Symud i'r prif gynnwys
Profiad realiti rhithwir newydd sbon sy’n dathlu sîn barti Cymru yn agor

3 Mawrth 2026

Yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 1 Mawrth, mae Ôl yn brofiad realiti rhithwir newydd sbon sy’n dathlu sîn barti Cymru, gyda’r bwriad o fynd â chynulleidfaoedd ar daith hiraethus yn ôl i 2006 - ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Mae’r profiad dwyieithog yn bosib drwy brosiect Archif Ddarlledu Cymru a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru ac mae’n gyd-gynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru, Theatr Pilot a Dreaming Methods mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Diwylliant Ieuenctid.

Drwy’r profiad, sy’n cael ei adrodd yn Gymraeg gan Steffan Donnelly (Theatr Cymru), a Callum Scott-Howells (It’s a Sin) yn Saesneg, bydd cynulleidfaoedd yn cael eu cludo i Lanberis, hen dref lechi yng Ngwynedd ar drothwy byd newydd lle mae Twitter newydd gael ei lansio ac mae pobl ifanc yn dod i arfer yn gyflym â chymdeithas lle mae’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn dechrau cymryd gafael.

Mae’r teitl a’r cysyniad yn cyfeirio at yr hiraeth roedd y cyd-gyfarwyddwyr, Lucy Hammond a Tom Chetwode-Barton, am ei ysgogi ymysg cynulleidfaoedd drwy brofiad newydd.

Wrth siarad am y stori a’r cysyniad, meddai’r cyd-gyfarwyddwr Lucy Hammond: “Nid atgof ffisegol o’n harddegau yn unig yw’r ‘ôl’; gall fod yn ofod sy’n ein hatgoffa o emosiynau a phrofiadau sy’n atseinio’n ddwfn â’n hieuenctid. Mae’r llefydd, y bobl a’r gerddoriaeth yn aros gyda ni ymhell ar ôl i ni dyfu’n oedolion.

“P’un a yw gweld graffiti ar waliau yn y parc lleol yn eich cludo’n ôl i dreulio amser gyda ffrindiau, neu bod clywed sŵn yr hysbysiad MSN yn gwneud i chi wenu, mae Ôl yn dal y teimlad penodol yna o eiliad mewn amser.”

Caiff delweddaeth o ddiwylliant ieuenctid y cyfnod ei gosod yn erbyn cefndir mynyddoedd llechi tywyll a chwareli gorffennol diwydiannol yr ardal. Ysgrifennwyd y darn gan Tom Chetwode-Barton, awdur-gyfarwyddwr a enwebwyd am BAFTA sy’n byw ar Ynys Môn, y mae eu gwaith yn aml yn archwilio themâu dosbarth, diwylliant rhanbarthol, mytholeg a rhywedd.

Y stiwdio realiti rhithwir, Dreaming Methods (Judi Alston ac Andy Campbell), yn Wakefield arweiniodd ar y gwaith o ddatblygu’r cysyniad a’r gwaith creadigol ymdrochol.

Gyda cherddoriaeth gan yr artistiaid Cymreig Super Furry Animals, John Cale a High Contrast, bydd Ôl yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith synhwyraidd, gan gyfuno theatr, tirweddau rhithwir a deunydd archif o Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol - sy’n cynnwys casgliad helaeth o gynnwys BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C.

ÔL

I’w gweld yng NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU

1 Mawrth – 12 Ebrill 2026

AM DDIM – Does dim angen archebu, dim ond galw draw

Dydd Sul – Dydd Llun – 12pm - 5pm (Mynediad olaf 4:30pm) 

Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn – 12pm - 6pm (Mynediad olaf 5:30pm) 

https://www.wmc.org.uk/cy/digwyddiadur/2026/haunts

Categori: Newyddion