Tra bo arddangosfa o waith yr arlunydd a’r wneuthurwraig printiau leol Mary Lloyd Jones yn denu ymwelwyr i Oriel Gregynog Llyfrgell Genedlaethol Cymru o fis Gorffennaf eleni hyd Ebrill 2027, hoffwn dynnu sylw at gasgliad bychan o ddeunydd amrywiol sy’n dathlu bywyd a gwaith y gantores, cyfansoddwraig a cherddor Sianed Elin Jones, merch Mary Lloyd Jones.
Mae ‘dathlu’ yn air gwbl briodol oherwydd yr hyn a geir ym mhapurau Sianed Elin Jones o fewn llai na hanner dwsin o focsys llwyd ydi uchafbwyntiau dethol o gynnyrch creadigrwydd, egni a brwdfrydedd y ddynes aml-dalentog hon dros gyfnod o ryw ddeugain mlynedd hyd at ei marwolaeth annhymig yn Ionawr 2022 yn 62 mlwydd oed.
Prif gynnwys y casgliad yw deunydd yn ymwneud â phrosiectau, digwyddiadau a gweithdai cerddorol ac aml-gyfrwng y bu Sianed yn rhan ohonynt ar hyd y blynyddoedd. Bu’n aelod o’r grwpiau cerddorol Garam Masala, Dancing with the Dog a Joglaresa a grwpiau theatrig megis Blood Group, Marginal Voices a Brith Gof. Yn ogystal, bu’n gweithio ar y cyd gydag amrywiol artistiaid megis y ddawnswraig a’r coreograffydd Henrietta Hale, y storïwyr Christine Watkins a Ben Haggarty, yr artistiaid aml-gyfrwng Philip Jeck, Cris Cheek a Jacob Whittaker, yr artist weledol Maria Hayes a’r gantores a’r cerddor Ailsa Mair Hughes, heb anghofio’r cywaith creadigol a ddyfeisiodd gyda’i mam, Mary Lloyd Jones, sy’n cynnwys prosiect clyweledol o’r enw ‘Lliwio’r Gair’ / ‘The Colour of Saying’ (2002).
Yr unig ffordd i ffarwelio ag un o anian Sianed oedd yn yr un modd ag y bu’n byw ei bywyd – yn sŵn cerddoriaeth, dawns a hwyl ymysg ei theulu, cyfeillion a chyd-berfformwyr. Cynhaliwyd dathliad o’i bywyd ar y 13eg o Awst 2022 yn Theatr Byd Bach, Aberteifi; cyn hynny, ym mis Mehefin o’r un flwyddyn, daeth nifer o’r criw cyfeillion hynny ynghyd ar draeth Llangrannog i ddanfon llwch Sianed i’r môr ym Mae Aberteifi.
Tra chymrodd llanw’r Iwerydd weddillion corfforol Sianed i’w fynwes ar ddiwrnod o haf yn 2022, mae ei hysbryd yn parhau i fflachio ‘megis seren wîb’ o blith y casgliad hwn.
