Rhai blynyddoedd ar ôl cau’r Ysgol Gymraeg yn Ashford, Middlesex, rhoddwyd casgliad o lyfrau cynnar o lyfrgell yr ysgol i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r casgliad bellach wedi ei gatalogio ac ar gael i’r cyhoedd archebu’r eitemau unigol i’w astudio yn ein hystafell ddarllen.
Dyma’r cyntaf o ddau flog fydd yn rhoi cyd-destun i’r casgliad drwy adrodd hanes yr ysgol a’i chasgliadau. Bydd yr ail flog, a gyhoeddir wythnos nesaf, yn sôn am gefnogwyr a thanysgrifwyr yr ysgol.


Sefydlwyd yr ysgol o dan nawdd Cymdeithas Anrhydeddus a Theyrngar yr Hen Frytaniaid (The Honourable and Loyal Society of Antient Britons) o dan enw’r ‘British Charity School’ yn ardal Clerkenwell yn Llundain yn 1718. Adnabyddwyd yr ysgol hefyd fel y ‘Welsh Charity School’. Wrth osod yr ysgol yn ei chyd-destun hanesyddol, perthynai’r ysgol i gyfnod y ‘Dadeni Cymreig’ pan oedd Llundain yn gyrchfan i lawer o Gymry, ac yn frith gyda unigolion a chymdeithasau a oedd yn frwdfrydig i hyrwyddo ac amlygu cyfoeth a dyfnder diwylliant, a threftadaeth Cymru.
Dechreuodd stori’r ysgol gyda llogi ystafell yn Hatton Garden yn 1718 gydag ond deuddeg disgybl. Yn 1737 cychwynnwyd ar gasglu tanysgrifiadau ar gyfer adeiladu adeilad parhaol i’r ysgol. Cafwyd cyfraniadau oddi wrth wrth boneddigion ac aristocratiaid yn gysylltiedig gyda Chymru a arweiniodd at brynu darn o dir yn Clerkenwell Green ac adeiladu ysgol arno. Ymhlith noddwyr yr ysgol oedd y naturiaethwr o Gymru, Thomas Pennant, a gyfrannodd £100 at y gost o adeiladu’r ysgol newydd yn Gray’s Inn Road.
Ysgol elusennol ydoedd i ddechrau ar gyfer addysgu plant tlawd yn Llundain o dras Gymreig a chynhaliwyd hi’n ariannol gan gyfraniadau ariannol gwirfoddol. Symudodd lleoliad yr ysgol yn 1772 i Gray’s Inn Road, Llundain ac yna i Ashford, swydd Middlesex, yn 1857 cyn ei throi yn ysgol i ferched yn unig yn 1882 gyda’r enw ‘Welsh Girls School’. Caewyd yr ysgol yn swyddogol yn 2009.
Yn ystod ei hanes, a fu bron â chyrraedd y trichanmlwyddiant, roedd yr ysgol wedi newid o fod yn sefydliad addysgiadol ar gyfer bechgyn a merched difreintiedig gyda phwyslais ar ddysgu crefft a sgiliau galwedigaethol i fod, erbyn ei chau yn 2009, yn ysgol breifat, annibynnol i ferched yn unig. Ail-enwyd yr ysgol yn ‘St. David’s School’ yn 1967.
Roedd Cymdeithas Anrhydeddus a Theyrngar yr Hen Frytaniaid, a sefydlwyd yn 1715, yn un o noddwyr pennaf yr ysgol ac roedd y cysylltiadau rhwng y ddau yn agos o’r cychwyn gyda’r Gymdeithas yn cynnal ei chyfarfodydd yn yr ysgol pan roedd yr ysgol wedi ei lleoli yn Clerkenwell a Gray’s Inn Road. Cadwyd llyfrgell Cymdeithas yr Hen Frytaniaid yn yr ysgol, ac yn y man etifeddodd yr ysgol ddeunydd llyfrgellyddol y gymdeithas pan ddaeth honno i ben yn 1787. Ar wahân i lyfrau Cymdeithas yr Hen Frytaniaid, roedd deunydd llyfrgell yr ysgol, yn cynnwys deunydd darllen o sefydliadau eraill, er enghraifft, y Cymmrodorion, a’r Gymdeithas Er Lledaenu Gwybodaeth Ddefnyddiol (Society for the Diffusion of Useful Knowledge). Yn yr un modd etifeddodd yr ysgol pamffledi a deunydd darllen Cymdeithas y Cymmrodorion pan ddaeth y gymdeithas honno i ben am y tro cyntaf yn 1785. Mae’r casgliadau uchod i gyd bellach ar gael yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.


