Symud i'r prif gynnwys
Llwyddiant i Lyfrgell Genedlaethol Cymru wrth iddi Ennill Gwobr Genedlaethol

17 Mehefin 2026

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â DB3, wrth ei bodd yn cyhoeddi ei bod wedi ennill y wobr ôl-osod arloesol yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, mewn seremoni a gynhaliwyd nos Wener, 12 Mehefin.  

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith eithriadol y Llyfrgell wrth drawsnewid ei seilwaith adeiladu hanesyddol trwy raglen ôl-osod uchelgeisiol sy’n lleihau ei hôl troed carbon yn sylweddol, gan sicrhau dyfodol cynaliadwy i un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru.

Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr y Llyfrgell:

“Rydym yn hynod falch o ennill y wobr genedlaethol hon. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad y Llyfrgell i fuddsoddi’n gyfrifol yn ein hadeilad hanesyddol, sy’n gartref i drysorau a chof y genedl, tra’n lleihau ein hôl troed carbon. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru un o amcanion ein strategaeth Cymru a’r Byd yw i ddatblygu’r ystâd ac adeiladau’r Llyfrgell er mwyn darparu gofodau cyhoeddus croesawgar, storfeydd hirdymor effeithlon ar gyfer casgliadau, a gweithle sy’n addas i anghenion y dyfodol.

Mae’r prosiect wedi bod yn enghraifft wych o sut gall weledigaeth gryf y Bwrdd, cydweithio gyda staff a rheolaeth ariannol gadarn arwain at ganlyniadau rhagorol sy’n golygu ein bod yn parhau i wasanaethu anghenion pobl Cymru mewn modd cynhwysol ac ymatebol  tua’r dyfodol.”

Fel sefydliad arweiniol o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, mae’r Llyfrgell yn gwneud camau breision ar ei thaith i fod yn garbon niwtral erbyn 2028 gyda’r nod o ddileu defnydd o nwy yn llwyr a lleihau allyriadau carbon. Mae’r gwaith ôl-osod wedi cynnwys cyflwyno technolegau arloesol megis pympiau gwres aer a daear, gosod 1,622, o baneli solar, a gweithredu system rheoli adeilad deallus i wella effeithlonrwydd ynni.

Dywedodd Iwan Thomas ,cynrychiolydd o DB3:

“Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar brosiect mor arloesol. Mae'r gwaith hwn yn dangos y gellir trawsnewid adeiladau hanesyddol cymhleth i fodloni safonau cynaliadwyedd modern heb gyfaddawdu eu gwerth treftadaeth. Mae ennill y wobr hon yn dyst i ansawdd cyflawni uchel ac ymdrech tim eithriadol”.

Un o elfennau allweddol llwyddiant y prosiect oedd y cydweithio cryf gyda chrefftwyr a chontractwyr lleol yn ardal Aberystwyth a mawr yw diolch y Llyfrgell i DB3, Aber Heating Engineers, LEB Construction, Trydan Will Davey Electrical a Arctic Glaze am y cydweithio manwl a llwyddiannus.
 

Categori: Newyddion