Symud i'r prif gynnwys
Darlun o’r ‘Bucaniers of America’ gan Alexandre Exquemelin, sy’n dangos llong o Armada Sbaen yn cael ei ddistrywio

10 Chwefror 2025

Roedd Bartholomew Roberts neu Barti Ddu yn un o'r môr-ladron mwyaf enwog yn chwarter cyntaf y 18fed ganrif.  Ganwyd ef yn Sir Benfro tua 1682, ac yn 1718 yr oedd yn ail fêt ar y Princess, llong a gymerwyd trwy rym gan Hywel Davies, môr-leidr arall o Gymro; gorfu i Roberts wasnaethu o dan yr hwn a'i cymerodd yn garcharor.  Pan laddwyd Davis etholwyd Roberts yn gapten y llong.  Ar ôl gyrfa dreisgar a llwyddiannus fe'i laddwyd ar y 10fed o Chwefror 1722 mewn brwydr yn erbyn llong o'r Llynges Brenhinol, a thaflwyd ei gorff i'r môr, a holl wisgoedd gwych y môr-leidr amdano, yn ôl ei ddymuniad.

Mae'r Llyfrgell newydd brynu adroddiad cyfoes o farwolaeth Roberts.  Cyhoeddwyd y cyfnodolyn The Political State of Great Britain ddwywaith y flwyddyn o 1711 i 1740 ac roedd yn cynnwys newyddion milwrol yn ogystal â rhai gwleidyddol.  Yng nghyfrol 23 ar gyfer Mehefin 1722 ceir disgrifiad o'r frwydr rhwng llong Barti Ddu a'r llong The Swallow oedd o dan reolaeth Capten Ogle, lle cafodd y môr-leidr enwog ei ladd.  Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys un o'r disgrifiadau cyntaf o faner y Jolly Roger.
 

Mae'r cylchgrawn prin hwn yn ychwanegiad at ddaliadau'r Llyfrgell o gyhoeddiadau cynnar am fôr-ladron Cymreig.  Yn y blynyddoedd diwethaf rydym hefyd wedi prynu argraffiadau 1684 ac 1704 o Bucaniers of America gan Alexandre Exquemelin, sydd yn cynnwys hanes bywyd Henry Morgan (1635?-1688).  Mae'r Cymry hyn wedi bod yn ysbrydoliaeth i weithiau ffuglen megis Treasure Island gan Robert Louis Stevenson a'r gyfres o ffilmiau Pirates of the Caribbean.


Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin

 

Categori: Erthygl