Roedd niferoedd yr ysgol wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif. Yn 1837 roedd 160 o blant (bechgyn a merched) yn yr ysgol ac erbyn 1857 roedd 2,200 o fechgyn a 670 o ferched yn yr ysgol. Datganodd y Tywysog Rhaglaw (mab y Frenhines Fictoria), yn ei anerchiad yn seremoni agoriadol yr ysgol newydd yn Ashford ar Orffennaf 13, 1857, sut oedd natur a chyfansoddiad yr ysgol wedi esblygu er ei chychwyn. Esboniodd fel roedd sylfaen yr addysg ar gychwyn hanes yr ysgol yn pwysleisio elfennau galwedigaethol a phrentisiaethau er mwyn galluogi’r plant hynny i ennill bywoliaeth. Rhoddwyd sylw cytbwys i addysg Gristnogol a sicrhau teyrngarwch i’r Frenhiniaeth gan fod yr ysgol wedi ei chychwyn yn wreiddiol ar Fawrth 1af, 1718, sef pen-blwydd y Dywysoges Caroline. Roedd hwn wrth gwrs hefyd yn ddyddiad pwysig yng nghalendr y Cymry oherwydd dathliadau cenedlaethol Dydd Gŵyl Dewi.
Yn Adroddiad Blynyddol yr ysgol yn 1900 dywedwyd: ‘During the period previous to 1882 about 2,600 boys and about 900 girls were admitted to the benefit of the Institution. The children received board, clothing, and a sound, useful education; a great number of them were afterwards apprenticed to useful trades, others were fitted out and sent to the Colonies, others to sea, some to service and many became pupil teachers. There is evidence to show that many of these children became afterwards prosperous, useful, and loyal citizens…’.
Yn 1882 penderfynwyd i gau’r hen ysgol a digolledu’r disgyblion hynny oedd yno ar y pryd. Agorwyd yr ysgol newydd ar 4 Hydref, 1882 gydag enw newydd, sef ‘Ysgol Gymraeg i Ferched’ gyda’r bwriad i ddarparu addysg uwch, gyda llety ar gyfer merched yn unig. Roedd ble roedd y disgyblion neu eu rhieni yn byw ddim o bwys – yr unig gymhwyster ar gyfer mynediad i’r ysgol oedd bod rhaid i un o’r rhieni fod wedi cael eu geni yn ‘Nhywysogaeth Cymru, sir Fynwy, neu ym mhlwyfi Croesoswallt, Selattyn a Llanymynech yn swydd Salop’ (sef yr hen enw ar swydd Shropshire).
Roedd merched rhwng 10-15 mlwydd oed yn cael mynediad i’r ysgol a chategoreiddiwyd eu haddysg yn ôl ei werth ariannol. Roedd ysgolheigion oedd yn talu’r haen uchaf y flwyddyn yn gwario £32 y flwyddyn, yna ysgolheigion yr haen ganol yn talu £16 y flwyddyn a Sylfaenwyr yn derbyn llety ac addysg yn ddi-dâl. Roedd y ddau gategori olaf yn cael eu hethol, ar sail canlyniadau eu harholiadau, gan Gorff Cyffredinol y Tanysgrifwyr. Marchnatwyd lleoliad cyfleus Ashford fel un o fanteision yr ysgol oherwydd ei agosatrwydd at Orsaf Rheilffordd Ashford a’i fod ond 16 milltir o Lundain, 7 milltir o Windsor a 25 milltir o Reading wrth deithio ar Rheilffordd ‘London and South Western’.
Roedd natur y pynciau yn y cwricwlwm yn academaidd. Ffon fesur llwyddiant yr Ysgol i Ferched oedd y cynnydd a fu yn nifer y disgyblion rhwng 1882 pan gofrestrwyd 54 o ddisgyblion o gymharu â 1900 pan oedd 150 o ddisgyblion wedi eu cofrestru. Er hynny, ychydig dros ganrif yn ddiweddarach, caeodd yr ysgol ei drysau am y tro olaf yn 2009 oherwydd trafferthion ariannol. Diwedd trist i sefydliad a fu gyda rôl allweddol yn rhoi lloches i rai o drysorau llenyddol a llawysgrifol pwysicaf Cymru.
Llyfryddiaeth
- Adroddiad Blynyddol yr Ysgol Gymraeg i Ferched
- Gwefan LLGC
- Y Bywgraffiadur Cymreig
- ‘Hanes Cymru’ – John Davies
Bethan Hopkins-Williams
Cynorthwy-ydd catalogio
Categori: Erthygl