Symud i'r prif gynnwys
Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n Ymuno gyda Rhwydwaith Llyfrgelloedd Ewropeaidd

15 Mehefin 2026

Heddiw yn dilyn pleidlais unfrydol, cyhoeddwyd bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cael ei dderbyn fel aelod o The Conference of European National Librarians (CENL).

Dyma'r tro cyntaf i'r Llyfrgell ddod yn aelod o'r rhwydwaith nodedig hwn.

Bydd yr aelodaeth yn darparu llwyfan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gydweithio’n agos gyda llyfrgelloedd cenedlaethol eraill, gan helpu i lunio’r ffordd y caiff casgliadau Ewrop eu cadw a’u gwneud yn hygyrch.  Bydd hefyd yn chwarae rhan annatod o gyflawni strategaeth 2025–2030 y Llyfrgell o gysylltu Cymru a’r Byd.

Yn ôl Prif Weithredwr y Llyfrgell, Rhodri Llwyd Morgan:

“Rwy'n falch iawn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei derbyn yn aelod o'r rhwydwaith rhyngwladol nodedig yma. Mae'r Llyfrgell yn ymfalchïo yn y gwaith mae'n ei wneud drwy fod yn rhan o rwydweithiau a mentrau rhyngwladol.  Bydd CENL yn cryfhau proffil Cymru yn y meysydd diwylliannol, treftadaeth, data ac arloesedd.  Thema bwysig yn y cyfarfod eleni yn Luxembourg oedd hybu cydweithio yn y meysydd seibr-ddiogelwch a gwarchod asedau digidol arwyddocaol ac unigryw er mwyn iddynt fod ar gael i bobl Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Mae CENL yn rhwydwaith o lyfrgelloedd cenedlaethol o bob rhan o Ewrop, sydd yn cydweithio i warchod a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol a deallusol y cyfandir, tra’n cefnogi cydweithio, cyfnewid gwybodaeth a datblygiad proffesiynol.

Categori: Newyddion