Symud i'r prif gynnwys

Ysgrifennwyd gan Ellie King

29 Mehefin 2026

Dathlodd Carto-Cymru ei ben-blwydd yn 10 oed mewn steil ddydd Gwener 15 Mai. Mynychodd dros 200 wyneb yn wyneb ac ar-lein gan ymuno â ni am ddiwrnod llawn o sgyrsiau ar fapio amgylcheddol. Unwaith eto, gwnaethom drefnu’r diwrnod mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), ac eleni roeddem yn falch iawn o gael ein noddi gan yr ymgynghoriaeth amgylcheddol leol o Aberystwyth, Environment Systems.

Evie Brown, gwyddonydd data gyda Llywodraeth Cymru agorodd y diwrnod gyda sgwrs ddiddorol ar adnabod coetiroedd hanesyddol a ddangosir ar rifyn cyntaf map 25 modfedd yr Arolwg Ordnans (OS) gan ddefnyddio gweledigaeth gyfrifiadurol (math o ddeallusrwydd artiffisial).  

Comisiynwyd y prosiect gan Cadw i helpu i adnabod ardaloedd o Goetir Hynafol a choedwigoedd coll. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i ddiogelu coedwigoedd presennol, llywio ymdrechion ailblannu, a chefnogi'r gwaith o gyflwyno Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae modd holi'r data hanesyddol mewn ffyrdd newydd hefyd. Mae'r allbwn ar gael ar MapDataCymru, y storfa ganolog ar gyfer mapio sector cyhoeddus Cymru.

Hyfforddwyd y model gweledigaeth gyfrifiadurol ar samplau o ddata Landmark (sy'n deillio o sganiau o fapiau OS o'r 19eg ganrif a wnaed yn y 1990au). Yna rhoddwyd cyfle i’r model weithio ar set ddata llawn argraffiad cyntaf Landmark OS 25" ar gyfer Cymru.  

Gallwch ddarllen mwy am ochr dechnegol y prosiect hwn yma: https://wgdsu.github.io/Woodland-AI-1/     

Roedd y model yn gallu gwahaniaethu rhwng y gwahanol symbolau ar gyfer coetir a ddefnyddiwyd ar y mapiau OS (llydanddail, conwydd, perllan ac ati), er ei fod yn cael trafferth gyda symbolau wedi'u hargraffu'n wael a chroestoriadau â data map arall fel labeli a llinellau ffin. Pwysleisiodd Evie fod y data yn cynrychioli amcangyfrif o hyd a lled coetir fel y dangosir ar y map OS ac na ddylid ei ddefnyddio ar wahân, ond yn hytrach fel cam cyntaf. Un o sgil-gynhyrchion calonogol y prosiect hwn oedd adnabod sawl coetir a oedd wedi tyfu yn hytrach na chrebachu! 

Dilynwyd Evie gan Freya Canham a Bethan Evans o CBHC gyda golwg ar geogyfeirio mapiau clostiroedd Cymru. Mae CBHC wedi bod yn ymweld ag archifau ledled Cymru i ddod o hyd i fapiau o glostiroedd hanesyddol fel rhan o brosiect 9 mis i wella mynediad at y ffynhonnell gyfoethog hon o wybodaeth hanesyddol drwy brosiect digido a geogyfeirio cynhwysfawr. Daethpwyd â'r rhan fwyaf o'r mapiau hyn i LlGC yn Aberystwyth i'w digido, a’u cyfuno â'r casgliad sylweddol o fapiau clostiroedd sydd eisoes yng nghasgliad y Llyfrgell. Yna bu staff CBHC yn geogyfeirio’r delweddau yn ArcGIS fel y gall defnyddwyr droshaenu'r mapiau hanesyddol ar fap sylfaen modern.

Mae'r mapiau hyn yn cwmpasu cyfnod cae tiroedd trwy ddeddfau seneddol rhwng y 18fed ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Daeth tir a oedd gynt yn dir comin o dan reolaeth perchnogion preifat. Roedd hyn yn dileu mynediad cyffredin i'r tir, gan gynnwys cyfyngu ar hawliau arferol fel pori a lloffa a oedd wedi bod yn rhan o fywyd gwledig ers canrifoedd. Yn hytrach, roedd cau’r tir yn golygu cydgrynhoi perchnogaeth tir, fel arfer er budd y tirfeddianwyr a'r bonedd a oedd eisoes yn gyfoethog. Roedd angen Deddf Seneddol i sicrhau bod y trefniadau cau’r tir yn gyfreithlon. Fel arfer, byddai map a dogfen fanwl yn rhestru'r ffiniau swyddogol a'r perchnogion yn cyd-fynd â'r deddfau cau hyn. Mae’r mapiau hyn yn rhoi cipolwg manwl o'r amser y cawsant eu cynhyrchu. Maen nhw hefyd yn agor ffenestr i'r amgylchedd a'r dirwedd cyn cau’r tir trwy alluogi ymchwilwyr i wahanu ffiniau a grëwyd i amgáu tir o'r rhai a oedd yn bodoli cyn hynny, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r cyfnod canoloesol a thu hwnt.

