Ysgolhaig llenyddiaeth Cymraeg enwog-yn-eu-dydd oedd Griffith John Williams (1892-1963). Roedd yn dod o Cellan yn wreiddiol, yn fab i ofaint, ac aeth i Ysgol Ganolraddol Tregaron cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg Brifysgol Cymru Aberystwyth. Aeth ymlaen i ddarganfod ffugiadau Iolo Morgannwg, a chyhoeddi’n eang ar bob math o bynciau llenyddol, yn cynnwys teithio i’r Biblioteca Ambrosiana yn Milano i ddod o hyd i wybodaeth am y gramadegydd ac alltud Catholig Gruffydd Robert. Cystadlodd G. J. Williams yn yr Eisteddfodau gyda'i ryddiaith a'i farddoniaeth ei hun hefyd, ac enillodd gwobrau am ei waith ysgrifennu. Yr hyn sydd fwyaf perthnasol i ni yma yn y Llyfrgell Genedlaethol yw cariad G.J. Williams at y llyfr ffisegol yn ogystal â'i gynnwys. Roedd yn gasglwr brwd - ac fe roddodd ei gasgliad cyfan yn hael i'r Llyfrgell Genedlaethol yn ei ewyllys.
Mae ei gasgliad cynnar yn dechrau ym 1567 gyda chyfieithiad o Destament Newydd William Salesbury (GJW 1 a 2) ac yn cynnwys 438 o lyfrau a gyhoeddwyd cyn 1830. Mae tua chant ohonynt yn dyddio o'r 17eg ganrif. Mae llawer o'r llyfrau wedi'u darllen a'u defnyddio'n helaeth, ac wedi cael eu trosglwyddo drwy'r teulu neu rhwng ffrindiau ac aelodau o'r teulu. O ganlyniad, mae llawer o'r llyfrau yn llawn nodiadau ymyl y dudalen (marginalia).
Yn ôl Katherine Acheson (2019), mae marginalia yn 'evidence of reading practice...in interaction with key cultural and literary texts and in the context of an intellectual and ideological community'. Mae hi’n crynhoi y nodiadau fel hyn: ‘ownership, 'pen-trials', doodles, and practice in writing and arithmetic, accounts, family events, births, journeys and illnesses, and marriages (and deaths..) [and] endless dry runs of people learning to write their names'. Yn sicr, daethpwyd ar draws y rhain i gyd yn llyfrau cynnar GJW. Un peth nad yw'n ei grybwyll yw barddoniaeth. Roedd llawer o lyfrau'n cynnwys cerddi – llinellau enwog wedi'u hysgrifennu'n daclus gan gynnwys 'When Thy Beauty Appears' gan Thomas Parnell, wedi'i ysgrifennu gair am air mewn rhifyn o waith Dryden o 1721 (GJW 91) neu benillion a gyfansoddwyd gan berchennog y llyfr ei hun. Yr hyn a oedd yn ddiddorol hefyd, i rywun nad yw'n hanesydd fel fi, oedd y gwahaniaeth amlwg o ran inc, arddull a llawysgrifen rhwng y 16eg, y 17eg a'r 18fed ganrif. Os nad oedd y dyddiad cyhoeddi yn glir, roedd y nodiadau ymylol yn aml yn gallu arwain y catalogydd at y cyfnod cywir.
Roedd mwyafrif y llyfrau yn eiddo i ddynion, ond roedd rhai yn eiddo i fenywod. Y cynharaf oedd Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo yr anghyfarwydd i'r nefoedd o 1682 (GJW 51) a oedd yn eiddo i Catharine Morris. Mae yna hefyd gyfrol o gatecismau o 1762 sy'n llawn brasluniau gan ddynes (neu efallai merch ifanc) o'r enw Anne neu Alice Bevan, gyda cerdd eithaf llwm, a gyfansoddwyd ganddi hi ei hun, ar y dudalen olaf (GJW 152).
Peth arall i'w nodi am y casgliad rhagorol hwn oedd yr amrywiaeth syfrdanol o gynnwys. Byddai'n rhy syml meddwl bod cyhoeddiadau Cymraeg cynnar yn cael eu dominyddu gan ddeunyddiau crefyddol (er bod llawer ohonynt, wrth gwrs). Mae llawer mwy o genres i'w mwynhau: chwedlau, barddoniaeth, ceisiadau am drugaredd rhag dienyddiad (!), marwnadau, hanesion, llyfrau gramadeg, llyfr am hobïau boneddigion, cyfieithiadau o'r Almaeneg, Sbaeneg, Lladin a Groeg, llythyrau, cofiannau, llyfrau meddygol teuluol (gyda nodiadau gan y teulu oedd yn ei perchen), a llyfr enwau babanod o'r 17eg ganrif (sy’ amlwg wedi cael llawer o ddefnydd!)
Er bod y casgliad wedi'i rifo, ni chafodd ei ychwanegu at y catalog ar-lein o'r blaen, ac nid oedd ffordd syml o ddod o hyd i'r llyfrau ar y silff chwaith. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llyfrau gwerthfawr GJ Williams wedi'u hychwanegu at y catalog, ac maent yn barod i'w harchebu a'u hastudio gan ddarllenwyr yn yr ystafell ddarllen.
Categori: Erthygl
