Yn dilyn ‘tip-off’ llwyddodd y Llyfrgell brynu archif fechan o ohebiaeth a derbyniwyd gan Griff Jones, aelod gweithgar y Blaid Lafur yn Abertawe yn 30 mlynedd gyntaf y ganrif ddiwethaf mewn arwerthiant.
Un bocs yw’r archif ond mae’r pethau gorau yn dod mewn bocsys bach fely roedd yn bleser mawr i fynd trwy’r papurau hyn. Mae tri ffeil diddorol, def llythonr gan Philip Snowden, canghellor cyntaf y blaid Lafur, a llythyron a chardiau post gan Ramsay MacDonald, Prif Weinidog cyntaf Llafur at Griff Jones. Roedd Griff hefydn yn gartŵnydd, a death rhai cartwnau gyda’r casglid. Mae nhw wedi cael eu trosglwyddo i’r adrag Graffeg.
Mae llawer o’r llythyron yn delio â materion gweinyddol trefnu cyfarfodydd Llafur yn Abertawe, er bod un gan Snowden yn gwrthod cais mewn modd llawn hiwmor:
“I was in Swansea last year – nay indeed this year. And now you ask me to come again. There are, i am told 800 branches of the I. L. P. and 2000 branches of the Labour Party. If I take 3 days a week to visit each of these it will be just sixty years before your turn comes round again. Write to me again just before your turn comes round.”

Mae ambell sylw diddorol yn y llythyron gan Ramsay MacDonald, gan gynnwys ei farn ar yr Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU) a sylwadau damniol ar ymgyrch etholiad y Blaid Lafur yn 1931.


Ac er bod llawer llai o sylwedd yn y negeseuon ar y cardiau post gan MacDonald at Griff Jones, mae’n gasgliad hynod ddiddorol am ei fod yn dangos natur ei deithiau a’r perthynas ryngddo a Jones – dwi’n siwr nad oedd e’n hala cardiau post at bob trefnydd Llafur lleol o bedwar ban y byd!
Gweld mwy yng nghatalog Papurau Griff Jones.
Categori: Erthygl