Gall mapiau clostiroedd fod yn fawr, yn anodd eu trin ac yn fregus. Maen nhw hefyd yn aml wedi’u gwahanu o'u cyd-destun daearyddol gan mai dim ond caeau perthnasol i'r ddeddf a gafodd eu mapio. Mae geogyfeirio’r mapiau hyn yn gam sylweddol ymlaen i wneud y mapiau yn ddarllenadwy ac yn hygyrch i ymchwilwyr.  

Mae'r prosiect hwn wedi adeiladu ar lwyddiant adnodd Mapio Dwfn Archifau Ystadau, sy'n dwyn ynghyd 400 mlynedd o fapio hanesyddol yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych ar un map gwe ac sy’n gam tuag at greu atlas hanesyddol digidol ar gyfer Cymru gyfan. Bydd set ddata mapiau clostiroedd ar gael ar Cymru Hanesyddol yn ystod y misoedd nesaf.  

Roedd sesiwn ola’r bore yng ngofal curadur mapiau LlGC, Huw Thomas. Aeth Huw â ni ar daith o amgylch y mapio amgylcheddol sydd yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, gan ddechrau ar y gwaelod gyda daeareg y creigwely a gweithio i fyny trwy ddŵr daear, pridd, defnydd tir a chynefinoedd ac yn olaf fri i’r awyr gyda mapiau tywydd. Cynhyrchwyd y rhain yn ddyddiol, felly roeddem yn gallu gweld y tywydd yng ngogledd yr Iwerydd 'ar y diwrnod hwn' (15 Mai) yn 1972 – gwynt ar 10 not a chymylog ar gyfer Bae Ceredigion.

Gorffennodd Huw ei sgwrs gyda chynllun Arbennig Aberfan. Mae 2026 yn nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan: ar 21 Hydref 1966, llithrodd tomen lo uwchben pentref Aberfan, gan anfon slyri i lawr y bryn gan gladdu tai ac Ysgol Gynradd Pantglas. Bu farw 116 o blant a 28 o oedolion. Gwnaed y cynllun arbennig o arolwg awyr a gymerwyd ar 26 Hydref, dim ond pum diwrnod ar ôl y drychineb, fel rhan o'r ymchwiliad dilynol. Roedd y domen wedi'i lleoli ar ben nant a gyfrannodd at y llithriad. Roedd y nant i’w gweld ar fapiau OS a oedd ar gael cyn i’r domen gael ei chreu. Bu hyn yn help i’r tribiwnlys ddod i’r casgliad y gellid fod wedi osgoi'r drychineb - dyma enghraifft o anwybyddu mapio amgylcheddol yn arwain at effaith drychinebus. I goffáu'r digwyddiad, comisiynodd LlGC y bardd Grug Muse i ysgrifennu ymateb i fapiau Aberfan. Daeth sgwrs Huw i ben trwy chwarae recordiad o'r bardd yn darllen ei gwaith yn Gymraeg a Saesneg dros arddangosfa o'r mapiau.

Cyflwynodd Bruce Mitchell o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) y sgwrs gyntaf yn y prynhawn, gan edrych ar Ail Arolwg Defnydd Tir 1961. Dechreuodd y gwaith ar leoli a digideiddio'r arolwg hwn yn y lle cyntaf fel rhan o Brosiect Digideiddio Cyfrifiadau Hanesyddol y SYG i lenwi bwlch data, ond profodd i fod yn daith ddarganfod ddiddorol.  

Roedd arolwg defnydd tir eisoes wedi'i gynnal gan Dudley Stamp yn y 1930au, ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth i drosi tir ychwanegol ar gyfer tyfu bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gallwch weld yr holl ddalennau, wedi'u digido a'u geogyfeirio ar wyliwr mapiau Llyfrgell Genedlaethol yr Alban. Cyhoeddwyd mapiau Stamp ar raddfa o 1:63,360 (un fodfedd i'r filltir). Roedd hyn yn golygu bod cwmpasu eang yn bosibl, ond ni allai arddangos y manylion lleiaf. 

