Heddiw rydym yn cyhoeddi profiad newydd ac arwyddocaol i ddathlu bywyd a gwaith yr arlunydd Cymreig poblogaidd, Kyffin Williams. Bydd Profiad Kyffin Experience, yn rhad ac am ddim i ymwelwyr o'r Hydref, yn coffáu 20 mlynedd ers i arlunydd mwyaf poblogaidd Cymru adael rhan helaeth o’i ystâd i’r Llyfrgell yn Aberystwyth fel rhodd i’r genedl, gan gynnwys dros 1,200 o weithiau ar bapur, 200 o baentiadau olew a thros 300 o brintiau gwreiddiol.
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
"Mae cyfraniad Kyffin Williams i gelf a diwylliant Cymru yn anfesuradwy. Mae'n wych gweld ei waith yn dod yn fyw mewn ffordd mor arloesol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a dwi’n sicr y bydd yn apelio at gynulleidfaoedd newydd a phresennol. Mae'r profiad gyffrous hon yn cynnig persbectif newydd ar ei waith tra'n ysbrydoli cenedlaethau newydd i ddarganfod a gwerthfawrogi un o artistiaid enwocaf Cymru."
Bydd y profiad arloesol a newydd sbon hwn yn rhan annatod o ymrwymiad y Llyfrgell i ddiogelu, rannu a hwyluso mynediad cynhwysol i’w chasgliad rhyfeddol. Mae’r Llyfrgell yn gartref i’r casgliad mwyaf yn y byd o waith Kyffin Williams, a bydd y profiad, wedi’i leoli yn y Llyfrgell, mewn ystafelloedd wedi’u trawsnewid yn arbennig. Dyma gyfle i ymwelwyr gamu i mewn i gasgliad arbennig o ddarluniau, a phrofi y tirweddau a’r anifeiliaid wrth iddynt ddod yn fyw.
Yn ôl Prif Weithredwr y Llyfrgell, Rhodri Llwyd Morgan:
“Mae ein perthynas â Kyffin Williams yn ymestyn dros fwy na 70 mlynedd, yn gyntaf oll ym 1949 pan brynwyd ei waith am y tro cyntaf tan y gymynrodd ryfeddol a adawodd i ni yn 2006. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn awyddus i’w gyflwyno ef i genhedlaeth newydd mewn ffordd na fyddai ei hun bron wedi gallu ei ddychmygu, a hynny yn y sefydliad lle ymddiriedodd ei etifeddiaeth.
“Dyma’n union y math o brofiad y mae’r Llyfrgell wedi ymrwymo i’w ddarparu: un sy’n gynhwysol, yn gydweithredol ac yn ddigidol arloesol. Rydym yn disgwyl cryn ddiddordeb, ac anogwn ymwelwyr i fynd i wefan y Llyfrgell i archebu lle cyn eu hymweliad.”
Mae Kyffin Williams yn parhau i fod yn un o arlunwyr mwyaf annwyl Cymru. Mae ei dirluniau wedi dod i ddiffinio ymdeimlad cenedlaethol o le, tra bod ei bortreadau a’i astudiaethau o anifeiliaid - gan gynnwys y ci defaid a welid yn y ffermydd mynydd a baentiodd - yn cynnig ffordd gynhesach a mwy chwareus i ymwelwyr iau a theuluoedd ymwneud â’i waith.
Wrth sôn am y broses o ddigideiddio gwaith Kyffin Williams, meddai Dennis Outten o Focal Studios:
“Mae pob strôc brwsh ym mhaentiadau Kyffin wedi’i mapio a’i hail-greu gyda manylder rhyfeddol, fel y gallwn daflunio ei dirluniau heb golli dim o’r wead hwnnw. Mae wedi bod yn fraint wirioneddol i weithio mor agos gyda’i waith.”
Ganwyd Kyffin Williams yn Llangefni, Ynys Môn, ym 1918. Astudiodd yn Ysgol Gelf y Slade cyn dychwelyd i Gymru, lle dreuliodd weddill ei yrfa yn arlunydd tirweddau a phortreadau; daeth yn Aelod o'r Academi Frenhinol (Royal Academician) a chafodd ei urddo'n farchog ym 1999. Fe'i hystyrir fel arlunydd Cymreig mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif.
Mae'r profiad hwn yn bosibl diolch i gyllid sylweddol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston; meddai’r sylfaenydd a chadeirydd, Mathew Prichard CBE:
“Mae Ymddiriedolaeth Colwinston yn falch iawn o ddathlu 30 mlynedd o gydweithio â nifer o sefydliadau celfyddydol blaenllaw ledled y DU, trwy ddyfarnu Grant Pen-blwydd arbennig i gefnogi'r profiad trochol hwn sy'n dathlu Kyffin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiweddarach eleni.
“Rydym wrth ein bodd yn cefnogi'r profiad trochol nodedig hwn yng Nghymru, yn y sefydliad lle ymddiriedodd Kyffin ei waith oes. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, teimlwn mai dyma'r amser iawn i helpu cenhedlaeth newydd i ddarganfod a mwynhau gwaith yr arlunydd Cymreig gwych hwn.”
Cefnogir y profiad hefyd gan Lywodraeth Cymru a Chyfeillion y Llyfrgell Genedlaethol.
Cyhoeddir holl fanylion y Profiad, gan gynnwys sut i archebu lle, yn yr wythnosau nesaf.
