Symud i'r prif gynnwys
Mannau, Lleoedd a Pherthyn: yr Hwb Cymunedol, delwedd hyrwyddo

12 Mawrth 2026

Mae Mannau, Lleoedd a Pherthyn: yr Hwb Cymunedol yn rhaglen sy’n cefnogi ymchwil cynhwysol o dan arweiniad y gymuned yn orielau, llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd (OLlAA) a’r sector treftadaeth ledled y Deyrnas Unedig. Arweinir y rhaglen gan The National Archives mewn partneriaeth â Leeds Museums & Galleries, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Community Archives & Heritage Group, gyda nawdd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). 

Mae’r Hwb Cymunedol yn darparu dros £550,000 a fydd yn cael ei rannu drwy dri chynllun grant – Grantiau Sbarduno, Bwrsarïau Sgiliau, a Grantiau Prosiectau - ynghyd â rhaglen hyfforddiant, datblygu sgiliau digidol, ac adeiladu rhwydweithiau. Bydd yr Hwb hefyd yn creu llwyfan digidol parhaol i rannu adnoddau, dysgu, ac arfer gorau, gan sicrhau bod ymgysylltiad cymunedol yn dod yn rhan barhaol o’n hanes diwylliannol.

Y nod yw grymuso cymunedau, yn enwedig y rhai sydd wedi’u tangynrychioli ym maes treftadaeth, a chodi hyder ar draws y sector a bydd yr Hwb yn adnodd cydweithredol, hyblyg a chynaliadwy i annog arloesedd a chynhwysiant. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan The National Archives.

Categori: Newyddion