Ysbrydolwyd y daearyddwr Alice Coleman gan arolwg Stamp, ond dechreuodd hi brosiect llawer mwy uchelgeisiol yn y 1960au. Cofnodwyd data ar daflenni maes ar raddfa 1:10,560 (chwe modfedd i'r filltir) a'i gyhoeddi ar 1:25,000. Roedd arolwg Coleman yn cynnwys mwy na 70 o ddosbarthiadau o ddefnydd tir ar bob map, o'i gymharu â'r saith categori a ddefnyddiwyd gan Stamp. Roedd y raddfa fwy yn caniatáu mwy o fanylion ond roedd yn llawer drytach. O ganlyniad, dim ond 119 o ddalennau a gyhoeddwyd, o'r mwy na 840 a gynlluniwyd.  

Fodd bynnag, ni chollwyd y data. Pan ymddeolodd Coleman o'i swydd fel athro yng Ngholeg y Brenin Llundain, aeth â 10 tunnell o ddeunydd adref, a oedd wedi bod yn llenwi 13 ystafell yn Ngholeg y Brenin. Prynodd y tŷ drws nesaf i'w chartref yn Dulwich i storio'r cyfan a'i agor fel canolfan astudio. Roedd y deunydd hwn yn cynnwys set lawn o daflenni arolwg maes defnydd tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Bu farw Coleman yn 2023, ond llwyddodd Bruce i gael caniatâd gan ei theulu i weld ei harchif (wedi'i storio yn y garej) a threfnodd i achub y deunydd gyda chymorth SYG, Defra, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (NLS), a theulu Coleman. Mae'r mapiau maes a'r taflenni cyhoeddedig o arolwg Coleman bellach i'w gweld ar wefan NLS.

Roedd y 7000 o ddalennau map a adferwyd gan Bruce o Dulwich wedi'u lliwio â llaw ac wedi’u cynhyrchu gan dros 3000 o syrfewyr gwirfoddol, gan gynnwys plant ysgol, ac maent yn ffynhonnell gyfoethog o ddata defnydd tir a data amaethyddol. Ailymwelwyd â rhai ardaloedd sawl gwaith, sy'n caniatáu i ymchwilwyr olrhain gwahanol gyfnodau o systemau cylchdroi cnydau, yn ogystal â dangos twf trefol rhwng rhifynnau OS cyhoeddedig.  

Codwyd cwestiynau ar y pryd am gywirdeb y data, o ystyried bod llawer ohono yn deillio o blant ysgol (o dan oruchwyliaeth eu hathrawon a nifer fach o weithwyr proffesiynol). Roedd arolwg Dudley Stamp hefyd wedi defnyddio plant. Roedd yn ystyried plant ysgol gynradd fel y syrfewyr gorau posibl gan eu bod yn gyfarwydd iawn â'u tirwedd leol, tra bod plant a myfyrwyr hŷn yn llai a llai defnyddiol! Pan holwyd Coleman ar ei data gan OS (yn seiliedig ar gyfanswm arwynebedd y pyllau), profodd ei chanlyniadau yn fwy cywir, gan fod yr OS wedi diystyru pyllau o dan faint penodol.

Mae'r mapiau defnydd tir a ddangoswyd yn sgwrs Huw yn ddalennau o'r arolwg hwn. Roedd Alice Coleman yn gweithio gyda James A Taylor ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynnar yn y prosiect, ond ymddengys bod eu perthynas waith wedi dirywio'n gyflym. O ganlyniad fe gadwodd Prifysgol Aberystwyth set ar wahân o fapiau maes – dyma'r mapiau sydd bellach yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. map printiedig gydag elfennau wedi'u hychwanegu mewn pensil lliw

Cafwyd sgwrs gan yr uwch ymgynghorydd amgylcheddol Dr Gemma Bell o Systemau'r Amgylchedd i gloi’r diwrnod. Gwnaeth Gemma waith gwych o ddisgrifio pwysigrwydd data amgylcheddol hanesyddol wrth frwydro yn erbyn syndrom newid llinell sylfaen. Cymru yw un o'r cenhedloedd mwyaf disbyddedig o ran natur ar y blaned – mae 18% o'n rhywogaethau mewn perygl o ddifodiant, ac mae amlder rhywogaethau tir a dŵr croyw wedi gostwng 20% ers 1994 – ond os nad oes neb yn cofio'r amlder a oedd unwaith yma, mae'n anodd dychmygu hyd a lled y dirywiad. Mae data hanesyddol yn gallu gweithio yn erbyn hyn, os yw'n hygyrch. Mae Environment Systems wedi gweithio ar sawl prosiect sy'n anelu at echdynnu data o gofnodion hanesyddol a'u hail-ffurfweddu i weithio o fewn systemau rheoli amgylcheddol modern.

