Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac eisteddfodau lleol a chenedlaethol, a threfnwyd a chyhoeddwyd llawer o alawon gan E. Olwen. Jones.
O ran perfformwyr mae gennym archifau Leila Meganne y gantores opera, llythyrau gan Adelina Patti, llyfrau sgrap y gantores Clara Novello Davies, papurau’r gantores Ceinwen Rowlands ac yn fwyaf diweddar ran gyntaf archif y delynores Llio Rhydderch.
Dyma flas o’r archifau sydd yn y Llyfrgell . Cysylltwch â ni os gwyddoch am archif un o Ferched Cerddorol Cymru – rydym yn parhau i lenwi bylchau yn ein casgliadau.
- Dilys Elwyn Edwards
- Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney (yn cael eu catalogio ar hyn o bryd)
- Hilda Morgan (1926-1994) Music Manuscripts
- Morfydd Owen – bywgraffiad, a gohebiaeth gyda Eliot Crawshay Williams
- Kitty Idwal Jones (cyfaill Morfydd Llwyn Owen)
- Llawysgrifau cerddorol y gyfansoddwraig Grace Williams, (dros 47 bocs)
- Hilary Tann (born 1947)
- Papurau’r Fonesig Amy Parry-Williams yn cynnwys caneuon gwerin a cherdd dant
- Dyddiaduron Maria Jane Williams Aberpergwm
- Mary (neu Mair) Richards Darowen yn archif J Lloyd Williams (AH1/8, 28-29, 31, 33-36, 54.)
- Mary Richards yn archif Cwrtmawr MSS 265-289
- Archif J Lloyd Williams yn cynnwys Miss Jane Catherine Lloyd (AH1/45), Ruth Lewis (AH2/1, Al1/9 etc) Jennie Williams Aberystwyth (AH2/11) , Dora Herbert Jones (AL1/7) Grace Gwyneddon Davies (AL1/2, AH5/3, AH3/4, AH3/14), Mary Davies (AH3/1), ac ‘Eos Cymru’ (MT4/5).
- Dora Herbert Jones (gohebiaeth mewn nifer o gasgliadau ee gweler papurau J. Glyn Davies Papers
- Papurau Eunice Bryn Williams (1919-1991)
- Ruth Herbert Lewis
- Leila Meganne
- Madame Adelina Patti (1843-1919).
- Eiluned Davies, cyfansoddwraig a chyfeilyddes (1913-99)
- Llio Rhydderch
- Nansi Richards Telynores Maldwyn
- Cassie Simon
- Ceinwen Rowlands
- Sarah Edith Wynne (Eos Cymru, 1842-97)
- Megan Watts Hughes
- Clara Novello Davies (1861-1943) . Atgofion
- Clara Novello Davies and the Royal Welsh Ladies’ Choir,
- Hilda Davies
- Mary Davies cantores
- ‘Enwau Ceingciau adnabyddus i Gwen verch Wiliam, Cantores o Drev Rhiwaedog, o gylch 1550’, NLW MS 1947F
Nia Mai Daniel
Rheolwr Rhaglen Yr Archif Gerddorol Gymreig
Categori: Erthygl