Roedd prosiect diweddar Environment Systems ar gyfer Natural England yn edrych ar raean bras arfordirol â llystyfiant: cynefin unigryw a bregus, sy’n brin yn fyd-eang ac sydd wedi addasu i oroesi mewn amodau garw. Lluniwyd rhestr yn y 1980au a'r 1990au, gan gynnwys mapiau helaeth, ond yn eu fformat cyhoeddedig ar ffurf papur, roeddent yn anhygyrch i'r mwyafrif o bobl ac yn hynod anodd i'w dehongli. Aeth Environment Systems ati i sganio a geogyfeirio’r mapiau (tipyn o gamp mewn tirwedd mor gyfnewidiol â graean bras arfordirol, ac un sy’n ymddangos heb fawr o nodweddion!), gan ddigido ffiniau'r cynefin a'u cysylltu â system dosbarthu cynefinoedd cyffredinol. Roedd y gwaith hwn yn gwneud y data yn gydnaws â systemau modern ac yn caniatáu iddo gael ei ymgorffori yn llifoedd gwaith GIS Natural England. 

Mae'r prosiect hwn, a phwysigrwydd cadw data mewn fformatau hygyrch, yn cymharu’n â’r hyn y soniodd Bruce amdano yn ei sgwrs. Trafododd gynhyrchu'r Wildscape Atlas, a ddechreuodd fel prosiect yn sgil arolwg defnydd tir Alice Coleman. Disgrifiodd Coleman Wildscape fel "mynydd a gweundir, rhostir ac arfordir, cors a ffen, yr holl ardaloedd sy'n dod i'r meddwl yn ddigymell pan fyddwn yn sôn am gadwraeth natur". Ni chyhoeddwyd yr atlas ei hun erioed. Roedd yn agosáu at ei gwblhau pan ddigwyddodd anghydfod argraffwyr Wapping ym 1986. Penderfynodd y cyhoeddwr Rupert Murdoch symud o argraffu Linotype metel poeth ar Fleet Street i gysodi cyfrifiadurol mewn ffatri newydd yn Wapping heb fawr o rybudd i staff. Roedd yr undebau ar ddeall y byddai ffatri Wapping yn argraffu papur newydd sbon. Cyhoeddwyd 6,000 o hysbysiadau diswyddo cyn gynted ag y galwyd streic, gan ddileu swydd pob gweithiwr a oedd yn streicio ac felly osgoi unrhyw daliadau diswyddo. Bu’r argraffwyr ar streic am fwy na blwyddyn - yn hirach na'r glowyr - ond roedd y cyfan yn ofer.  

Yn ogystal â rhoi crasfa i’r mudiad undeb, roedd y newid i gyfrifiaduron yn golygu diwedd Atlas Wildscape, gan fod ail-fformatio'r deunydd ar gyfer y system newydd yn rhy ddrud o lawer. Mae peth o'r data ar gael ar data.gov.uk ac efallai y cawn weld fersiynau digidol yn y dyfodol, fwy na 40 mlynedd ar ôl i'r gwreiddiol fynd i’r wal yn sgil newidiadau mewn technoleg a checru diwydiannol.

Gan edrych eto i'r dyfodol, mae Environment Systems wedi bod yn cynorthwyo Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gyrraedd nod '30x30' Llywodraeth Cymru yn y parc cenedlaethol – rheoli 30% o'r tir ar gyfer natur erbyn 2030. Mae eu gwaith mapio cynefinoedd ac ardaloedd gwarchodedig wedi galluogi'r parc i greu set o feini prawf i farnu safleoedd a'u cyfraniad i'r prosiect 30x30 ac olrhain cynnydd pob safle tuag at y nodau hyn. Mae Environment Systems wedi creu cyfres o fapiau sy'n nodi cyfleoedd ar gyfer ehangu ystod eang o gynefinoedd, o goetir derw i rostiroedd a glaswelltir sy'n caniatáu i'r parc ddod o hyd i fuddugoliaethau hawdd yn ogystal â chreu cynlluniau tymor hwy.

Roedd teitl sgwrs Gemma yn briodol iawn, a gallai ddisgrifio'r diwrnod ei hun: Edrych nôl, edrych ymlaen. Dangosodd ein holl siaradwyr natur bwerus mapio amgylcheddol hygyrch ar gyfer deall y gorffennol a thorri cwys ar gyfer y dyfodol. Roedd y sesiynau Holi ac Ateb bywiog ar ôl pob sgwrs yn dangos bywiogrwydd eu syniadau a'u perthnasedd i fywydau pobl.

 

Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau 

---

Carto-Cymru yw symposiwm mapiau blynyddol Cymru, a gynhelir mewn partneriaeth gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Noddwyd Carto-Cymru 2026 gan Environment Systems

Categori: Erthygl